Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Maer Cyngor Meddygol Cyffredinol yn dweud: 

“Mae DPP yn eich helpu i fod yn gyfoes ac yn gymwys a chynnal ansawdd eich holl waith, ac maen hyrwyddo ac yn cefnogi gwelliannau mewn ymarfer. 

Rhaid i chi gwblhau gweithgareddau DPP bob blwyddyn. 

Rhaid ich gweithgareddau DPP gwmpasuch holl ymarfer, a chael eu teilwra ich cwmpas ymarfer ac anghenion. 

Dylaich anghenion dysgu ach cynlluniau ar gyfer eich DPP gael eu hadlewyrchu yn eich cynllun datblygu personol ar gyfer y flwyddyn i ddod.  

Dylai DPP ganolbwyntio ar ganlyniadau neu allbynnau yn hytrach nag ar fewnbynnau.  

Rhaid i chi fyfyrio ar yr hyn rydych wedii ddysgu or gweithgaredd a sut gallai hyn helpu i gynnal neu wella ansawdd eich ymarfer. 

Rhaid i chi fyfyrio ar eich gweithgareddau DPP au trafod ym mhob arfarniad blynyddol o ymarfer cyfan.” 

Canllawiau ar wybodaeth ategol ar gyfer arfarnu ac ailddilysu

 

Canllaw’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar DPP  

Cofiwch y canlynol – ansawdd nid nifermae myfyrion hanfodol a dylai gwybodaeth ategol gwmpasu pob agwedd ar eich gwaith 

Mae diweddaru’ch gwybodaeth wedi bod yn weithgaredd proffesiynol allweddol erioed. Mae’r rhan fwyaf o Golegau Brenhinol a chyfadrannau meddygol wedi cyhoeddi cyngor ar sut mae meddygon sy’n gweithio yn eu harbenigeddau yn gallu dangos DPP priodol ar draws eu cwricwlwm, a gallant bennu isafswm o oriau neu gredydau. Nid yw’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn pennu nifer y pwyntiau DPP y dylech eu casglu ar gyfer y broses arfarnu neu ailddilysu, ond nodir bod angen tystiolaeth o weithgaredd DPP perthnasol, a thystiolaeth o fyfyrdod bob blwyddyn. 

Gallwch gynnwys unrhyw weithgaredd DPP yn eich ffolder arfarnu, ond nid ywn ofynnol i chi gynnwys popeth. Dylech ganolbwyntio ar fyfyrio ar y gweithgaredd DPP mwy arwyddocaol, yn enwedig y gweithgaredd sydd wedi newid eich ymarfer, a allai fod yn sylfaen i drafodaeth ddefnyddiol gydach arfarnwr. 

Bydd eich arfarnwr eisiau trafod cynnydd ar yr eitemau DPP a gynlluniwyd yn y broses DPP y llynedd. 

Dylech geisio cynnwys enghreifftiau o DPP syn cwmpasu eich holl ymarfer. Nid oes angen i chi gynnwys eich holl ymarfer bob blwyddyn, ond dros y cylch ailddilysu dylech gyfeirio at ystod eang o weithgarwch. Dylech geisio osgoi sefyllfa lle mae pob arfarniad yn canolbwyntio ar faes diddordeb penodol gan eithrio meysydd eraill syn berthnasol ich ymarfer. 

Maen bosibl y bydd defnyddio dulliau dysgu amrywiol yn fwy effeithiol na chyfynguch gweithgaredd i un dull e.e. darllen, dysgu ar-lein, dysgu mewn tîm, darlithoedd a chynadleddau. 

Bydd myfyrio ar eich gweithgaredd DPP yn dangos sut rydych yn sicrhau bod eich ymarfer yn gyfoes - gan gynnal a gwella ansawdd eich gwaith proffesiynol.  

Gall adolyguch ymarfer ach adborth yn ymwneud ag ansawdd eich gwaith proffesiynol nodi meysydd ar gyfer gweithgarwch DPP. 

Os ydych yn darparu llawer o wybodaeth gysylltiedig gan gynnwys gwybodaeth syn deillio o ddarllen, dysgu ar-lein, neu wybodaeth am bwnc clinigol penodol, dylech ystyried dosbarthu a chrynhoich holl weithgareddau fel rhestr a myfyrion fanwl ar 2-3 elfen lle maech dysgu wedi bod yn fwyaf arwyddocaol, neu lle maech ymarfer wedi newid o ganlyniad ir gweithgaredd. Maech trafodaeth arfarnu yn canolbwyntio llai ar yr hyn rydych wedii wneud, a mwy ar sut mae wedi newid eich ymarfer, er enghraifft, ar ôl myfyrio ar y gweithgaredd hwn beth fyddwn in rhoir gorau iw wneud, yn parhau iw wneud neun dechrau ei wneud? 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences