Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Cofnod ffug arfarniad meddygon teulu 

Dyma enghraifft o’r un gweithgaredd addysgol yn cael ei drin mewn tair ffordd wahanol. Y nod yw defnyddio’r un gweithgaredd i geisio dangos sut gellir mesur lefelau gwahanol o ddeilliannau dysgu a myfyrio o’r cofnod.

Mynychodd y meddyg sgwrs undydd ar gardioleg.

Enghraifft A

Teitl Cwrs Cardioleg 24/4/2020
Gweithgaredd Mynychais gwrs cardioleg
Rheswm Roedd ar gael yn lleol
Myfyrio Roedd y diwrnod yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol o bob math. Cynhaliwyd y cwrs gan gardiolegwyr lleol ac roedd yn cynnwys siaradwyr o ardaloedd eraill hefyd. Yn gyffredinol, teimlaf fod hwn wedi bod yn ddiweddariad da o’m dealltwriaeth o broblemau cardioleg a sut i’w rheoli.
Deilliant Rwyf wedi diweddaru fy ngwybodaeth.

Nid yw’r enghraifft hon yn dangos unrhyw fyfyrio gwirioneddol, ond mae’n cofnodi bod y meddyg wedi mynychu’r cwrs. Dyma’r math o gofnod sydd, os yw’n cael ei ailadrodd ym mhob un o gofnodion eich arfarniad, yn debygol o olygu bod eich arfarnwr yn poeni am eich portffolio. Gallai ystyried cysylltu â chi i’ch annog i ddarparu mwy o wybodaeth/myfyrio ar eich deilliannau dysgu. I bob pwrpas, mae’n rhestru’r hyn a wnaethoch mewn ffordd hynod gryno. Nid yw’n darparu unrhyw wybodaeth i’r arfarnwr am sut mae wedi newid eich ymarfer na sut mae wedi diweddaru’ch gwybodaeth. Pe bai’ch holl gofnodion yn debyg i’r cofnod hwn, mae’n debygol y byddai’r arfarnwr yn cysylltu â chi i ofyn i chi gynnwys rhagor o wybodaeth yn eich portffolio. Gallai hyd yn oed benderfynu nad yw’ch portffolio’n barod ac nad oes modd cynnal yr arfarniad. Mae un o ofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn nodi eich bod yn dangos myfyrdod ar eich dysgu. Nid yw’n golygu na wnaethoch fyfyrio ar y profiad, ond mae’n golygu na wnaethoch dangos hynny yn y portffolio. Mae pob meddyg yn myfyrio ar ddysgu, ond mae rhai’n well na’i gilydd am ddangos hynny yn y portffolio.

Enghraifft B

Teitl Cwrs Cardioleg 24/4/2020
Gweithgaredd Mynychais gwrs cardioleg
Rheswm Fi yw’r arweinydd cardioleg yn y practis ac roeddwn wedi gosod hwn fel targed yng Nghynllun Datblygu Personol y llynedd
Myfyrio Roedd y trafodaethau a gafwyd yn ystod y dydd yn ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth. Roeddent yn fy atgoffa am rai o’r prif newidiadau wrth reoli cyflyrau cardioleg sydd wedi’u cyflwyno dros y 12 mis diwethaf. Roedd y sgwrs am reoli poen yn y frest yn arbennig o ddiddorol gan fod hon yn broblem glinigol yn aml sy’n gallu achosi pryder. Roedd y canllawiau a roddwyd gan y cardiolegwyr lleol yn ddefnyddiol iawn.
Deilliant Byddaf yn defnyddio’r wybodaeth a ddysgais mewn perthynas â rheoli poen yn y frest a phynciau clinigol eraill a drafodwyd ar y diwrnod.

Mae’r cofnod uchod yn dangos rhywfaint o fyfyrio gan ei fod yn nodi pa ran o’r sgwrs a oedd yn fwyaf diddorol i’r meddyg. Byddai hyn yn fan cychwyn i’r arfarnwr drafod y pwnc ac archwilio’r canllawiau ar boen yn y frest. Nid yw’r cofnod hwn yn gwbl gyflawn ond mae’n dangos bod y broses fyfyrio wedi cychwyn.

Enghraifft C

Teitl Cwrs Cardioleg 24/4/2020
Gweithgaredd Mynychais gwrs cardioleg
Rheswm Fi yw’r cardiolegydd arweiniol yn y practis ac roeddwn wedi gosod hwn fel targed yng Nghynllun Datblygu Personol y llynedd
Myfyrio

Roedd y diwrnod astudio yn ddefnyddiol i mi. Roedd yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

  • Ffibriliad atrïaidd a gwrthgeulo
  • Diagnosis a rheoli poen yn y frest
  • Diagnosis a rheoli methiant y galon
  • Rhaglen sgrinio ymlediad aortaidd

Ffibriliad atrïaidd a gwrthgeulo - Mae’r practis wedi bod yn ymwneud â’r maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi ceisio defnyddio sgoriau HASBLED a CHADS2VASC2 er mwyn helpu i annog ein cleifion i gymryd meddyginiaeth wrthgeulo. Fe wnaethom ystyried y pwnc hwn ychydig flynyddoedd yn ôl ond nid ydym wedi cynnal archwiliad ffurfiol yn y maes hwn. Roedd y sgwrs yn fy atgoffa am bwysigrwydd gwrthgeulo fel ffordd o atal strôc. Rwy’n meddwl y byddwn yn hoffi trafod yr hyn a ddysgais â’m cydweithwyr yn y practis ac adolygu ein sefyllfa bresennol a phenderfynu sut i symud ymlaen.

Diagnosis a rheoli poen yn y frest - Roedd y sgwrs yn seiliedig ar ganllawiau NICE ar gyfer asesu poen yn y frest. Roedd y model blaenoriaethu a awgrymwyd gan ganllawiau NICE yn ddefnyddiol a chredaf y byddaf yn dechrau defnyddio’r model hwn yn fy ymarfer o ddydd i ddydd. Yn eu hanfod, roedd y canllawiau’n grynodeb o’r hyn roeddwn yn tueddu i’w wneud beth bynnag.

Diagnosis a rheoli methiant y galon - Roedd y modiwl hwn yn fy addysgu am y cyffuriau newydd y gellir eu defnyddio ar gyfer methiant y galon, yn enwedig y cyffur Enbrel. Rwy’n credu bod hwn yn gyffur y mae angen i mi ddysgu mwy amdano a byddaf yn meddwl am sut i wneud hynny.

Rhaglen sgrinio ymlediad aortaidd - ni ddysgais unrhyw beth newydd o ganlyniad i’r sgwrs hon.

Deilliant

Mae angen i mi a’m cydweithwyr drafod ein perfformiad ym maes rheoli ffibriliad atrïaidd ac ystyried sut gallwn ddatblygu’r maes hwn yn y practis.

Hoffwn ddatblygu dalen A4 i’m hatgoffa am nodweddion allweddol y cyflwyniadau ar asesu poen yn y frest, gan rannu’r wybodaeth hon â’m cydweithwyr o bosibl.

Byddaf yn edrych ar y BNF i ystyried cyffuriau newydd yn ymwneud â methiant y galon a phenderfynu a oes angen i ni newid sut rydym yn rheoli methiant y galon yn y practis. Mewn gwirionedd, nid wyf yn credu y bydd angen i ni wneud llawer gan fod ein tîm cardioleg lleol yn rheoli’r cleifion hyn yn dda iawn drwy nyrsys methiant y galon.

Mae’r enghraifft hon yn dangos yn glir sut mae’r meddyg wedi myfyrio ar elfennau gwahanol o’r cwrs ac wedi nodi sut mae’n debygol o effeithio ar ei ymarfer. Yn ogystal, mae’r meddyg wedi awgrymu sut gellid defnyddio’r wybodaeth yn ei ymarfer bob dydd a sut gallai fod yn bwysig o ran cael effaith ar ofal cleifion. Dyma’r math o gofnod sy’n dangos myfyrdod ar lefel gymharol uchel. Wedyn, byddai’r arfarnwr yn debygol o drafod sut gallai’r meddyg ddatblygu’r syniadau, gan gynnwys cynnal archwiliad mewn perthynas â rheoli ffibriliad atrïaidd.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences