Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Adborth gan Gleifion a Chydweithwyr - Orbit360

Mae gan bob meddyg sy'n gweithio yn GIG Cymru fynediad i system adborth cleifion a chydweithwyr Orbit360.

I'r rhan fwyaf o feddygon, bydd hyn yn darparu llwybr i sicrhau'r gofyniad lleiaf o 1 ymarfer adborth cydweithiwr ac 1 claf unwaith bob cylch ailddilysu. Dylech hefyd, ym mhob arfarniad, fyfyrio ar unrhyw ffynonellau adborth cleifion eraill y gallwch eu cyrchu, sy'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am eich ymarfer (megis adborth digymell). I gael y canllawiau diweddaraf ar adborth cleifion a chydweithwyr yn ystod yr arfarniad ac ar gyfer ailddilysu, dylech ddarllen Canllawiau Gwybodaeth Ategol y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Gallwch chi gwblhau adborth eich claf a'ch cydweithiwr ar unrhyw adeg yn eich cylch ailddilysu. Mae'n arfer da cael eich adborth yn gynnar yn eich cylch ailddilysu oherwydd, os oes angen newidiadau, efallai y byddwch yn dewis rhedeg yr adborth eto i ddangos datblygiad.  

Sut mae system Orbit360 yn gweithio? 

Mae Orbit360 yn system adborth benodol pen-i-ben i gleifion a chydweithwyr sy'n integreiddio'n uniongyrchol i'r System Ailddilysu Arfarnu Meddygol (MARS). Fe'i datblygwyd gan yr Uned Cymorth Ailddilysu (RSU) ar y cyd â'r Tîm Digidol o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Defnyddir Orbit360 ar gyfer eich ymarfer adborth ffurfiol.

Mae Orbit360 wedi’i dylunio ar blatfform hyblyg fel bod modd i broffesiynau eraill ddefnyddio’r system yn y dyfodol o bosibl. Hefyd, mae’n golygu y gallwn ymateb i unrhyw newidiadau i ofynion ailddilysu a gyflwynir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Mae Orbit360 yn llunio adroddiad ar sail adborth gan gleifion a chydweithwyr y gallwch fyfyrio arno yn ystod eich arfarniad. 

Fel rhan o’r broses ailddilysu, mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i feddygon gasglu adborth ffurfiol gan gydweithwyr a chleifion. Mae rhagor o arweiniad ar gael yn yr adran Cwestiynau Cyffredin  

Proses 

Mae siart llif sy’n dangos Orbit360 ar gael yma.

  1. Bydd angen i chi gofrestru ar Orbit360 a chadarnhau’ch cyfeiriad e-bost. Dylech sicrhau bod eich manylion, gan gynnwys eich rhif Cyngor Meddygol Cyffredinol, wedi’u cofnodi’n gywir. 
  2. Ar ôl i chi gadarnhau’ch cyfeiriad e-bost gallwch fewngofnodi a chychwyn eich arolwg/arolygon drwy’r dudalen rheoli adborth’.  
  3. Bydd Orbit360 yn cwblhau gwiriad awtomatig yn erbyn GMC Connect a MARS, ac os ydych yn bodloni’r meini prawf bydd eich arolwg/arolygon yn cael eu cymeradwyo’n awtomatig. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf, bydd eich Corff Dynodedig yn adolygu cais yr arolwg. 
  4. Wedyn gallwch nodi manylion eich Cydweithiwr Meddygol Cynorthwyol a’ch rhestr o gydweithwyr, a lawrlwytho’ch ffurflenni cleifion ar yr un pryd.  
  5. Dylai’r ffurflenni adborth gan gleifion gael eu gweinyddu gan drydydd partia gallai’r unigolyn hwn fod yn dderbynnydd neu’n aelod arall o staff clinigol neu anghlinigol.  
  6. Wedyn dangosir barrau cynnydd ar gyfer pob arolwg sy’n nodi’r ymatebion a dderbyniwyd a’r amser sy’n weddill. Rhaid i chi gwblhau’ch adborth o fewn 8 wythnos. Gallwch ychwanegu manylion cydweithwyr eraill neu lawrlwytho ffurflenni cleifion ychwanegol unrhyw bryd tra bod yr arolwg/arolygon yn weithredol. 
  7. Gellir dychwelyd ffurflenni cleifion trwy’r e-bost neu'r post.  
  8. Bydd eich adroddiad yn cael ei lunio’n awtomatig ar ôl i chi dderbyn isafswm o ymatebion ac ar ôl i’r cyfnod 8 wythnos ddod i ben. Fel arall, gallwch ofyn i’ch Cydweithiwr Meddygol Cynorthwyol edrych ar yr adroddiad yn gynnar ar ôl sicrhau’r isafswm o ymatebion. Mae angen isafswm o 15 ymateb gan gydweithwyr a 20 ymateb gan gleifion arnoch. 

Nid yw’r Cydweithiwr Meddygol Cynorthwyol yn gyfrifol am arfarnu meddygon teulu fel arfer. Dylech ddewis cydweithiwr clinigol; ni ddylai’r meddyg hwn berthyn i chi, ond gallai fod yn bartner i chi neu’n unigolyn arall rydych yn gweithio’n agos gydag ef. 

Ar gyfer pob meddyg arall, mae’r Cydweithiwr Meddygol Cynorthwyol yn gallu bod yn arfarnwr. Dylech ddewis cydweithiwr clinigol; ni ddylai’r meddyg hwn berthyn i chi, ond gallai fod yn unigolyn arall rydych yn gweithio’n agos gydag ef. 

Canllawiau ar gyfer Cydweithwyr Meddygol Cynorthwyol 

Swyddogaeth y Cydweithiwr Meddygol Cynorthwyol yw helpu’r meddyg i ddeall a myfyrio ar ei adborth. Mae rhagor o wybodaeth am swyddogaeth y Cydweithiwr Meddygol Cynorthwyol ar gael yma. 

Bydd y Cydweithiwr Meddygol Cynorthwyol yn gwneud y canlynol; 

  1. Gwirio’r rhestr o gydweithwyr a ddewiswyd gan feddyggan sicrhau bod y rhestr yn cynrychioli cydweithwyr ym mhob agwedd ar ei ymarfer. 
  2. Adolygu adroddiad y meddyg. 
  3. Darparu adborth ar adroddiad y meddyg a’i ddychwelyd iddo.  

Yr Adroddiad 

Bydd modd lawrlwytho’ch adroddiad sydd wedi’i gwblhau. Ewch i’r adran ‘adroddiadau sydd wedi’u cwblhau’ ar Orbit360. 

Pan fydd gennych yr adroddiad wedi’i gwblhau, dylech greu cofnod ‘Adborth’ ar system MARS, lanlwytho’ch adroddiad a myfyrio ar yr adborth a gawsoch er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni’r gofynion ar gyfer ailddilysu.  

Os oes gennych ragor o gwestiynau, e-bostiwch heiw.orbit360@wales.nhs.uk  

 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences