Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Syniadau ar gyfer Gweithgarwch Gwella Ansawdd - QIA

Beth alla i ei wneud fel Gweithgarwch Gwella Ansawdd ar gyfer ailddilysu? 

Awgrymiadaur GMC, sydd â thempledi pwrpasol ar MARS:  

  • Adolyguch perfformiad yn erbyn data meincnodi lleol, rhanbarthol neu genedlaethol  
  • Archwiliad clinigol  
  • Adolygu neu drafod achosion 
  • Dadansoddi digwyddiadau dysgu  
  • Archwilio a monitro effeithiolrwydd rhaglen addysgu 
  • Gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd darn o bolisi iechyd neu arfer rheoli 

Ceir templed QIA arall generig ar MARS hefyd, gyda phenawdau ich tywys i gofnodir wybodaeth angenrheidiol ar gyfer unrhyw ddulliau amgen ar gyfer QIA. 

At ddibenion ailddilysu, maen ddefnyddiol dechrau gan nodi rhywbeth y mae angen ei wella. 

Pan fydd y gweithgaredd wedii gwblhau, dylech allu dangos bod gwelliant wedi digwydd neu fod safon uchel o ymarfer wedii chyrraedd neu ei chynnal.  

Bydd meddwl am sut gallech fesur neu ddangos gwelliant i gwblhaur QIA yn eich helpu i benderfynu a oes ganddor potensial i gael ei ddefnyddio fel QIA ailddilysu. 

Yn aml, byddwch yn gallu myfyrio ar y deunydd rydych chi wedii gyflwyno ar gyfer eich arfarniad a nodi meysydd iw gwella. Bydd eich arfarnwr yn gallu helpu gyda hyn yn ystod eich trafodaeth arfarnu ac adeiladu ar yr hyn rydych eisoes wedii nodi fel maes o ddiddordeb. Dylair drafodaeth egluro pa fath o weithgaredd a allai fod yn broses wella. Dylair gweithgaredd ystyried natur eich rôl. Dylech feddwl hefyd sut byddwch yn cwblhaur gweithgaredd i ddangos bod gwelliant wedi digwydd a pha safonau y byddech yn eu gosod i anelu atynt. Bydd hyn fel arfer yn cael ei gynnwys yn eich Cynllun Datblygu Personol ar gyfer y cyfnod arfarnu nesaf a gall hyd yn oed barhau ir blynyddoedd dilynol. 

Fel arfer, maen fwy perthnasol a diddorol datblygu QIA o rywbeth yn eich deunydd arfarnu presennol, na cheisio meddwl am syniad am QIA o ddim byd. 

Gweithgaredd addysgol: 

Ceir amrywiaeth eang iawn o ddulliau dysgu e.e. darllen (cylchgronau, erthyglau, eitemau newyddion, rhybuddion diogelwch cleifion, gwybodaeth am ragnodi, papurau ymchwil); dysgu ar-lein (e-fodiwlau, gweminarau a phodlediadau); darlithoedd: cyrsiau diweddaru; cynadleddau, ac ati. Gall y pynciau dan sylw fod ar draws sbectrwm cyfan eich ymarfer. 

Pan fyddwch yn myfyrio ar yr hyn rydych wedii ddysgu gan ddefnyddio unrhyw un or dulliau hyn byddwch fel arfer yn tynnu sylw at wybodaeth syn newydd i chi ac yn ystyried a oes angen i chi newid eich ymarfer er mwyn ystyried y wybodaeth newydd hon. Weithiau bydd yn amlwg nad ydych yn dilyn arferion gorau cyfredol oherwydd eu bod wedi newid yn ddiweddar, ac maen amlwg bod angen diweddaru eich ymarfer, gwneud newid a gwella gofal. Weithiau gallech ddysgu am bwnc ac yna amau nad ydych yn dilyn arferion gorau. 

Os mai dim ond dysgu eich bod yn gwneud popeth yn iawn yn barod fyddwch chi, efallai nad ydych yn dewis gweithgaredd addysgol priodol. 

Gall y dysgu hwn fod yn ffynhonnell dda o syniadau ar gyfer pynciau archwilio. Yn aml, bydd yr adnodd addysgol yn awgrymu pynciau archwilio posibl a allai fod yn berthnasol i chi.  

Fel arfer, byddwch yn penderfynu cynnal archwiliad pan fydd y newid angenrheidiol yn effeithio ar faes sylweddol och ymarfer, a bydd y niferoedd dan sylw yn rhoi canlyniad ystyrlon.  

Weithiau mae’r niferoedd yn fach, ond mae angen y newid am ei fod yn fater pwysig sy’n ymwneud â diogelwch cleifion a’ch bod eisiau bod yn siŵr eich bod wedi nodi pawb dan sylw, felly efallai y bydd archwiliad ffurfiol yn dal i fod yn briodol. 

Mewn cylch archwilio wedi’i gwblhau nodweddiadol, byddwch yn casglu data ar yr hyn rydych yn ei wneud ar hyn o bryd yn gyntaf, ac yna byddwch yn gwerthuso’r data hwn ac yn gwneud newid os oes angen gwella. Yna byddwch yn ailarchwilio ar ôl cyfnod priodol i gadarnhau a fu gwelliant. 

Os na fu gwelliant yn dilyn y newid, neu lwyddiant rhannol yn unig, yna efallai yr hoffech ailadrodd y cylch gyda gwerthuso, newid ac ailarchwilio pellach. 

Dylid gwneud newidiadau i wellar sefyllfa, nid yn unig ar gyfer un cylch archwilio ond hyd y gellir rhagweld, fel bod hwn yn weithgaredd gwerth chweil gyda gwelliant ystyrlon, ac nid ymarfer i dicio bocs ailddilysu yn unig.  

Mae rhannu archwiliadau QIA gydar tîm hefyd yn cynyddu gwerth y gweithgaredd ac yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd gwelliant yn cael ei gynnal. 

Os ydych yn perfformio’n dda eisoes, yna gall archwiliad ddangos bod ansawdd yn cael ei gynnal. Gall y gweithgaredd hwn fod yn dystiolaeth ddefnyddiol ar gyfer yr arfarniad eich bod yn edrych ar ansawdd eich ymarfer. Efallai y bydd angen ailarchwilio’n flynyddol i gadarnhau eich bod yn cynnal eich perfformiad, ond nad oes llawer o le i wella ansawdd, ac efallai na fydd yn briodol defnyddio’r maes hwn i archwilio ar gyfer eich QIA ailddilysu. 

Dylair rhan fwyaf o feddygon allu nodi maes ou harfer y gellid ei wella, ac maen debygol y bydd dyfeisio a chwblhau archwiliad llawn syn edrych ar hyn yn bodloni gofynion QIA ailddilysu, yn ogystal â bod yn weithgaredd personol gwerth chweil. 

Lle mae archwiliad yn dangos bod perfformiad wedi dirywio, byddai disgwyl ir myfyrio archwilior rhesymau dros hyn ac yna nodi a gweithredu ffyrdd o wellar sefyllfa. Yna gellid ailadrodd y cylch archwilio er mwyn sicrhau bod perfformiad yn cael ei wella. 

Efallai y bydd rhai meddygon yn ei chael hin anodd cael data i gwblhau archwiliad ffurfiol syn berthnasol iw hymarfer eu hunain e.e. staff locwm. Maen bosibl adolygu cyfres o achosion yn ddichonol er mwyn dangos eich bod wedi gwella eich ymarfer blaenorol. 

Enghraifft: 

Rydych yn darllen am yr Adolygiad Cenedlaethol o Farwolaethau Asthma ac yn dysgu am y ffactorau sy’n cynyddu’r risg o farwolaeth - gor-ddefnyddio anadlwyr lliniaru, tanddefnyddio anadlwyr atal, sefyllfaoedd mynych lle mae’r asthma’n cael ei waethygu, derbyniadau brys, a diffyg cynllun gofal asthma. Mae’n amlwg o’r adolygiad y gellid gwella gofal asthma yn genedlaethol, a lleihau nifer y marwolaethau. 

Os yw eich rôl yn cynnwys gofalu am gleifion ag asthma, gallech fyfyrio bod modd i chi wneud gwelliannau ich ymarfer eich hun.  

Os ydych yn Feddyg Anadlol neufeddyg teulu arweiniol ar gyfer asthma, gallech archwilior prosesau yn eich ysbyty, eich adran neuch practis i ystyried a yw pob claf yn cael apwyntiad dilynol ar ôl cael ei dderbyn ir ysbyty mewn argyfwng, neu a oes cofnod clir o nifer yr achosion sydd wedi gwaethygu neu drafodaethau am gynllun gofal asthma mewn adolygiadau asthma. Byddain gwneud synnwyr canolbwyntio ar faes lle rydych yn amau y gallech fod yn gwneud yn well. Gallwch gynnwys rhannu gwybodaeth am arferion gorau gydach cydweithwyr fel rhan or gweithgaredd hwn. Efallai y byddwch yn dirprwyor broses o gasglu data, ond os byddwch yn arwain y QIA hwn, gallwch gyfiawnhau ei ddefnyddio fel tystiolaeth o QIA yn eich arfarniad. 

Os ydych yn gweithio fel meddyg locwm achlysurol, neu mewn gofal brys, yna maen debyg nad oes gennych fawr o ddylanwad ar brosesau ar gyfer gofal asthma cronig yn eich gweithle. Gallech gynnig cynnal archwiliad fel yr uchod, fel bod gennych QIA ar gyfer eich ailddilysiad, ond gallaich arfarnwr gwestiynu pa mor berthnasol ywr gweithgaredd ich ymarfer eich hun.  

Mae angen i chi feddwl yn ehangach am sut gallech wella eich ymarfer eich hun a dangos hyn.  

Os ydych chin gweld cleifion sydd â gwaethygiadau asthma acíwt yn eich rôl yn aml ach bod wedi myfyrio y gallech wella ansawdd y gofal a ddarparwch ir cleifion hyn, yna gellid datblygu hyn yn QIA dilys.  

Gallech adolygu cyfres o gleifion a welwch gyda gwaethygiad asthma aciwt, dyweder 10-20 o gleifion olynol, neu bob claf dros gyfnod o 3-6 mis, a myfyrio ar sut rydych wedi gwella eich gofal i fynd ir afael â ffactorau risg e.e. tynnu sylw at orddefnyddio SABA neu danddefnyddio atalyddion; darparu ymyriadau addysgu cleifion byr; sicrhau bod apwyntiad dilynol yn cael ei wneud i adolygu triniaeth a chynlluniau gofal asthma; atgyfeirio at OP anadlol ac ati 

Efallai y byddain well gennych ganolbwyntio ar achosion cymhleth, lle maer ffactorau risg wedi cael sylw ond ller ydych or farn y gellid gwneud mwy i wella eu gofal. Yma, gallai fod yn briodol ac yn effeithiol trafod yr achosion hyn yn fanwl gydag un neu fwy och cymheiriaid. Er mwyn ir trafodaethau achos hyn gyfrif fel QIA, byddai angen i chi edrych ar nifer o achosion a dangos sut ir trafodaethau arwain at newid a gwelliannau. Ni fyddain ddigon trafod a myfyrio ar un neu ddau achos, waeth pa mor ddiddorol a manwl ywr drafodaeth. 

Os ydych yn gweithio fel meddyg yn y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol, a bod gan un och perthnasau asthma, efallai y bydd gennych ddiddordeb o hyd yn yr NRAD, ond mae gofal asthma yn annhebygol o fod yn rhan bwysig och rôl. Byddain ddefnyddiol ffeilio y dysgu, rhag ofn y byddwch ei angen yn y dyfodol, ac efallai y byddwch yn ei drosglwyddo ich perthynas, gan wella ansawdd y ffordd maen rheoli ei asthma, ond ni fyddai hyn yn ddigon ar gyfer QIA ailddilysu gan nad ywn cwmpasu eich meysydd ymarfer. 

Digwyddiadau arwyddocaol 

Fel rhan och adolygiad o ddigwyddiad arwyddocaol difrifol, neu ddigwyddiad dysgu nad ywn bodloni trothwyr GMC ar gyfer SE, byddwch fel arfer yn myfyrio ar yr hyn y gellid bod wedii wneud yn well. Bydd hyn yn aml yn nodi maes ymarfer lle gellid gwella ansawdd y gofal, a datblygu QIA. 

Gan barhau â thema gofal asthma, efallai y byddwch yn ymwneud â gofalu am glaf sydd â marwolaeth y gellid ei hatal o asthma; gallech ymwneud â gofal claf a oedd heb fynychu sawl apwyntiad asthma dilynol ar ôl derbyniadau brys, ac sydd bellach yn cael ei dderbyn fel argyfwng eto; gallech sylwi eich bod wedi gweld nifer o gleifion â symptomau asthma nad oes ganddynt gynllun gofal, neu nad ydynt ar ICS, dros y misoedd diwethaf. 

Fel yr uchod, bydd y QIA syn deillio o adolygiad or digwyddiadau yn dibynnu ar natur eich rôl. 

Bydd adolygu digwyddiadau arwyddocaol a digwyddiadau dysgu fel tîm ac ymateb fel tîm ir broses o newid a gwella yn arwain at fwy o effaith ar ofal cleifion. Meddyliwch sut byddwch yn cynnwys y tîm mewn unrhyw broses QI er mwyn gwneud y gorau or QIA hwn. 

Maen bwysig cau pen y mwdwl os ydych yn datblygu QIA o ddadansoddi digwyddiad arwyddocaol. Nid ywn ddigon nodir hyn a aeth oi le / y gellid bod wedii wneud yn well, ac awgrymu gwelliant – mae angen i chi adolygu eich ymarfer i gadarnhau bod y newid wedi digwydd.  

Cwynion 

Gall cwynion hefyd ddeillio o ansawdd gofal is-optimaidd, a gall adolygur gŵyn nodi maes ar gyfer QIA. 

Gan aros gydag asthma: mae claf yn cael ei drin â chwrs ar ôl cwrs o steroidau drwyr geg gan ei feddyg teulu, gwasanaeth y tu allan i oriau ac yn yr Adran Frys ar gyfer pyliau asthma ac maen datblygu diabetes. Maen cwyno gan ddweud pe bai wedi cael apwyntiadau dilynol priodol, ei drin ag anadlwyr ataliol, wedi cael cynllun gofal asthma ac wedi cael ei atgyfeirio at feddyg anadlol yna gellid bod wedi osgoi hyn. 

Unwaith eto, bydd unrhyw QIA syn dilyn adolygiad or gŵyn hon yn dibynnu ar eich rôl. 

Weithiau mae cwynion yn ymwneud â nodweddion personol meddyg unigol neu sut mae wedi rheolir achos, yn hytrach na phrosesau, ac maen nhw’n amlygur angen i ddiweddaru neu addasu ymddygiad. Nid yw mor hawdd dangos bod newid wedi arwain at welliant. Mae hwn yn faes lle gall cyfres o adolygiadau achos syn myfyrio ar ac yn trafod y materion a nodwyd fod yn fath mwy addas o QIA i ddangos bod ymarfer wedi newid. 

Adborth cleifion a chydweithwyr 

Gall adborth negyddol gan gleifion neu gydweithwyr dynnu sylw at feysydd ymarfer y gellid eu gwella. 

Gallwch wneud newidiadau ich ymarfer mewn ymateb i adborth. 

Unwaith eto, maen bwysig cau pen y mwdwl a dangos bod gwelliant wedi digwydd. Efallai y bydd hyn yn golygu gofyn am adborth pellach ar y maes ymarfer dan sylw. Neu, fel yr uchod, gall cyfres o adolygiadau achos yn cynnwys myfyrio a thrafod ynghylch y materion a nodwyd fod yn ffordd o ddangos gwelliant.  

Rhywbeth syn eich gwneud yn rhwystredig  

Bydd gwella rhywbeth syn peri rhwystredigaeth i chi fel arfer yn golygu newid i brosesau neu bolisïau syn bodoli eisoes. 

Gall Archwilio a monitro effeithiolrwydd rhaglen addysgu a Gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd darn o bolisi iechyd neu ymarfer rheoli fod yn berthnasol yma, a gallech gwblhaur templed ailddilysu QIA MARS priodol i sicrhau eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.  

Maen bwysig dangos bod y newid wedi arwain at welliant mewn gwirionedd, ac nid dim ond newid er mwyn newid. Weithiau bydd casglu adborth gan y tîm syn rhan or broses yn cefnogi hyn. 

Mae angen i chi feddwl pa mor sylweddol ywr gweithgaredd. Efallai y byddwch yn rhwystredig nad yw cleifion yn sylweddoli eich bod yn feddyg, felly gallech newid y ffordd rydych yn cyflwyno eich hun. Byddai hyn yn welliant mewn gofal ond ni fyddain cael fawr iawn o effaith. Pe baech yn penderfynu trafod gydach tîm, cyflwyno polisi Helo, fy enw i, arddangos rhestr o bwy yw pwy yn y gweithle i hysbysu cleifion, ac yna casglu adborth gan gydweithwyr a/neu gleifion a oedd yn cadarnhau gwelliant, yna byddai hyn yn QIA mwy sylweddol.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences