Nid oes diffiniad o lwyth gwaith clinigol isel wedi’i gytuno’n gyffredinol ac nid yw cyfrif nifer y sesiynau sy’n cael eu gweithio dros flwyddyn yn debygol o fod yn ddefnyddiol.
Yng Nghymru, penderfynwyd mai mater i feddygon unigol yw nodi lefel isel o gyswllt clinigol. Mae system MARS yn gofyn i chi ddatgan eich gwaith clinigol ledled eich holl ymarfer, ac o ganlyniad gall y drafodaeth arfarnu gynnwys hyn fel rhan o’r drafodaeth fyfyriol. Mae sawl ffordd y gallai unigolyn nodi’r angen am sylw i gymwyseddau mewn maes gwaith e.e. llawfeddyg yn rhoi triniaeth benodol yn anfynych – gallai ddangos ei fod yn parhau i fod yn fedrus yn y maes hwn mewn ffordd wahanol i gyswllt uniongyrchol â chleifion (hyfforddiant efelychu er enghraifft). Mae’n bosibl y bydd meddyg teulu ddim ond yn gweld un achos o GCA bob dwy flynedd, ond ei fod wedi darllen a chadw canllawiau NICE ar y pwnc.
Mae ystyried llwyth gwaith clinigol isel yn ymwneud â llawer mwy na dim ond ystyried a ydych yn gweld cleifion. Mae meddygon teulu yn cyflawni mwy o swyddogaethau eraill, fel rheoli canlyniadau gwaed, rheoli llythyrau o ysbytai neu ymgymryd ag elfennau gwaith penodol fel gwasanaethau gwell uniongyrchol e.e. adolygiadau o gartrefi nyrsio. Mae’n bosibl y bydd y practis yn cyflogi’r meddyg teulu i gyflawni’r tasgau penodol e.e. gosod coil. Mae gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol rwymedigaeth broffesiynol i sicrhau eich bod yn gwneud y canlynol:
- sicrhau mai gofal y claf yw’ch prif ystyriaeth
- bod yn fedrus a diweddaru’ch gwybodaeth a’ch sgiliau proffesiynol
- gweithredu’n ddi-oed os ydych yn credu bod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu
- sefydlu a chynnal partneriaethau da gyda’ch cleifion a’ch cydweithwyr
- sicrhau bod pobl yn ymddiried ynoch chi a’r proffesiwn trwy ymddwyn yn agored, yn ddidwyll a gydag uniondeb.(ymarfer meddygol da’r Cyngor Meddygol Cyffredinol)
Mae’n bwysig myfyrio ar a ydych yn credu bod gennych chi’r wybodaeth a’r sgiliau i ymgymryd â’r rolau sy’n cael eu cyflawni gennych.
Ym maes ymarfer mewn ysbytai, mae sawl arbenigedd wedi rhannu’n is-arbenigedd, a byddai dangos y sgiliau a’r wybodaeth i wybod pryd i ddefnyddio timau/ymarferwyr eraill yn bodloni gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Gall gwaith clinigol arall mewn lleoliadau tebyg, fel gweithio mewn adran ddamweiniau, wneud iawn am y lefel isel o waith mewn maes arbenigedd penodol. Mewn achos o’r fath, bydd y meddyg yn defnyddio ei sgiliau meddygol yn rheolaidd, ac yn gyffredinol bydd llai o bwyslais ar ddiweddaru gwybodaeth. Fodd bynnag, mewn rhai sefyllfaoedd, gall y meddyg ymgymryd â gweithgareddau llai clinigol eu natur, fel bod yn gyfarwyddwr meddygol ar gyfer y bwrdd iechyd ac ati.
Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn datgan yn glir bod angen cynnal arfarniad blynyddol ar gyfer pob meddyg yn y DU a bod angen i bob meddyg trwyddedig gwblhau proses ailddilysu. Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn darparu cyngor defnyddiol ar sut i gofrestru a chwblhau’ch arfarniad.
Os ydych yn gweithio’n rhan-amser, mae’r gofynion ailddilysu mewn perthynas â’ch rôl yr un fath yn union â’r gofynion ar gyfer meddyg arall sy’n gweithio wyth neu ddeg sesiwn yr wythnos. Dyma’r gofynion:
Rhaid i chi wneud y canlynol bob blwyddyn:
- Darparu gwybodaeth gyffredinol am eich dyletswyddau ym mhob agwedd ar eich gwaith.
- Dangos datblygiad proffesiynol parhaus.
- Myfyrio ar ddigwyddiadau arwyddocaol, neu ar y broses y byddech yn ei defnyddio os nad oes gennych ddigwyddiadau arwyddocaol.
- Myfyrio ar gwynion neu ganmoliaeth.
- O leiaf unwaith yn ystod y cylch ailddilysu 5 mlynedd, mae’n rhaid i chi gasglu a myfyrio ar adborth gan gleifion a chydweithwyr sy’n deillio o’ch holl ymarfer yn y DU.
- O leiaf unwaith yn ystod y cylch ailddilysu 5 mlynedd, dylech ymgymryd â gweithgaredd gwella ansawdd sy’n seiliedig ar eich ymarfer yn y DU.
- Bydd eich arfarnwr yn gallu trafod sut gallwch wneud hyn os oes gennych batrwm gwaith anarferol.
Felly, mae angen i’r meddyg feddwl yn ofalus am sut i ddarparu tystiolaeth yn ymwneud â’i ymarfer clinigol. Gall fod yn ddefnyddiol iddo fyfyrio ar y canlynol:
- Pa mor hyderus ydw i o safbwynt fy ymarfer clinigol presennol?
- Sut mae fy mherfformiad yn cymharu â pherfformiad fy nghymheiriaid?
- A yw fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o’r maes gofal rwy’n ymwneud ag ef yn gyfoes?
- Sut byddwn yn rheoli sefyllfaoedd na ellir eu rhagweld y e.e. claf yn mynd yn anymwybodol yn ddirybudd?
- A oes gennyf yswiriant undeb amddiffyn priodol?
- A oes gennyf ddigon o dystiolaeth o’m dysgu a’m datblygiad clinigol yn fy mhortffolio?
- Sut mae’r arfarniad yn fy helpu i gynllunio fy anghenion dysgu?
I grynhoi, gallwch ddefnyddio’r broses o baratoi ar gyfer eich arfarniad, a thrafod eich arfarniad, i’ch helpu i asesu’ch anghenion arfarnu mewn perthynas â’ch gofynion ailddilysu a’ch rhwymedigaethau i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol er mwyn eich helpu i sicrhau eich bod yn parhau i fod yn gymwys i ymarfer ym mhob agwedd ar eich gwaith proffesiynol.