Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Chwarteri a Ddyrennir

Chwarter a Ddyrennir yw chwarter y flwyddyn pan fyddai disgwyl i chi gwblhau'ch arfarniad fel arfer. 

Bydd MARS yn eich gosod mewn Chwarter a Ddyrennir yn awtomatig ar sail y wybodaeth sy'n cael ei darparu gennych yn ystod y broses gofrestru. 

Y Chwarteri a Ddyrennir yw Ionawr-Mawrth, Ebrill-Mehefin, Gorffennaf-Medi a Hydref-Rhagfyr. Dylai'ch Chwarter fod tua 9-12 mis ar ôl dyddiad eich Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant, gan roi digon o amser i chi gasglu gwybodaeth ar gyfer eich arfarniad a pharhau i sicrhau y gallwch gwblhau digon o arfarniadau blynyddol cyn dyddiad eich proses ailddilysu nesaf. Argymhellir bwlch o 9 mis o leiaf rhwng arfarniadau er mwyn manteisio'n llawn arnynt. 

Eich Corff Dynodedig, ar y cyd â'r Uned Gymorth Ailddilysu, sy'n rheoli protocol y Chwarter a Ddyrennir a'r broses newid. Cyflwynwyd y system Chwarteri a Ddyrennir er mwyn symleiddio’r  broses arfarnu yn lleol a gwneud yn fawr o allu pob Arfarnwr. 

Bydd eich Chwarter a Ddyrennir yn aros yn ddigyfnewid bob blwyddyn, ac os ydych wedi cwblhau'ch arfarniad yn hwyr, dylech gysylltu â'r swyddfa arfarnu ac ailddilysu yn eich Corff Dynodedig er mwyn penderfynu pryd y dylech gwblhau'ch arfarniad nesaf. 

Mae'n bosibl y bydd angen i chi ohirio'ch arfarniad mewn amgylchiadau arbennig, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, cyfnodau sabothol, afiechyd, absenoldeb tosturiol ac ati. Os ydych wedi wynebu amgylchiadau arbennig, ewch i'r adran 'Beth sy'n digwydd os na allaf gael fy arfarniad?' 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences