Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Adborth gan gydweithwyr

Diben casglu adborth gan gydweithwyr a myfyrio arno yw deall barn eich cydweithwyr am eich ymarfer; eich helpu i nodi meysydd cryfder a datblygu; nodi newidiadau y gallech eu gwneud i wella’r gofal neu’r gwasanaethau a ddarperir gennych; a gwerthuso a yw’r newidiadau a wnaethoch i’ch ymarfer yn dilyn adborth cynharach wedi cael effaith gadarnhaol.

O leiaf unwaith yn ystod eich cylch ailddilysu, rhaid i chi gasglu adborth gan eich cydweithwyr, myfyrio ar yr adborth hwnnw a’i drafod yn ystod eich arfarniad blynyddol. 

Rhaid i chi ofyn am adborth gan gydweithwyr ledled eich ystod gyfan o ymarfer, gan gynnwys pobl mewn swyddi amrywiol nad ydynt yn feddygon o reidrwydd.  

Rhaid i chi ddewis cydweithwyr mewn ffordd ddiduedd a gallu egluro i’ch arfarnwr, os yw’n gofyn, pam rydych wedi dewis y cydweithwyr sydd wedi darparu adborth.  

Os oes modd, dylech ddefnyddio holiaduron safonol sydd wedi’u dilysu ac sy’n cael eu gweinyddu’n annibynnol er mwyn sicrhau gwrthrychedd a chyfrinachedd. Rhaid i chi a’ch swyddog cyfrifol gytuno ar unrhyw ddulliau amgen.   

Rhaid i chi fyfyrio ar oblygiadau’r adborth ar gyfer eich ymarfer presennol a’ch ymarfer yn y dyfodol.  

Canllawiau ar wybodaeth ategol ar gyfer arfarnu ac ailddilysu

Mae gan bob meddyg yng Nghymru fynediad at Orbit360, adnodd ar-lein cymeradwy sy’n helpu i gasglu adborth gan gleifion a chydweithwyr. 

Dylai adborth gan gydweithwyr ymwneud â’ch holl waith ym mhob maes ymarfer. Yn ogystal â’ch gwaith clinigol, bydd angen i chi gasglu adborth sy’n berthnasol i feysydd eraill eich gwaith, gan gynnwys addysgu, hyfforddi, arfarnu, rheoli ac arwain. 

Dylech feddwl yn ofalus am gydweithwyr sy’n gallu darparu adborth – dylech gynnwys cymheiriaid, pobl sy’n cael eu goruchwylio gennych, unigolion sy’n cefnogi’ch gwaith a phobl mewn meysydd proffesiynol eraill sy’n rhyngweithio neu’n cydweithio â chi. 

Er mwyn sicrhau’r adborth mwyaf gwerthfawr, dylech ddewis cydweithwyr a fydd yn darparu asesiad didwyll ac yn rhoi adborth adeiladol ar yr hyn rydych yn ei wneud yn dda a’r meysydd i’w gwella o bosibl. Gallai hyn olygu dewis cydweithwyr rydych chi wedi gweithio gyda nhw o dan amgylchiadau anodd neu heriol.   

Bydd myfyrio ar adborth eich cydweithwyr yn eich helpu i nodi newidiadau posibl er mwyn gwella’r gofal neu’r gwasanaethau a ddarperir gennych. Hefyd, bydd yn golygu bod modd i chi nodi’ch cryfderau er mwyn eu datblygu ymhellach.  

O leiaf unwaith yn ystod pob cylch ailddilysu, rhaid i chi ddefnyddio holiadur sydd wedi’i ddilysu i gasglu adborth gan gydweithwyr, myfyrio arno a’i drafod. 

Yn ogystal â’r holiadur ffurfiol gofynnol, mae’n bosibl y bydd gennych ffynonellau adborth eraill gan gydweithwyr. Gall adborth ffurfiol ac anffurfiol o bob math gan gydweithwyr arwain at fyfyrio pwysig.  

Mae templed MARS yno i’ch helpu a sicrhau bod y pwyntiau perthnasol yn cael eu cynnwys. 

 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences