Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Awgrymiadau Gwych

Er mai’r Arfarnwr sy’n gyfrifol am hwyluso’r arfarniad, dylai’r unigolyn sy’n cael ei arfarnu baratoi ar gyfer y broses a’i llywio.

Os yw’r ymarferiad yn cael ei baratoi’n dda, gallai fod yn broses fuddiol, gan roi cyfle i’r meddyg fyfyrio ar ei ymarfer a’i helpu i ddatblygu ei sgiliau a’i ymddygiad proffesiynol. Dyma rai elfennau allweddol ar gyfer unigolion sy’n cael eu harfarnu sy’n helpu i sicrhau bod y profiad arfarnu mor fuddiol â phosibl:   

  1. Paratoi’n fanwl – deall y wybodaeth am eich arfarniad yn drylwyr a gwybod am yr eitemau allweddol rydych am eu trafod 
  2. Sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol a phroffesiynol ar system MARS yn gyfoes ac yn gynhwysfawr   
  3. Darllen a chwblhau’r datganiadau cywirdeb yn ofalus, gan ddarparu rhagor o wybodaeth am unrhyw feysydd lle rydych wedi anghytuno â’r datganiad. Nid oes angen i chi amlinellu’r holl fanylion ar system MARS, ond efallai y bydd eich Arfarnwr eisiau trafod eich myfyrdodau ar y mater hwn yn ystod y cyfarfod  
  4. Cynnwys gwybodaeth ym mhob un o bedwar maes y Cyngor Meddygol Cyffredinol, fel y’u nodir yn nogfen Ymarfer Meddygol Da y Cyngor Meddygol Cyffredinol, gan y bydd hyn yn helpu i ddangos eich ystod o ymarfer 
  5. Defnyddio templedi MARS i ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol ar gyfer y broses ailddilysu, fel digwyddiad arwyddocaol neu weithgaredd gwella ansawdd  
  6. Cwblhau’ch cofnodion gwybodaeth ategol o leiaf bythefnos (meddygon teulu)/wythnos (meddygon eraill) cyn dyddiad yr arfarniad. Bydd system MARS yn cael ei chloi at ddibenion golygu wedyn ac ni allwch ychwanegu rhagor o wybodaeth  
  7. Cynnwys eich holl waith sy’n gofyn am deitl Meddyg (er enghraifft, gwaith preifat neu addysgol) a dangos DPP ac adborth perthnasol yn y meysydd hyn fel rhan o arfarniad ymarfer cyfan yn unol â gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol 
  8. Ymgysylltu â’ch eitemau CDP blaenorol, os yw hynny’n berthnasol, a dangos sut mae’r canlyniadau wedi’u sicrhau neu egluro pam nad ydynt wedi’u sicrhau 
  9. Nid oes angen disgrifio popeth sy’n cael ei drafod mewn cyfarfod. Dylech ddefnyddio enghraifft benodol i ganolbwyntio ar ddysgu a myfyrio a sut byddant yn effeithio ar eich ymarfer wrth symud ymlaen. Dylech gynnwys digon o wybodaeth i sicrhau bod eich Arfarnwr yn deall eich cofnodion a’ch gweithgareddau. Mae’r broses hon yn ymwneud ag ansawdd y wybodaeth, nid faint o wybodaeth a ddarperir  
  10. Er bod cadw cofnodion ar system MARS yn bwysig, dylid canolbwyntio ar fyfyrdod sydd wedi deillio o ddigwyddiad neu weithgaredd dysgu penodol (felly, beth mae hyn yn ei olygu i mi, i’m cleifion, i’m hymarfer neu i’r GIG?) 
  11. Gwybod am yr hyn y gallech ei gynnwys yn eich CDP ar gyfer y flwyddyn ganlynol  
  12. Bod yn ymwybodol o’ch dyddiad ailddilysu (nodir hyn yn eich cyfrif GMC Connect neu’r dudalen cynnydd tuag at ail ddilysu ar system MARS) a gweithio tuag at gwblhau’r wybodaeth ofynnol e.e. DPP, gweithgaredd gwella ansawdd, digwyddiadau arwyddocaol, canmoliaeth a chwynion ac adborth gan gleifion a chydweithwyr 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences