Gwybodaeth ddefnyddiol a darllen ychwanegol i Arfarnwyr.
Mae’r adran hon yn cynnwys:
- Pecyn Cymorth Arfarnu Meddygol
- Protocol Eithriadau Meddygon Teulu
- Protocol Eithriadau Meddygol
- GOFAL (Gwaith clinigol cyfaint isel)
- ABEL (Cymorth wrth asesu ansawdd gweithgaredd Gwella Ansawdd (QI))
- ADAM (Dull Asesu Trafodaeth Arfarnu)
- EVE (Gwerthuso'r Dystiolaeth')
Pecyn Cymorth Arfarnu Meddygol
Nod y Pecyn Cymorth yw darparu Arfarnwyr, a'r meddygon a'r cydweithwyr y maent yn eu cefnogi, adnodd canolog ar gyfer cymorth lles y GIG, allanol a lleol.
Protocol Eithriadau Meddygon Teulu
Mae Protocol Eithriadau Meddygon Teulu yn ategu ‘Protocol Rheoli Eithriadau Arfarnu Cymru’ ac mae o ddiddordeb allweddol i:
- Uned Cymorth Ailddilysu (RSU)
- Cydlynwyr Arfarnu Meddygon Teulu
- Arfarnwyr Meddygon Teulu
- Timau Ail-ddilysu Cyrff Dynodedig
Mae'r ddogfen yn rhoi crynodeb o rai o egwyddorion allweddol arfarnu meddygol yng Nghymru, ei gysylltiadau ag ailddilysu a'i reolaeth yn y cyd-destun hwnnw. Mae'n canolbwyntio ar sut y bydd y lleiafrif o sefyllfaoedd sy'n ymwahanu o'r llwybr arfarnu arferol yn cael eu rheoli gan y sefydliad perthnasol h.y. yr Uned Cymorth Ailddilysu (RSU), AaGIC a/neu'r Corff Dynodedig (DB).
Mae dogfen gweithredu'r Meddyg Teulu (Protocol Eithriadau) a llythyrau i’w gweld isod:
Canllawiau Rheoli Eithriadau Arfarnu Meddygol Cymru
Mae'r ddogfen hon yn ategu Llwybrau Rheoli Eithriadau Arfarnu Cymru y cytunwyd arnynt gan Grŵp Goruchwylio Ailddilysu Cymru (WROG) ac mae'n cynnwys llwybrau y gellir eu dilyn gan Gyrff Dynodedig (DBs), ynghyd ag atodiad o ohebiaeth awgrymedig y gellir ei defnyddio ar gyfer y gwahanol
eithriadau a allai godi.
Canllawiau Rheoli Eithriadau Arfarnu Meddygol Cymru
Adnodd ABEL
ADAM (Dull Asesu Trafodaethau Arfarnu)
Mae dau Gydlynydd Arfarniadau Meddygon Teulu (Dr Mark Rowlands a Dr Lynne Rees) wedi datblygu Dull Asesu Trafodaethau Arfarnu (ADAM), sydd erbyn hyn wedi’i symleiddio i ffurf symlach (rADAM). Roedd yr ADAM gwreiddiol yn rhagweld adolygiad gan gymheiriaid o’r union drafodaeth arfarnu (naill ai wedi’i recordio neu wyneb yn wyneb – gyda chaniatâd yr arfarnai). Gellir defnyddio’r math symlach hwn ar gyfer hunanasesiadau a datblygiad posibl.
EVE - Hybu her mewn arfarniad