Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Sut i baratoi ar gyfer arfarniad

Dyma rai Egwyddorion Arfarnu Allweddol yng Nghymru:

  • Rhoi cyfle i unigolion fyfyrio ar eu hymarfer au dull gweithredu ym maes meddygaeth; myfyrio ar y wybodaeth ategol y maen nhw wedii chasglu a beth maer wybodaeth yn ei ddangos am eu hymarfer; nodi meysydd ymarfer lle y gallent wneud gwelliannau neu ymgymryd â datblygiad pellach; dangos bod eu gwybodaeth yn gyfredol 
  • Darparu cyfleoedd ar gyfer cyfathrebu rhwng meddygon ar sefydliadau lle maen nhw gweithio mewn perthynas â sgiliau, gallu, amcanion lefel sefydliadol, cyfyngiadau ac anghenion dysgu 
  • Rhoi sicrwydd ir sefydliad/sefydliadau bod gwybodaeth meddygon yn parhau i fod yn gyfredol ym mhob agwedd ar eu hymarfer 
  • Darparu llwybr at ailddilysu sy’n datblygu ac yn cryfhau systemau presennol heb ormod o fiwrocratiaeth 

Mae arfarnu yn adolygiad rheolaidd a systematig o gyflawniadaur gorffennol gydar bwriad o gynllunio anghenion dysgu yn y dyfodol. Dylid ei hystyried yn broses barhaus o ddatblygiad personol a phroffesiynol. Dylid ystyried y broses yn gyfle i feddygon gasglu gwybodaeth am gwmpas llawn eu hymarfer eu hunain ar hyn y mae hynnyn ei ddangos, myfyrio ar eu dulliau gweithio, nodi gwelliannau y gellid eu gwneud a sut y gallent ddatblygu ymhellach. 

Yn yr adran hon

Gwybodaeth Ategol

Gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer gwybodaeth ategol.

Llwyth Gwaith Clinigol Isel

Nid oes diffiniad o lwyth gwaith clinigol isel wedi’i gytuno’n gyffredinol ac nid yw cyfrif nifer y sesiynau sy’n cael eu gweithio dros flwyddyn yn debygol o fod yn ddefnyddiol.

Beth sy’n digwydd os na ellir cynnal fy arfarniad?

Weithiau, mae’n bosibl na fydd modd cynnal eich arfarniad ar y dyddiad arfaethedig. Gall hyn ddigwydd am nifer o resymau gwahanol fel salwch, absenoldeb mamolaeth neu gyfnod sabothol.

Awgrymiadau Gwych

Er mai’r Arfarnwr sy’n gyfrifol am hwyluso’r arfarniad, dylai’r unigolyn sy’n cael ei arfarnu baratoi ar gyfer y broses a’i llywio.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences