Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Yr hyn i'w ddisgwyl gan eich Arfarnwr

Mae pob Arfarnwr wedi'i hyfforddi'n ffurfiol ac yn parhau i gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus. Nid ei gyfrifoldeb ef yw gwneud argymhellion ailddilysu; y Swyddog Cyfrifol (RO) sy’n penderfynn hyn. Yn lle hynny, bydd yn llunio crynodeb o arfarniad mewn cytundeb â chi. Bydd y crynodeb hwn, a hyd at bedwar crynodeb arall, yn hysbysu'r RO wrth ystyried argymhelliad ailddilysu.

Yn ystod cylch ailddilysu arferol, bydd gennych o leiaf dri arfarnwr gwahanol. Er y gall dull pob arfarnwr fod ychydig yn wahanol, dylai pob arfarniad gynnwys yr prif elfennau canlynol yn gyson: 

  1. Paratoad da a dealltwriaeth glir o ffolder y meddyg
  2. Gohebiaeth brydlon a dibynadwy gyda'r meddyg cyn ac ar ôl y cyfarfod, yn ôl yr angen.
  3. Awyrgylch gefnogol, gan helpu'r meddyg i deimlo'n gyfforddus a chydnabod y prif gyflawniadau.
  4. Strwythur clir i’r cyfarfod, tra'n caniatáu i elfennau pwysig o safbwynt y meddyg ddod i'r amlwg. Weithiau, mae materion lles yn bwysicach nag elfennau eraill. Gall fod newid strwythurol yn yr amgylchedd gwaith ac wrth gwrs trafodir a dilysir unrhyw wybodaeth ategol sy'n bresennol.
  5. Nodir cyfyngiadau i ddilyniant y meddyg (hyd yn oed os nad yw'r meddyg yn eu nodi'n amlwg)
  6. Hwyluso a herio'r meddyg i feddwl yn ddyfnach am yr hyn mae ef wedi'i nodi fel ei wybodaeth ategol.
  7. Cynorthwyo cydnabyddiaeth o anghenion datblygu a defnyddio’r rhain i lunio amcanion PDP ystyrlon..
  8. Atgoffa meddygon y dylent gwmpasu pob maes o'u hymarfer.
  9. Bod yn ymwybodol o ddyddiad ailddilysu'r meddyg a helpu i gadw golwg ar wahanol gategorïau gwybodaeth ategol ac atgoffa'r meddyg i'w cyflawni, gan gynnwys hyn yn y Cynllun Datblugu Personol (PDP) o bosibl.
  10. Meddu ar wybodaeth ddigonol i allu cyfeirio’r meddyg at wahanol ffynonellau cymorth neu arweiniad os oes angen.
  11. Ysgrifennu crynodeb proffesiynol a chywir o'r cyfarfod arfarnu o fewn cyfnod rhesymol
  12. Bod yn wybodus am bob agwedd ar arfarnu ac ailddilysu a gallu ateb unrhyw gwestiynau gan yr arfarnwr neu allu darganfod yr ateb a dod yn ôl atynt.

 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences