Cyflwynodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) ailddilysu yn 2012 fel proses i bob meddyg gynnal trwydded ymarfer. Mae arfarniad blynyddol yn greiddiol i'r broses hon, gan ganiatáu i feddygon ddangos eu bod yn gyfredol ac yn addas i ymarfer.
Mae arfarniad yn adolygiad ffurfiannol, strwythuredig o waith meddyg ar draws eu holl ymarfer (Arfarniad o Ymarfer Cyfan ), gan ganolbwyntio ar gyflawniadau ac anghenion datblygu ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhan o gylch parhaus o fyfyrio a thwf proffesiynol yn hytrach na’, ddigwyddiad untro.
Mae penderfyniadau ailddilysu yn cael eu gwneud tua bob pum mlynedd ac maent yn seiliedig ar arfarniadau blynyddol a diffyg pryderon sylweddol. Mae'r ddwy broses wedi'u seilio ar Arfer Meddygol Da y GMC.
Yng Nghymru, mae meddygon y GIG yn defnyddio'r System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS) i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ar gyfer eu harfarniad. Mae'r system yn darparu chwarter blwyddyn dynodedig i feddygon ymgymryd â'u harfarniad, e.e. Ionawr-Mawrth, Ebrill-Mehefin ac ati. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen MARS.
Mae sawl rôl allweddol yn cynorthwyo’r prosesau arfarnu ac ailddilysu yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn gadarn ac yn cael eu cynnal yn ddi-drafferth. Mae'r rolau hyn wedi'u hamlinellu isod a chyfeirir atynt ledled y wefan hon.
| Rôl | Cyfrifoldebau |
|---|---|
|
Meddyg |
Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal arfarniadau blynyddol a chynnwys holl wybodaeth ategol ailddilysu'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ôl y gofyn. |
|
Arfarnwr |
Bydd yn cynnal eich arfarniad, gan eich annog i fyfyrio ar eich dysgu a'ch profiadau ac ystyried sut maen nhw wedi gwella’ch ymarfer. Hefyd, bydd yn cynllunio'ch Cynllun Datblygu Personol er mwyn nodi'r hyn y byddwch yn ei ddysgu dros y 12 mis nesaf. |
|
Cydgysylltydd / Arweinydd Arfarnu |
Fel arfer mae’n arfarnwr profiadol sy'n darparu cyngor a chymorth i dîm o arfarnwyr yn eu sefydliad/maes. Mae’n darparu llwybr i arfarnwyr drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt y tu allan i'r strwythur llywodraethu clinigol ffurfiol ac yn darparu cymorth i'r Tîm Ailddilysu a'r Swyddog Cyfrifol (RO). |
|
Corff Dynodedig |
Eich DB yw'r sefydliad a fydd yn penodi eich RO. Yn GIG Cymru eich bwrdd iechyd fydd hwn, a'ch RO fydd Cyfarwyddwr Meddygol y bwrdd iechyd yna. Os ydych chi'n gweithio'n gyfan gwbl y tu allan i GIG Cymru, eich DB yw'r mwyaf tebygol o fod eich cyflogwr, ac mae ganddo’r dyletswydd i eich galluogi i gael arfarniadau blynyddol. Os ydych mewn swydd gradd hyfforddi yn GIG Cymru, eich RO yw Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC. Dylech gael cysylltiad â'ch RO trwy GMC Connect. |
|
Tîm Ailddilysu |
Y tîm o fewn eich corff dynodedig a fydd yn gallu eich cynorthwyo gydag arfarnu ac ailddilysu. Efallai y byddant yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth ar gyfer eich ailddilysu os oes angen. |
|
Swyddog Cyfrifol (RO) |
Mae eich RO yn gyfrifol am wneud eich argymhelliad am ailddilysu i'r GMC, mae ganddo hefyd gyfrifoldeb i sicrhau ansawdd prosesau arfarnu ac ailddilysu o fewn eu DB, gan gynnwys llywodraethu clinigol. |
|
Person Addas |
Os nad oes gennych gysylltiad â RO, yna efallai y byddwch yn gallu cael cysylltiad â Pherson Addas a nodwyd. Rhaid cymeradwyo’r Person addas gan y GMC. Byddent yn gwneud eich argymhelliad ailddilysu i'r GMC. |
|
Uned Gymorth Ailddilysu |
Mae'r Uned Cymorth Ailddilysu yn eistedd o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac mae ganddi sawl cyfrifoldeb gan gynnwys:
|
|
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol |
Y GMC yw'r rheoleiddiwr ar gyfer y proffesiwn meddygol ac mae ailddilysu yn cael ei lywodraethu ganddynt. Bydd y GMC yn gwneud eich penderfyniad ailddilysu terfynol ar ôl derbyn argymhelliad gan naill ai eich RO neu Berson Addas. Os nad oes gan feddygon unrhyw gysylltiad rhywle arall, gallant gysylltu'n uniongyrchol â'r GMC, ac yn yr achos hwnnw rhaid cynnal proses flynyddol ar gyfer arfarnu ac asesu er mwyn ailddilysu. |
