Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Gweithgaredd gwella ansawdd

Diben casglu a myfyrio ar weithgarwch gwella ansawdd yw eich galluogi i adolygu a gwerthuso ansawdd eich gwaith;  er mwyn nodir hyn syn gweithion dda yn eich ymarfer a ble y gallwch wneud newidiadau; er mwyn ystyried a yw newidiadau rydych wediu gwneud wedi gwellach ymarfer neu pa gamau pellach y mae angen i chi eu cymryd.  

 

Maer Cyngor Meddygol Cyffredinol yn dweud: 

“Rhaid i chi ach arfarnwr neuch swyddog cyfrifol drafod lefel ac amlder y gweithgarwch gwella ansawdd syn briodol ar gyfer eich gwaith.  

Rhaid i chi allu dangos eich bod wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch gwella ansawdd syn berthnasol i bob agwedd ar eich ymarfer o leiaf unwaith yn eich cylch ailddilysu. Fodd bynnag, bydd lefel ac amlder y gweithgarwch yn dibynnu ar ei natur. 

Dylech gymryd rhan mewn unrhyw archwiliad cenedlaethol neu adolygiad o ganlyniadau os oes un yn cael ei gynnal yn eich maes ymarfer. Hefyd, dylech fyfyrio ar ganlyniadaur archwiliadau neur adolygiadau hyn, hyd yn oed os na allwch gymryd rhan yn uniongyrchol.  

Dylech werthuso a myfyrio ar ganlyniadaur gweithgaredd, gan gynnwys pa gamau rydych wediu cymryd mewn ymateb ir canlyniadau ac effaith y newidiadau rydych wediu gwneud dros amser, a thrafod y canlyniadau hyn yn eich gwerthusiad.  

Os nad ydych wedi gallu gwerthuso canlyniad y newidiadau rydych wediu gwneud neun bwriadu eu gwneud ich ymarfer, rhaid i chi drafod gydach arfarnwr sut y byddwch yn cynnwys hyn yn eich cynllun datblygu personol ar gyfer y cyfnod arfarnu canlynol”. 

Canllawiau ar wybodaeth ategol ar gyfer arfarnu ac ailddilysu

Wrth ystyried gweithgareddau gwella ansawdd nid ywr Cyngor Meddygol Cyffredinol yn diffinion union beth syn cyfrif fel Gweithgaredd Gwella Ansawdd at ddibenion ailddilysu.  

Mae gweithgareddau gwella ansawdd yn amrywio gan ddibynnu ar natur eich gwaith ach ymarfer. 

Dylech feddwl am y gweithgareddau neur gwaith rydych wedii wneud sydd wedi canolbwyntio ar wella ansawdd. 

Dylech feddwl am bob elfen or term "Gweithgaredd Gwella Ansawdd”. 

Gweithgaredd  

Dylech gymryd rhan bersonol mewn gweithgaredd o ryw fath, gwneud rhywbeth, ond nid o reidrwydd yn gwneud yr holl waith, a dylai fod yn berthnasol ich ymarfer. 

Ansawdd 

Dylair gweithgaredd ganolbwyntio ar ryw agwedd ar ansawdd ymarfer, gan fesur eich ymarfer yn erbyn safon gydnabyddedig os yn bosibl 

Gwella 

Dylech fod yn rhan o broses o newid syn arwain naill ai at wella neu ddangos bod ymarfer da wedii gynnal a darparu tystiolaeth i ddangos hynny fel y bon briodol. 

Maer Cyngor Meddygol Cyffredinol yn awgrymur enghreifftiau canlynol o Weithgaredd Gwella Ansawdd: 

  • Adolyguch perfformiad yn erbyn data meincnodi lleol, rhanbarthol neu genedlaethol os ywn gadarn, wedii briodoli ac wedii ddilysuGallai hyn gynnwys ystadegau morbidrwydd a marwolaeth neu gyfraddau cymhlethdod.  
  • Archwiliad clinigolRhaid cynnwys tystiolaeth o gyfranogiad effeithiol mewn archwiliad clinigol neu ymarferiad gwella ansawdd cyfatebol syn mesur y gofal rydych wedi cyfrannu aton uniongyrchol.   
  • Adolygiad neu drafodaeth o’r achos. Cofnod o achosion diddorol neu heriol rydych wedi’u trafod ag un o’ch cymheiriaid, arbenigwr arall neu mewn tîm amlddisgyblaethol. 
  • Dadansoddiad o ddigwyddiad dysgu 
  • Archwilio a monitro effeithiolrwydd rhaglen addysgu.  
  • Gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd polisi iechyd neu ymarfer rheoli.  

Maen rhaid i weithgaredd Gwella Ansawdd gael ei gynnal o leiaf unwaith yn ystod y cylch ailddilysu. 

Maen bosibl y bydd canllawiau Colegau Brenhinol a chanllawiau arbenigeddau penodol yn nodi bod angen cynnal gweithgaredd or fath mwy nag unwaith. Gall Colegau Brenhinol bennur hyn sydd ei angen mewn perthynas âu harbenigeddau eu hunain. At ddibenion ailddilysu, bydd eich Swyddog Cyfrifol yn ystyried gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol, nid argymhellion eich Coleg Brenhinol, wrth wneud argymhelliad. 

Mae llawer o sefydliadaun gofyn am gyfranogiad mewn gweithgaredd archwilio syn adolygu ansawdd eich gwaith. Os ywr adolygiad hwn yn nodi y gallai ansawdd gofal gael ei wellamae angen gweithgaredd pellach i wneud newid, a dangos bod gwelliant wedii sicrhauer mwyn cwblhau hyn fel gweithgaredd gwella ansawdd 

Os ydych yn cadarnhau eich bod yn cyflawni i safon uchel, maen bosibl na fydd y gweithgaredd hwn yn nodi unrhyw feysydd ar gyfer newid neu botensial am welliant. 

Lle bynnag y bo modd, er mwyn dangos a oes gwelliant wedi digwyddneu os ywr gweithgaredd wedi dangos tystiolaeth o ymarfer da, dylid ailadrodd y gweithgaredd neu gynnal archwiliad arall maes o law. 

Dylech geisio darparu tystiolaeth o Weithgaredd Gwella Ansawdd yn eich holl waith. 

Dylair gweithgaredd fod yn berthnasol ich gwaith ac yn seiliedig ar eich ymarfer yn y DU.  

Dylair myfyrdod yng nghofnod MARS ar gyfer eich arfarniad ganolbwyntio ar sut byddair newidiadau arfaethedig neu wirioneddol yn arwain at welliant mewn gofal cleifion.  

Mae nifer o dempledi Gweithgaredd Gwella Ansawdd MARS wediu teilwra ar gyfer mathau gwahanol o weithgareddaugan gynnwys templed arall cyffredinol. Maer penawdau wediu cynllunio i gaffael y wybodaeth ofynnol.  

Eich Swyddog Cyfrifol a fydd yn penderfynu a oes digon o weithgaredd gwella ansawdd dros eich cylch ailddilysu.   

Maen gallu bod yn gymharol anodd penderfynu a ydych wedi gwneud digon. 

Maen bosibl y bydd un darn mawr o waith, dros 2 neu 3 chyfnod arfarnu yn aml, yn bodlonir holl ofynion. Maen debyg na fydd gweithgareddau symlachfel un adolygiad achos neu drafodaeth, yn ddigon ar eu pennau eu hunain, ond gallent fod yn dderbyniol wrth gael eu cyfuno â nifer o weithgareddau Gwella Ansawdd syml eraill.  

Os ywch arfarniadaun cynnwys ychydig iawn o dystiolaeth yn unig o Weithgareddau Gwella Ansawdd, maen bosibl y bydd eich arfarnwyr, neur Swyddog Cyfrifol, or farn nad ydych wedi gwneud digon i fodlonir gofynion ailddilysu.  

MaeRSU wedi datblygu adnodd i helpu arfarnwyr i asesu Gweithgareddau Gwella Ansawdd a gyflwynir at ddibenion arfarnu.  

Maer adnodd yn ystyried pob un o nodweddion Gweithgaredd Gwella Ansawdd a ddisgrifir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol: 

  • Perthnasedd  perthnasol ich gwaith a chyfranogiad gweithredol 
  • Cadarn a Systematig – tystiolaeth o gynllunio 
  • Ystyried Ymarfer Da – seiliedig ar dystiolaeth  
  • Cyfathrebu  sgwrs â chymar neur tîm  
  • Ystyried ymarfer presennol – disgrifiad, myfyrdodmesur y broses gyfredol 
  • Canlyniad neu Newid  dangos canlyniad neu newid 
  • Gweithredu  mewn ffordd briodol ac mewn ymateb ir canlyniadau 
  • Gwella  mae gwelliant wedii sicrhau neu mae ymarfer da wedii gynnal 
  • Myfyrio  sut aethoch ati i ddefnyddior wybodaethmyfyrio ar y wybodaethbeth maen ei ddweud am eich ymarfersut rydych yn bwriadu datblygu neu addasuch ymarfer 

Os ywr Gweithgaredd Gwella Ansawdd yn cynnwys pob un or pwyntiau bwled uchod, maen debygol o gael ei ddilysu gan eich arfarnwr at ddibenion ailddilysu. 

Os oes bylchau sylweddol, maech arfarnwr yn debygol o ysgrifennu angen mwy o waith wrth ymyl y Gweithgaredd Gwella Ansawdd yn eich tudalen ailddilysu, ac fel arfer bydd yn nodi bod angen cwblhaur gwaith hwn yn eich CDP ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

Maen syniad da dechrau gweithio ar y Gweithgaredd Gwella Ansawdd ar gyfer ailddilysu yn gynnar yn y cylch, er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o amser i sicrhau bod gennych ddigon o dystiolaeth o ansawdd eich gwaith erbyn eich proses ailddilysu. 

Gall defnyddior cylch gwella ansawdd Cynllunio, GwneudAstudio, Gweithredu eich helpu i gadarnhau a ywch gweithgaredd yn bodlonir trothwy. Yn gyffredinol, maech arfarnwr eisiau penderfynu a fyddaich camau gweithredu ach myfyrdod mewn perthynas âch gweithgaredd, waeth a ywn archwiliad, yn adolygiad achos neun gyfres o achosion, yn golygu y byddai unrhyw wendidau a nodwyd ym maes rheoli cleifion yn llai tebygol o ddigwydd yn dilyn eich myfyrdod na chyn eich myfyrdod ar y mater. 

Maer Cyngor Meddygol Cyffredinol yn nodi bod y broses o ddangos eich bod yn cynnal ymarfer da   yn ganlyniad derbyniol, ond y byddain ddefnydd llawer gwell och amser ach ymdrechion i ddewis gweithgaredd lle rydych yn credu bod modd gwella ansawdd eich gwaithyn hytrach na dim ond cadarnhauch disgwyliadau nad oes angen gwella. Unig ddiben llawer o archwiliadau yw adolygu perfformiad er mwyn dangos bod safonaun cael eu bodloniyn hytrach na bod yn ddull o wella ansawdd gofal.  

Mae sawl ffordd o nodi meysydd ar gyfer gwelliant: 

  • DPP - rydych yn dysgu am ddull ymarfer gwell, tystiolaeth newydd syn gofyn am gamau gweithredu, dulliau newydd rydych yn penderfynu eu mabwysiadu 
  • Mae adolygiad yn erbyn data sylfaenol neu ganllawiau yn nodi bod angen gwellach perfformiad  
  • Mae digwyddiadau arwyddocaol, digwyddiadau dysgu, cwynion, adborth gan gleifion, neu adborth gan gydweithwyr yn nodi potensial ar gyfer gwelliant  
  • Gallai rhywbeth symynd dan eich croen fod yn faes iw wella 

Mae rhagor o wybodaeth am Weithgaredd Gwella Ansawdd ar gael 

Ar gyfer enghreifftiau o Weithgareddau Gwella Ansawdd, gan gynnwys esboniad or hyn sydd angen ei gynnwys i fodlonir safon ofynnol.  

Cliciwch yma ar gyfer syniadau ar gyfer Gweithgareddau Gwella Ansawdd. 

Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi llunio canllawiau manwl ar Wella Ansawdd ar gyfer meddygon teulu syn berthnasol i feddygon eraill  

https://www.rcgp.org.uk/-/media/Files/CIRC/Quality-Improvement/RGCP-QI-Guide-260216.ashx?la=en 

Maen bosibl y bydd gan sefydliadau eraillfel Colegau Brenhinol a Byrddau Iechyd, adnoddau ar gyfer Gwella Ansawdd hefyd 

  

 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences