Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Cyfyngiadau

Mae’r adran gwybodaeth arfarnu yn system MARS yn cynnwys adran ‘cyfyngiadau’ sy’n rhoi cyfle i feddygon nodi unrhyw heriau ar lefel bersonol, practis neu wasanaeth y maen nhw wedi’u hwynebu.

Mae cyfyngiad yn ffactor perthnasol o safbwynt amgylchedd, bywyd personol neu fywyd proffesiynol meddyg sy’n effeithio ar ei ddatblygiad neu ei berfformiad. Mae MARS yn galluogi meddygon i gofnodi cyfyngiadau mewn tair adran: Personol, Gwasanaeth a Phractis/Ysbyty. 

Mae nifer o resymau am nodi cyfyngiadau yn ystod arfarniad:  

 Ar lefel bersonol: 

  1. Hwyluso trafodaeth â’r arfarnwr a nodi a oes unrhyw gamau y gellir eu cymryd i leihau’r broblem   
  2. Cofnodi problemau sy’n amharu ar ddatblygiad a allai fod yn berthnasol i benderfyniad ailddilysu 
  3. Egluro pam y mae rhywbeth yn llai na pherffaith e.e. ni ellir gweithredu canllawiau NICE oherwydd cyfyngiadau gwasanaeth  

Ar lefel gwasanaeth, Practis/Ysbyty: 

  1. Mae gan fyrddau iechyd fynediad at adroddiadau agregedig ar gyfyngiadau i'w galluogi i gymharu tueddiadau â'r darlun cenedlaethol

Wrth gofnodi cyfyngiadau a’u cyflwyno yn yr arfarniad er mwyn eu trafod ag Arfarnwr, mae’r meddyg fel unigolyn yn parhau i fod yn gyfrifol amdanynt. Os oes cyfyngiad yn cael ei nodi sy’n ymwneud â mater diogelwch claf o bosibl, mae’n rhaid defnyddio’r weithdrefn adrodd gywir i roi gwybod amdano, yn unol â’r hyn a amlinellir yng nghanllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar Ddyletswyddau Meddyg. 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences