Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Proses Ailddilysu: Beth sydd angen i chi ei wybod

Mae’n rhaid i bob meddyg gynnal trwydded i ymarfer trwy gwblhau’r broses ailddilysu, ac mae’n rhaid i chi gofio rhai pwyntiau allweddol i sicrhau eich bod yn cwblhau’r broses yn effeithiol.

  1. Dylech wybod pwy yw’ch corff dynodedigh.y.y sefydliad y mae angen i chi gysylltu ag ef trwy system GMC ConnectMae adnodd arweiniad GMC Connection yn ddefnyddiol iawn os nad ydych yn siŵr pwy yw’ch corff dynodedig. Bydd Swyddog Cyfrifol eich corff dynodedig yn gwneud argymhelliad i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ynglŷn ag a ddylid eich ailddilysu ai peidio. Fel arfer yn GIG Cymru, yr unigolyn hwn yw Cyfarwyddwr Meddygol y Bwrdd Iechyd lle rydych yn gwneud y rhan fwyaf o’ch gwaith. Bydd rhai meddygon nad ydynt yn gweithio i GIG Cymru yn gallu cysylltu â Swyddog Cyfrifol y sefydliad sy’n eu cyflogi, tra bod eraill yn gallu nodi Unigolyn Addas i gysylltu ag ef (mae Unigolyn Addas yn feddyg sydd wedi’i benodi gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol sy’n gallu gweithredu fel Swyddog Cyfrifol ar gyfer meddygon nad ydynt yn gweithio i’r GIG). Bydd lleiafrif bach o feddygon nad oes ganddynt gorff dynodedig yn ailddilysu’n uniongyrchol gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.  
  2. Dylech gofrestru ar gyfer arfarniad ar wefan MARS, sef y wefan a ddefnyddir gan bob un o feddygon y GIG yng Nghymru. Os nad ydych yn gweithio i GIG Cymru, bydd eich Swyddog Cyfrifol yn gallu’ch hysbysu am y trefniadau y dylech eu gwneudAr ôl i chi gwblhau’r manylion cofrestru ar system MARS, byddwch yn cael cadarnhad o’ch cofrestriad. Ar ôl cofrestru, dylech sicrhau bod eich manylion proffesiynol yn cael eu diweddaru unwaith y flwyddyn o leiaf.
  3. Dylech ddarllen dogfen ganllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar ofynion ailddilysu, sef Canllawiau ar wybodaeth ategol ar gyfer arfarnu ac ailddilysu. Bydd y ddogfen hon yn darparu gwybodaeth am beth i’w gasglu a thystiolaeth mewn arfarniadau yn ymwneud ag ailddilysu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma hefyd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y dudalen Gwybodaeth Ategol.  
  4. Dylech drefnu’ch arfarniad blynyddol, sy’n drafodaeth gefnogol ac anfeirniadol am y wybodaeth sydd wedi’i choladu a’i chofnodi yn eich cyfrif MARS. Er mwyn bodloni gofynion y broses ailddilysu, mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i bob meddyg gyflwyno gwybodaeth ategol yn ymwneud â phob agwedd ar ei ddyletswyddau proffesiynol. Mae meddygon yn cyflawni swyddogaethau lluosog yn aml - naill ai ar draws arbenigeddau neu ym meysydd rheoli, addysg ac ati. Bydd gofynion ailddilysu yn berthnasol i bob un o’r swyddogaethau hyn, a bydd angen eu cynnwys mewn trafodaeth arfarnu, er mae’n bosibl na fydd pob un ohonynt yn cael eu trafod yn fanwl. Bydd rhan o’r drafodaeth arfarnu yn cynnwys cyfeiriad at eich cynnydd tuag at ailddilysu, ac mae’n eich atgoffa am y gofynion a fodlonwyd gennych eisoes a’r rhai nad ydych wedi’u bodloni eto. Gellir cynnwys y wybodaeth hon yn eich Cynllun Datblygu Personol i’ch cadw ar y trywydd iawn ar gyfer ailddilysu.  Bydd angen i chi gysylltu â thîm ailddilysu’ch corff dynodedig i ofyn am gyngor os ydych yn gweithio dramor neu os nad ydych yn gwybod pa wybodaeth ategol y gellir ei hystyried at ddibenion ailddilysu neu ba dystiolaeth sydd angen ei chynnwys er mwyn cwmpasu’ch holl ymarfer gan gynnwys meysydd nad ydynt yn gysylltiedig â’ch prif arbenigedd. 
  5. Dylech gasglu’r wybodaeth ategol ofynnol drwy’ch arfarniadau dros gyfnod y cylch ailddilysu gan ddangos gweithgarwch yn ymwneud â chwmpas LLAWN eich ymarfer (h.y. eich holl waith). Mae hyn yn gofyn am dystiolaeth mewn 6 maes:  
    • Gweithgaredd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)e.ecyfarfodydddarllen, dysgu ar-lein ac ati – cymryd rhan mewn arfarniad blynyddol a myfyrio ar ddysgucanlyniadau ac unrhyw newidiadau sydd wedi’u cyflwyno  
    • Gweithgaredd Gwella Ansawdd – o leiaf un ym mhob cylch dilysu  
    • Dadansoddiad o Ddigwyddiad Arwyddocaol – tystiolaeth o fyfyrio ar ddigwyddiadau arwyddocaol syn ymwneud â chi’ch hun a / neu sydd wedi arwain at newid yn eich ymarfer  
    • Adborth Cleifion - cwblhau a myfyrio ar un ymarfer adborth ffurfiol i gleifion ym mhob cylch ailddilysu - yng Nghymru mae ORBIT yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio a'i integreiddio i wefan MARS
    • Adborth gan Gydweithwyr – yr un drefn ag ar gyfer adborth gan gleifion ond mae angen i gydweithwyr ym mhob maes ymarfer a phob tîm gwblhau’r arolwg a myfyrio ar adborth   
    • Cwynion a Chanmoliaeth – cynnwys a myfyrio arnynt, gan nodi cryfderau a meysydd i’w gwella  
  6. Mae’r dudalen Cynnydd tuag at Ailddilysu ar system MARS yn dangos ar ffurf darlun eich sefyllfa bresennol o safbwynt coladu’r dystiolaeth ar gyfer y broses ailddilysu. Ar adeg cwblhau’ch proses ailddilysu, dylai pob un o’r bocsys gofynnol gynnwys tic gwyrdd. Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar y dudalen Cynnydd tuag at Ailddilysu ar gael yma.  
  7. Bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn neilltuo dyddiad ailddilysu ar eich cyfer, a gallwch weld y dyddiad hwn drwy’ch cyfrif GMC Connect neu MARS. Bedwar mis cyn eich dyddiad ailddilysu, byddwch wedi cyrraedd y cyfnod ‘dan hysbysiad’. Bydd y Swyddog Cyfrifol neu’ch corff dynodedig yn adolygu’ch gwybodaeth arfarnu ac yn ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol am lywodraethu clinigol er mwyn gwneud argymhelliad i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ynglŷn ag a ydych wedi bodloni’r gofynion ai peidio.Bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ystyried yr argymhelliad wedyn ac yn gwneud penderfyniad terfynol. Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad hwn a bydd cofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cael ei diweddaru. Y canlyniadau ffurfiol posibl yw penderfyniad i ailddilysu, gohirio neu ddileu’r drwydded (oherwydd diffyg ymgysylltu â’r broses fel arfer). Hefyd, bydd gwefan MARS yn cael ei diweddaru’n awtomatig gan nodi dyddiad ailddilysu newydd, ymhen pum mlynedd fel arfer.  
  8. Os nad ydych wedi ymarfer am gyfnodau hir, dylech hysbysu’ch Swyddog Cyfrifol am y rhesymau dros hyn, a derbyn cyngor ganddo ynglŷn â beth i’w wneud.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences