Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Enghreifftiau o QIA

Gofal Sylfaenol 

  1. Archwilio effeithiolrwydd monitro cleifion ar feddyginiaeth risg uchel e.e. DMARDs, DOACs, NSAIDs 

Dysgu am argymhellion ychwanegol ar gwrs diweddaru. 

Dylai fod yn berthnasol ich rôl, a dylai nifer y cleifion fod yn ddigon i ddangos effaith.  

Cyfeirio at ganllawiau cydnabyddedig.  

Maen bwysig gwneud gwelliannau ir broses y gellir parhau â nhw ir dyfodol nid dim ond llenwir bocsys ar gyfer casglu data am yr eildro, yna mynd yn ôl at broses aneffeithiol. 

2. Datblygu protocol ymarfer e.e. ar gyfer ymchwilio i B12 isel a thrin gyda B12 drwyr geg neu chwistrell 

Wedi’i ysgogi gan niferoedd uchel o gleifion ar bigiadau B12 hirdymor, gydag amheuaeth fod llawer ohonynt yn amhriodol. 

Cyfeiriwch at ganllawiau.  

Dylech gynnwys y tîm. Ystyriwch hyfforddiant tîm.  

Ystyriwch wybodaeth am gleifion i gefnogi newid. 

Cadwch bethau’n hylaw – gall y niferoedd fod yn uchel, gan ofyn am broses fesul cam – achosion newydd yn gyntaf, yna gweithio’n ôl drwy’r rhai ar bresgripsiynau rheolaidd. Meddyliwch am y raddfa amser. 

Archwiliwch i fonitro newid/gwella 

Ddim yn ddigon dim ond ysgrifennu protocol yna gobeithio y bydd yn arwain at welliant. 

3. Rheoli UTI tybiedig 

Problem gyffredin ac un nad ywn cael ei rheolin gyson ac yn effeithiol yn aml – wedi bod yn bwnc llosg gyda llawer o ganllawiau a chyfarfodydd addysgol/erthyglau/e-ddysgu ynghylch gwellar defnydd o adnoddau a lleihaur defnydd o wrthfiotigau ac ymwrthedd 

Cyfeiriwch at ganllawiau a nodwch faes/meysydd i’w gwella 

Llawer o feysydd i’w hystyried – arwydd bod angen gwrthfiotig, dewis gwrthfiotig, hyd y driniaeth wrthfiotig, defnyddio profion dipio, defnyddio labordy ar gyfer dadansoddi MSU, gwybodaeth glinigol am geisiadau am sampl, trin samplau wrin sy’n cael eu gadael yn y dderbynfa, ceisiadau dros y ffôn am wrthfiotigau, profion dipio mewn cartrefi gofal, cleifion â chathetr, ac ati 

Cyflwr cyffredin – lle i staff locwm neu feddygon teulu y tu allan i oriau gynnal QIA ac edrych ar gyfres achos neu gyfle i feddygon teulu sy’n gweithio mewn practisau archwilio agweddau ar ofal. 

4. Adolygu atgyfeiriadau e.e. i wroleg/neffroleg 

Gallai gael ei ysgogi gan ddysgu o ddiwrnod astudio 

Cyfeiriwch at ganllawiau a llwybrau lleol e.e. llwybr lleol ar gyfer Hematwria Nad ywn Weladwy, pryd i gyfeirio swyddogaeth arennol syn dirywio, beth iw gynnwys mewn llythyrau atgyfeirio 

Gallai fod yn archwiliad, neun gyfres achos.  

Ystyriwch faint o achosion fyddain nifer rhesymol i ddangos gwelliant – byddai un neu ddau ddim yn ddigon, 10 neu fwy yn well. Dewiswch faes syn elfen sylweddol och llwyth achosion er mwyn sicrhau y gallwch gasglu digon o achosion.  

5. Datblygu modiwl addysgol ar gyfer cydweithwyr e.e. rheoli achosion a amheuir o ganser y croen 

Datblygwyd mewn ymateb i reoli amhriodol syn poenir meddyg 

Ddim yn ddigon tybio y bydd bodolaeth modiwl dysgu yn arwain at well rheolaeth. 

Byddai angen cefnogi hyn gyda threfn i gasglu data cyn ac ar ôl hynny i ddangos newid mewn ymateb i addysg. 

Beth am chwilio am adborth ar y modiwl. 

Meddyliwch am rifau e.e. mae 2 berson yn cwblhaur modiwl ac mae un yn dweud ei fod wedi gwella ei ddealltwriaeth o pryd i atgyfeirio – nid yw hyn yn ddigon.  

6. Cynhyrchu Taflen Wybodaeth i Gleifion e.e. sut i gymryd swab or fagina eich hun, cyngor teithio i gleifion diabetig 

Wedii ysgogi gan fyfyrio y byddain arbed amser ac yn fwy effeithiol i roi gwybodaeth ysgrifenedig i gleifion. 

Briff gwybodaeth am swabio o daflen y gwneuthurwr yn erbyn cyngor teithio manwl unigryw syn deillio o lawer o ymchwil bersonol - dim llawer o weithgarwch personol yn gysylltiedig â chreur cyntaf o gymharu âr olaf, er ei bod yn cael ei rhoi i fwy o gleifion, felly nid yw taflen swabio yn ddigon mewn gwirionedd ar gyfer QIA ailddilysu. 

Sut ydych chin mesur yr effaith i gwblhaur QIA? 

Ar gyfer y cyngor teithio, byddai angen adborth gan gleifion, neu adborth gan gydweithwyr bod hwn yn adnodd defnyddiol ac yn gwella diogelwch cleifion. 

Gallai dangos effaith ar y daflen swabio, e.e. niferoedd gwell â chanlyniadau swab hunan-brawf amserol yn mynychu ar gyfer gosod coil, ei chodi i safon ailddilysu, er nad oes llawer o waith yn gysylltiedig â chreur daflen. Y gweithgaredd QI fyddai datblygu proses cyn gosod coil i gael hunan-swabiau a dosbarthur daflen i gefnogi hyn, ac yna dangos bod y broses hon yn effeithiol. 

Nid yw ysgrifennu taflen o reidrwydd yn arwain at wella ansawdd, felly nid ywn ddigon. 

7. Adolygu ymgynghoriadau 

Maen bwysig nodi meini prawf ansawdd i fesur yn eu herbyn e.e. ansawdd cofnodion, priodoldeb rhagnodi, cyngor a roddir yn unol â thystiolaeth glinigol ac ati. 

Nid yw adolygu nifer o ymgynghoriadau a myfyrio arnynt heb unrhyw strwythur nac ystyr yn dangos gwelliant mewn ansawdd.  

8. Datblygu templed ymarfer, offeryn asesu, neu brofforma i gynorthwyo gwaith rheoli e.e. templed cyfrifiadurol pwrpasol ar gyfer cofnodi gwybodaeth mewn adolygiadau o glefydau cronig, profforma ar gyfer ceisiadau am ymweliadau cartref, offeryn asesu ar gyfer sepsis tybiedig neu risg hunanladdiad mewn gwasanaethau y tu allan i oriau 

Gall pryderon am anghysondeb a/neu golli gwybodaeth bwysig yn aml fod mewn ymateb i ddigwyddiad arwyddocaol neu ddigwyddiad dysgu. 

Bydd rhannur adnodd gydar tîm mewn ffordd syn hyrwyddor defnydd ohono yn cynyddur effaith. 

Bydd casglu data yn well yn dangos cyflawniad. 

Nid yw defnyddio offeryn asesu o reidrwydd yn gyfystyr â gwell ansawdd gofal - byddai adborth gan gydweithwyr syn defnyddior offeryn yn fwy defnyddiol, byddai dadansoddiad o gyfres o achosion lle defnyddiwyd yr offeryn hyd yn oed yn well ond efallai na fyddain hawdd ei wneud mewn rhai gweithleoedd. 

9. Gwella rhagnodi e.e. hypnotigion, cyffuriau rheoledig 

Nodwyd fel pwnc llosg neu o wybodaeth rhagnodir practis. 

Cyfeiriwch at ganllawiau ar ymarfer da. 

Gosodwch amserlen realistig – gall fod yn rhywbeth syn cymryd sawl blwyddyn i gyflawni nodau, ond efallai y gallwch ddangos gwelliant ar hyd y ffordd er mwyn ei ddefnyddio fel QIA ailddilysu. Gall cymryd gwelliant gam ar y tro fod yn fwy cyraeddadwy. 

Bydd archwiliadau syn seiliedig ar ymarfer yn dangos gwelliant a gellir eu hailadrodd yn gyfnodol. 

Meddyliwch am gynnwys y tîm cyfan, a sut caiff newid ei gyfleu i gleifion. 

Gallai staff locwm edrych ar gyfres o achosion a chymharu eu hymarfer ag arferion gorau.  

10. Archwilio offer e.e. bag meddyg, troli dadebru, cwpwrdd cyffuriau y tu allan i oriau ac ati 

Ysgogir hyn yn aml gan gyffuriau neu offer sydd ar goll neu wedi pasio eu dyddiad defnydd pan fydd eu hangen. 

Y cam cyntaf yw nodir hyn sydd ei angen i godir offer i safon gydnabyddedig, a chymharur sefyllfa bresennol â hyn i weld beth sydd angen ei wella – rydych eisoes yn gwybod bod problem, ond nid hyd a lled y broblem. 

Nid yw’n ddigon codi’r offer i’r safon ac yna ei ailarchwilio. Rydych chi’n gwybod ei fod yn iawn gan eich bod newydd ei ddiweddaru. Mae’n hanfodol datblygu proses ar gyfer sicrhau bod hyn yn cael ei gynnal, a bod y safon yn cael ei hadolygu’n rheolaidd. Mae angen ailarchwilio maes o law pan fydd pethau wedi cael amser i lithro eto er mwyn dangos bod ansawdd wedi’i wella a’i gynnal. 

 

Gofal eilaidd 

  1. Cymharu dyfeisiau meddygol  

Wedii ysgogi gan ddefnydd o’r gwahanol ddyluniadau dyfeisiau a ffefrir gan wahanol ymarferwyr o fewn y Bwrdd Iechyd, ac nid oes consensws ynghylch pa rai, os o gwbl, syn rhoir canlyniadau gorau. 

Meddyliwch am fesurau canlyniadau e.e. cymhlethdodau cynnar/hwyr syn glinigol bwysig  

Mae angen i’r niferoedd fod yn arwyddocaol os yw eich adolygiad yn mynd i lywio newidiadau i’r dewis o ddyfais, ac efallai y bydd angen i chi ymgysylltu â chydweithwyr o ymhellach i ffwrdd i gasglu data ystyrlon. 

Nid yw’r QIA yn gyflawn nes bod newid wedi’i wneud a hyd nes ceir cadarnhad o ymarfer gwell. 

2. Archwilio ansawdd ymarfer yn erbyn dangosyddion ansawdd lleol a cenedlaethol e.e. ar gyfer llawdriniaethau 

 Nid yw archwiliadau rheolaidd sy’n dangos canlyniadau a gynhelir sy’n debyg i rai cymheiriaid, sy’n arwain at barhau i ymarfer yn yr un ffordd, yn enghraifft o wella ansawdd mewn gwirionedd.  

Efallai y byddwch yn nodi un neu fwy o ddangosyddion allweddol lle gellid gwella eich perfformiad, a gallech ganolbwyntio eich sylw ar newidiadau yn y dangosyddion hynny, gan chwilio am welliant mewn cylchoedd yn y dyfodol. 

Heb unrhyw newid, mae hyn yn y bôn yn dystiolaeth bod eich perfformiad o ansawdd boddhaol. Mae’n dal i fod yn wybodaeth ddilys i’w chynnwys yn eich deunydd arfarnu, ond byddai’n well gan eich arfarnwr weld tystiolaeth o welliant i ddilysu hyn fel QIA ar gyfer ailddilysu. 

3. Gwaith ar strwythur SOP a Llywodraethu ar gyfer rhan or gwasanaeth 

Gallai gael ei ysgogi gan adolygiad allanol syn tynnu sylw at feysydd iw gwella. 

Meddyliwch am eich rôl. 

Nodwch newidiadau a wnaed e.e. SOPs newydd, dogfennau ategol newydd; contractau wediu diweddaru. 

Casglwch ddata i gadarnhau bod strwythurau newydd wediu mabwysiadu a bod y gwasanaeth bellach yn bodloni safonau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. 

Myfyriwch ar effaith y gwaith hwn ar ansawdd y gwasanaeth. 

4. Adolygiad or llwybr atgyfeirio 

Efallai y caiff ei ysgogi pan fyddwch yn sylwi nad yw llwybr presennol yn defnyddio adnoddaun effeithiol e.e. blaenoriaethu grwpiau penodol ar draul eraill yn amhriodol, cam yn y driniaeth syn oedi cynnydd heb fudd clir ac ati 

Y cam cyntaf fyddai cael tystiolaeth or angen am newid. Trafodwch gydar tîm a chytunwch ar newid iw wneud.  

Sut ydych chin mynd i gyfathrebu â rhanddeiliaid a sicrhau eu bod yn ymrwymo ir llwybr newydd? 

Sut ydych chin mynd i ddangos bod gwelliant wedi digwydd i gwblhaur QIA? Beth allech chi ei fesur? Ble ddylech chi gael adborth?  A fyddai adolygiad syn cymharu achosion tebyg cyn ac ar ôl y newid yn cefnogi teimlad greddfol bod yn rhaid ir llwybr newydd fod yn welliant? 

5. Datblygu tudalen we i gynnwys gwybodaeth syn berthnasol ich maes ymarfer 

Gall methu cael gafael ar ddogfennau allweddol pan fo’u hangen achosi rhwystredigaeth. 

Meddyliwch am yr hyn rydych chin ceisioi gyflawni, a phwy allai helpu. 

Beth sydd ei angen ar aelodaur tîm – ymgynghorwch. 

Sut ydych chin mynd i hyrwyddor dudalen we i gydweithwyr, a sut ydych chin mynd i sicrhau ei bod yn cael ei diweddaru? 

Sut byddwch chin gwybod ei bod wedi gwella ansawdd gofal? 

Nid yw penderfynu sefydlu tudalen we a chyflawnir nod hwn o reidrwydd yn welliant ansawdd. 

6. Datblygu gwasanaeth newydd 

Gallai gael ei ysgogi drwy weld bwlch mewn gwasanaethau lleol e.e. dim mynediad at wasanaeth arbenigol 

Pam wnaethoch chi ddewis y gweithgaredd hwn, a sut maen berthnasol ich rôl? 

Bydd ymgynghori â chydweithwyr yn bwysig wrth ddatblygu gwasanaeth newydd. 

Efallai ei bod yn ymddangos yn amlwg bod darparu gwasanaeth newydd yn welliant o gymharu â dim gwasanaeth. Byddain ddefnyddiol myfyrio ar y nifer syn manteisio ar y gwasanaeth newydd, a manteision darparur gwasanaeth hwn yn fwy lleol, ac o bosibl cael rhywfaint o adborth gan gydweithwyr a chleifion perthnasol. 

7. Trafodaethau rheolaidd am achosion gyda chydweithiwr/cydweithwyr syn ymgynghorwyr am gleifion heriol  

Gallair trafodaethau hyn fod yn gyfle i bledio’r achos dros gael dull cydweithredol lle nad yw opsiynau rheoli yn glir.  

Gallai rhannu arbenigedd a syniadau wella gofal cleifion unigol.  

Defnyddiwch enghreifftiau i ddangos tystiolaeth o ansawdd gofal gwell, lle maer drafodaeth wedi ysgogi newid mewn cynlluniau rheoli, a gwell canlyniad ir claf. 

Sut gallech chi rannur syniadaun ehangach? 

Bydd angen mwy nag 1 neu 2 achos arnoch er mwyn i hyn gyfrif fel QIA ar gyfer ailddilysu. 

8. Adolygiad o gwynion syn arwain at newid mewn techneg lawfeddygol 

Roedd y gweithgaredd hwn mewn ymateb i nifer o gwynion anffurfiol mewn apwyntiadau dilynol gan gleifion a oedd yn anfodlon â chanlyniad eu llawdriniaeth. 

Aeth y llawfeddyg ati i adolygu a myfyrio ar bob un or achosion au trafod gydag uwch gydweithiwr. 

Ers hynny mae wedi newid ei dechneg ac maen ystyried arsylwi ar gydweithwyr yn gwneud y llawdriniaeth er mwyn gweld pa welliannau pellach y gallent eu gwneud. 

Er mwyn cau pen y mwdwl ar hyn fel QIA ailddilysu, mae angen ir llawfeddyg ddangos bod y newidiadau i’r dechneg lawfeddygol wedi bod yn welliant – gallai arolwg pwrpasol o gleifion fod yn ffordd dda o asesu boddhad cleifion, yn hytrach na dim ond dibynnu ar leihad yn nifer y cleifion syn gwneud cwyn anffurfiol neun mynegi anfodlonrwydd yn yr apwyntiad dilynol. 

9. Prosiect QI wedii gefnogi gan archwiliad mewn ymateb i ddigwyddiad critigol a risg i ddiogelwch cleifion 

Mae adrodd ar ddigwyddiadau critigol yn nodi mater diogelwch cleifion. 

Bu ymgynghorydd yn gweithio gyda hyfforddeion i fynd ir afael âr mater, ac roedd ganddo rôl allweddol yn cyfathrebu âr rheolwyr, yn ogystal â chefnogi ac arwain yr hyfforddeion wrth gyflwyno a chynnal y prosiect. 

Nododd yr archwiliad cychwynnol hyd a lled y broblem. 

Gwnaed newidiadau mewn sawl cam i ddileur broblem, gan gynnwys cynllun peilot ar un ward. 

Roedd anghenion hyfforddi a chyfathrebu wediu cynnwys ac wedi cael sylw fel rhan or broses. 

Mae arolygon staff yn rhan or broses QI. 

Cadarnhaodd yr ailarchwiliad ostyngiad sylweddol yn y defnydd o offer anniogel. 

Cynllunio i dargedu ymhellach y meysydd problemus sy’n parhau ac ailarchwilio er mwyn cadarnhau bod offer anniogel yn cael ei symud yn llwyr. 

Ymyrraeth gyffredinol ichyflwynon ehangach a bydd yn darparu fframwaith ar gyfer cyflawni newid. 

Y prosiect yn cael ei rannu â grwpiau cymheiriaid a sefydliadau proffesiynol fel enghraifft o arfer gorau ai enwebu ar gyfer gwobr. 

Cynhaliwyd y prosiect QI hwn dros 2-3 blynedd hyd nes yr oedd bron wedii gwblhau. 

Mae hyn yn amlwg yn bodlonir holl ofynion ar gyfer QIA ailddilysu. 

10. Gwaith i wellar modd y caiff gwasanaeth ei ddarparu  

e.e. 

(i) Darparu gwaith theatr brys 

Roedd ymgynghorydd a oedd yn defnyddior theatr yn rheolaidd yn rhwystredig am y ffordd roedd yn cael ei rhedeg 

Gwaith hirsefydledig yn canolbwyntio ar redeg gwasanaeth theatr yn effeithlon 

Cynnwys archwilio a monitror gwasanaeth yn barhaus. 

Gwnaed sawl newid dros amser ir broses archebu a chyflwynwyd cyfarfod tîm dyddiol. 

Wedi ennill profiad o fapio prosesau a dadansoddi data. 

Mae ymgynghorydd yn teimlo eu bod wedi gwneud rhywfaint i wella pethau, ac wedi codi ymwybyddiaeth staff o nodau effeithlonrwydd, ond mae peth ffordd i fynd eto. A yw teimlad bod pethau wedi gwella yn ddigon i ddangos gwelliant mewn ansawdd? Maen debyg bod gennych dystiolaeth o welliant or archwiliadau ar monitro parhaus. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys rhywfaint or data hwn yn eich cofnod arfarnu fel ei bod yn glir ich arfarnwr beth sydd wedi gwella.  

Er bod mwy iw wneud o hyd, a bydd y gwaith yn parhau, os oes gennych ddata eisoes i ddangos bod ansawdd y ffordd y darperir gwasanaeth wedi gwella, yna gellid dilysur gwaith hwn fel QIA ailddilysu. Gallwch barhau âr gwaith hwn ar ôl y dilysiad, ai gynnwys yn eich CDP nesaf  

(ii) Cyflwyno adroddiadau canlyniadau diagnosteg electronig 

Ymgynghorydd yn arwain y gwaith o gyflwyno a datblygu e-adroddiadau ar gyfer eu harbenigedd – dymuniad hirdymor 

Gweithio gyda gwasanaethau TG y Bwrdd Iechyd a chyflenwyr systemau ymchwilio 

Wedi cwblhau cam 1 gyda system e-ganlyniadau gwbl weithredol ar gyfer rhai triniaethau allweddol. 

Gwaith wedii gynllunio yng ngham 2 i gynnwys mwy o driniaethau fesul tipyn, ac i sicrhau y bydd y broses yn cael ei chynnal gan y Bwrdd Iechyd. 
Maer nod mwy hirdymor i gynnwys profion POC yn gofyn am adnoddau ychwanegol, a mynd ir afael â nifer o gyfyngiadau technegol. 

Pam mae hyn yn welliant? Efallai ei bod yn ymddangos yn amlwg, ond bydd gan eich arfarnwr ddiddordeb yn y ffordd mae hyn yn gwella diogelwch cleifion, yn gwella effeithlonrwydd a mynediad at ganlyniadau, yn diwallu anghenion rhanddeiliaid ac ati. 

Cam 1 wedii gwblhau, a gellid gwirior QIA hwn ar gyfer ailddilysiad. Cam 2 yn ei hanfod yw cwblhaur prosiect parhaus hwn, felly ni fyddain cael ei wirio eto os ywn parhau i gylch ailddilysu arall. 

Maer nod tymor hwy ar gyfer profion POC yn ymddangos fel QIA ar wahân, er yn gysylltiedig, a gellid ei gyflwyno yn y cylch ailddilysu nesaf, yn dibynnu ar amseru. 

(iii) Digwyddiad rhanbarthol arbenigol cydweithredol 

Mynychwyd fel cyfle i rannu profiad a syniadau gyda chymheiriaid, yna datblygu eich gwasanaeth eich hun yn unol â hynny. 

Angen mwy o fanylion i gyfrif fel QIA ar gyfer ailddilysu - enghreifftiau och cyfraniad; perthnasedd ich gwaith; pa newidiadau ydych chi wediu gwneud o ganlyniad i fynychur digwyddiadau; sut mae hyn wedi effeithio ar eich ymarfer a gofal eich claf. 

Nid ywn ddigon mynychur digwyddiad a myfyrio ar y dysgu – mae angen tystiolaeth o newid a gwelliant.  

(iv) Datblygu canllaw 

Wedii ysgogi gan farwolaeth annisgwyl claf 

Gweithio gyda chydweithwyr i ddiweddarur protocol presennol ac addasu canllawiau cenedlaethol ich ysbyty eich hun. 

Llawer haws iw ddilyn nawr. 

 A yw hyn yn ddigon iw ddilysu fel QIA? 

Bydd eich arfarnwr am wybod hyd a lled eich cyfraniad personol chi at hyn.  

Sut yn union y bydd hyn yn gwella gofal a diogelwch cleifion? 

Beth yw effaith y canllaw newydd ar y cydweithwyr syn ei ddefnyddio? 

Oes gennych chi unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich honiad bod hyn yn welliant yn ansawdd y gofal? 

(v) Ymchwilio i gwynion am eich gwasanaeth 

Problem gyson gyda chwynion am gael mynediad at eich gwasanaeth i gael cyngor.  

Wedi cael eich ysgogi i ymchwilio ar ôl derbyn cwyn ysgrifenedig. 

Ymchwiliad i ganfod ble mae pethau wedi mynd o chwith yn y broses. 

Cysylltu â switsfwrdd i egluror broses. 

Trafodaeth fel tîm i ddod o hyd i ateb syn effeithiol ac syn ystyried adnoddau. 

Oes unrhyw un yn poeni ein bod wedi datrys hyn? A gefais i unrhyw ddiolch neu ganmoliaeth? Na. 

Meddyliwch sut gallech chi ddangos bod hyn yn welliant mewn ansawdd mynediad. 

Gallai rhywfaint o gymharu data ar gwynion cyn ac ar ôl y newid fod yn ddefnyddiol. 

Ydy hyn yn ddigon i gyfrif fel QIA? Maen dibynnu ar faint o weithgarwch personol a oedd ei angen, yn ogystal â gallu dangos gwelliant. Byddai ymchwiliad cymhleth syn cymryd llawer o amser, a thrafodaeth i ddod o hyd i ateb yn gwneud hyn yn QIA mwy sylweddol a allai fod yn addas i fodloni dibenion ailddilysu. 

 

 

 

 

 

 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences