Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Ydych chi’n gweithio yng Nghymru neu ym maes Ymarfer Meddygol am y tro cyntaf

Mae gwefan Ailddilysu Cymru yn cynnwys gwybodaeth am bob agwedd ar arfarnu ac ailddilysu a fydd yn eich helpu drwy’r broses hon. 

Os ydych chi'n newydd i weithio yng Nghymru fel meddyg, wedi ennill eich Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) yn ddiweddar, yn gweithio fel cymrawd clinigol neu mewn swydd arall nad yw'n un hyfforddi (e.e., F3), mae rhai pwyntiau o bwys ynghylch arfarnu ac ailddilysu y mae angen i chi eu gwybod, a'r camau y mae angen i chi eu cymryd:

Ymgyfarwyddo â chanllawiau arfarnu ac ailddilysu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol 

Os ydych chi'n newydd i ymarfer, dylech ymgyfarwyddo â chanllawiau arfarnu ac ailddilysu'r GMC. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ei Gwybodaeth Ategol .

Sicrhewch eich bod wedi cael eich ailddilysu adeg ennill eich CCT.

Os ydych newydd dderbyn eich CCT, yn y rhan fwyaf o achosion bydd eich deoniaeth yn prosesu argymhelliad ailddilysu are eich cyfer. Yna byddwch yn derbyn cadarnhad gan y GMC ac yn cael dyddiad ailddilysu newydd ymhen pum mlynedd. Os nad ydych wedi cael eich ailddilysu, dylech gysylltu â'ch tîm ailddilysu deoniaeth am arweiniad pellach.

Ewch ati i sefydlu cysylltiad rhagnodedig ar gyfer ailddilysu

Eich cam cyntaf fydd sefydlu cysylltiad rhagnodedig ar gyfer ailddilysu gyda chorff dynodedig, person addas neu'n uniongyrchol gyda'r GMC. Dylai'r cysylltiad hwn adlewyrchu eich prif gyflogaeth. I'r rhai sy'n gweithio o fewn GIG Cymru, bwrdd iechyd fydd hwn fel arfer. Gweler canllawiau cysylltiad y GMC  am ragor o wybodaeth.

Bydd angen i chi greu cyfrif GMC Online i sefydlu a rheoli eich cysylltiadau rhagnodedig.

Cofrestru gyda'r System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS)

Mae pob meddyg y GIG yn defnyddio'r System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS)  ar gyfer eu harfarniadau blynyddol. Dylech gofrestru gyda'r system cyn gynted ag y byddwch yn gweithio yng Nghymru ac nad ydych bellach mewn swydd hyfforddi.

Os ar unrhyw adeg byddwch chi'n newid eich cysylltiad rhagnodedig i'w ailddilysu gyda'r GMC, rhaid i chi hefyd ddiweddaru eich manylion proffesiynol ar MARS.

Swyddi F3 neu Gymrawd Clinigol ac arfarnu

Os ydych chi'n gweithio, neu'n bwriadu gweithio, fel F3, cymrawd clinigol neu mewn swydd arall nad yw'n gradd hyfforddiant, mae angen i chi ymgysylltu ag arfarnu ac ailddilysu blynyddol. Mae'n hanfodol eich bod chi'n cofrestru gyda MARS cyn gynted ag y byddwch chi'n dechrau eich swydd ac yn ymgysylltu ag arfarnu. Gweler rhagor o wybodaeth am sut i baratoi ar gyfer arfarniad ar y dudalen ' Sut i baratoi ar gyfer arfarniad’.  

Fframwaith Gallu Digidol

Mae’r Fframwaith Gallu Digidol ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru yn adnodd ymarferol, rhyngweithiol, ar gyfer unigolion a thimau, i ddeall yn well y sgiliau, yr ymddygiadau a’r agweddau sydd eu hangen i ffynnu mewn byd digidol. Mae’r adnodd yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich galluoedd digidol a hunanasesu, i nodi eich cryfderau a meysydd i’w datblygu.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences