Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Beth yw rôl Arfarnwr

Mae Arfarnwr Meddygol yn feddyg trwyddedig fel arfer, fodd bynnag gallai fod yn fwy priodol i Arfarnwr fod o gefndir nad yw'n feddygol, er enghraifft os oes gan feddyg rôl rheoli uwch.

Mae'n bwysicaf bod Arfarnwr wedi cynnal yr hyfforddiant perthnasol ac yn deall egwyddorion gwerthuso ac ail-ddilysu. Mae'n rôl broffesiynol bwysig ac yn gonglfaen y system arfarnu.

Mae Arfarnwyr Meddygol, drwy eu hyfforddiant, yn datblygu set briodol o sgiliau i sicrhau bod arfarnu'n broses gadarnhaol, gan ysgogi gwelliant ansawdd trwy gymhelliant a datblygiad y meddyg unigol. 

Mae safonau Arfarnwyr wedi’u datblygu yng Nghymru i amlygu’r elfennau craidd ar gyfer unrhyw fframwaith cymwyseddau Arfarnwyr , er mwyn sicrhau bod gan Arfarnwyr y sgiliau priodol ar gyfer y rôl:

  • Cyfrifoldeb proffesiynol — i gynnal hygrededd fel Arfarnwr Meddygol. 
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth — i ddeall rôl a phwrpas yr Arfarnwr meddygol a gallu gwneud arfarniadau effeithiol. 
  • Dyfarniad proffesiynol - dadansoddi a syntheseiddio gwybodaeth a gyflwynir wrth arfarnu ymgysylltiad a chynnydd tuag at ail-ddilysu.
  • Sgiliau cyfathrebu — hwyluso trafodaeth arfarnu effeithiol, cynhyrchu allbynnau o ansawdd da a delio ag unrhyw faterion neu bryderon a allai godi. 
  • Sgiliau trefnu — er mwyn sicrhau bod y system arfarnu yn rhedeg yn llyfn, gan gynnwys ymatebion amserol a sgiliau cyfrifiadurol effeithiol.

Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Arfarnwyr Meddygol

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences