Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Digwyddiadau arwyddocaol

Diben casglu a myfyrio ar ddigwyddiadau arwyddocaol yw eich galluogi i adolygu a gwella ansawdd eich gwaith proffesiynol; nodi unrhyw batrymau yn y mathau o ddigwyddiadau arwyddocaol a gofnodwyd yn ymwneud â’ch ymarfer; ac ystyried pa gamau dysgu a datblygu eraill rydych wedi’u gweithredu, neu’n bwriadu eu gweithredu, er mwyn osgoi digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.

Maer Cyngor Meddygol Cyffredinol yn dweud: 

Maen rhaid i chi ddatgan a myfyrio ar bob digwyddiad arwyddocaol rydych wedi ymwneud ag ef ers eich arfarniad diwethaf. 

Dylaich trafodaeth yn ystod yr arfarniad ganolbwyntio ar y digwyddiadau arwyddocaol sydd wedi arwain at newid yn eich ymarfer neun dangos eich gwybodaeth ach dysgu.  

Maen rhaid i chi allu esbonio ich arfarnwros ywn gofyn, pam rydych wedi dewis y digwyddiadau hyn.   

Dylaich myfyrdod ach trafodaeth ganolbwyntio ar y wybodaeth ar dysgu sydd wedi deillio or digwyddiadyn hytrach nar ffeithiau neu faint o ddigwyddiadau rydych wediu cofnodi.” 

Canllawiau ar wybodaeth ategol ar gyfer arfarnu ac ailddilysu

Beth yw digwyddiad arwyddocaol? 

Maer Cyngor Meddygol Cyffredinol yn diffinio digwyddiad arwyddocaol fel unrhyw ddigwyddiad anfwriadol neu annisgwyla allai achosi niwed i un claf neu fwy, neu sydd wedi achosi niwed i un claf neu fwy.  

Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau na wnaethant achosi niwed ond a allai fod wedi gwneud hynny,  neu ddigwyddiadau y dylid fod wediu hatal. 

Dylech ganolbwyntio ar yr hyn rydych wedii ddysgu o unrhyw ddigwyddiadau sydd wedi achosi niwed ich cleifion neu a allai fod wedi gwneud hynny.   

Mae pwyslais y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar ddigwyddiadau diogelwch cleifion  digwyddiadau syn cyrraedd lefel arwyddocaol o niwed posibl neu wirioneddol i gleifion. 

Dylaich cyflogwr gasglu digwyddiadau arwyddocaol fel mater o drefn os ydych yn cael eich cyflogin uniongyrchol gan sefydliad. Mae gan lawer o sefydliadau (gan gynnwys ysbytai a phractisau cyffredinolbrosesau ffurfiol ar waith ar gyfer cofnodi ac ymateb i bob digwyddiad or fath. Os ydych yn hunangyflogedig dylech gofnodi ac adolygu unrhyw ddigwyddiadau or fath.   

Mae gan bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddyletswydd gonestrwydd - cyfrifoldeb proffesiynol i drin cleifion mewn ffordd ddidwyll os yw pethaun mynd o chwith. Fel meddyg, maen rhaid i chi ymddwyn mewn ffordd agored a didwyll wrth ymdrin â chleifion, cydweithwyr ach cyflogwyr. Mae dyletswydd broffesiynol canllawiau gonestrwydd yn nodin glir bod angen trin cleifion mewn ffordd ddidwyll yn dilyn digwyddiad niwed syn deillio o ofal iechyd, a phwysigrwydd cyfrannu at ddiwylliant dysgu i wella diogelwch cleifion a sicrhau bod gwersin cael eu dysgu.   

Fel meddyg, mae gennych ddyletswydd o dan y ddyletswydd gonestrwydd i gofnodi digwyddiadau yn unol â phroses adrodd eich sefydliad.   

Dylaich cofnod arfarnu gynnwys gwybodaeth am eich cyfranogiad mewn unrhyw broses ffurfiol. Dylech fyfyrio ar unrhyw batrymau yn y mathau o ddigwyddiadaua thrafod eich camau gweithredu ac unrhyw newidiadau ich ymarfer er mwyn osgoi digwyddiadau or fath yn y dyfodol.    

Dylai meysydd dysgu a datblygu pellach gael eu cofnodi yn eich cynllun datblygu personol ach DPP.     

Cofiwch – ‘Cyfrinachedd’ a bod ‘myfyrio yn hanfodol’. (hyperddolen i benawdau)  

Dylaich myfyrdod ach trafodaeth yn ystod y broses arfarnu ganolbwyntio ar yr hyn a ddysgwyd or digwyddiad arwyddocaol, yn hytrach na nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gennych.   

Dylai digwyddiadau arwyddocaol gael eu trafod â chydweithwyr er mwyn rhannu a manteisio ar yr hyn a ddysgwyd.  

Maer term “dysgu gan y tîm” yn berthnasol iawn yn aml yng nghyswllt y digwyddiadau hyn gan mai anaml iawn y mae digwyddiad yn ddigwyddiad untro. Maer Cyngor Meddygol Cyffredinol yn hyrwyddo dull agored a chynhwysol o adolygur digwyddiadau hyn er mwyn nodi sut maer sefydliad cyfan yn gallu dysgu or digwyddiad.    

Un dull o ystyried digwyddiadau or fath ywdull maniffesto rhestr wirio, syn cael ei hyrwyddo gan Atul Gawande.   

Dull arall yw ystyried ffactorau pobl mewn camgymeriadau a’r model ymwybyddiaeth o’r sefyllfa er mwyn myfyrio ar y materion hyn.   

Dylai adolygiad effeithiol o ddigwyddiadau arwyddocaol arwain at wella ansawdd ym maes ymarfer.   

Gall nifer y digwyddiadau arwyddocaol amrywio rhwng arbenigeddau gwahanol. 

Os nad ydych wedi bod yn rhan o unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol, rhaid i chi ddatgan hynny.  

Dylech naill ai fyfyrio ar eich proses digwyddiad arwyddocaol lleol neu ar yr hyn rydych wedi bod yn ei wneud yn dda er mwyn lleihaur perygl o ddigwyddiad arwyddocaol.   

Nid oes angen datgan bod digwyddiadaun rhai arwyddocaol at ddibenion ailddilysu os nad ydynt yn cyrraedd trothwyr Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer digwyddiadau syn achosi niwed arwyddocaol neun peryglu diogelwch cleifion, ond gallant gynnig cyfleoedd dysgu pwysig o hyd.    

Dylid ystyried dysgu o ddigwyddiadau yn rhan arferol o adolygu ymarfer syn arwain at wella ansawdd. 

Gallech ddysgu o ddigwyddiadau cadarnhaol ac ymarfer da, yn ogystal ag o ddigwyddiadau lle y gellid fod wedi gweithredun wahanol.  

Byddain anarferol peidio â dod i gysylltiad ag unrhyw ddigwyddiadau sydd â rhywfaint o botensial ar gyfer dysgu. 

Nod penawdau templed MARS yw sicrhau eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol yn eich cofnod arfarnu. 

Os ydych yn credu bod digwyddiad yn bodloni trothwyr Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer digwyddiadau diogelwch cleifion (digwyddiadau syn cyrraedd lefel arwyddocaol o niwed gwirioneddol neu niwed posibl i gleifion) dylech ei gofnodi fel Digwyddiad Arwyddocaol yn system MARSOs ywr digwyddiad o dan y trothwy, gallech ei gofnodi fel Gweithgaredd Gwella Ansawdd.  

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences