Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Canmoliaeth a chwynion

Diben casglu a myfyrio ar ganmoliaeth a chwynion yw nodi meysydd ymarfer da, cryfderau a’r hyn rydych yn ei wneud yn dda; nodi meysydd i’w gwella, gwersi a ddysgwyd ac unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud o ganlyniad; dangos eich bod yn gwerthfawrogi pryderon a sylwadau cleifion a phobl eraill yn ymwneud â’ch gwaith trwy gyflwyno newidiadau o ganlyniad i’r adborth a gawsoch.

Rhaid i chi ddatgan a myfyrio ar bob cwyn ffurfiol amdanoch yn ystod eich arfarniad ailddilysu.   

Hefyd, dylech fyfyrio ar unrhyw gwynion rydych yn eu derbyn y tu allan i weithdrefnau cwyno ffurfiolos ydynt yn darparu dysgu defnyddiol. Nid oes angen i chi drafod pob cwyn yn ystod eich arfarniad. Dylech ddewis cwynion sydangos gwybodaeth am eich ymarfera chwynion sydd wedich cymell i newid eich ymarfer. Rhaid i chi allu egluro ich arfarnwr, os ywn gofyn, pam rydych chi wedi dewis y cwynion hyn yn benodol fel rhan och trafodaeth arfarnu.  

Yn ystod eich arfarniad, dylech drafod yr hyn rydych wedii ddysgu yn sgil y cwynion, a dangos sut rydych chi wedi myfyrio ar eich ymarfer ar newidiadau rydych wediu gwneud neun bwriadu eu gwneud.  

Dylech ddilyn yr un egwyddorion ar gyfer casglu, trafod a myfyrio ar ganmoliaeth.  

Canllawiau ar wybodaeth ategol ar gyfer arfarnu ac ailddilysu

Mae canmoliaeth yn ffynhonnell tystiolaeth bwysig syn gallu hwyluso myfyrdod ar eich ymarfer. Maen ffynhonnell dysgu ac atgyfnerthu. Trwy gasglu, trafod a myfyrio ar ganmoliaeth, rydych yn cael cyfle i gadarnhau meysydd cryfder yn eich ymarfer au heffaith gadarnhaol ar ofal cleifion. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall barn eich cleifion a phobl eraill rydych yn rhyngweithio â nhw bob dydd am yr hyn rydych yn ei wneud yn dda. Gall myfyrio ar ganmoliaeth eich helpu i ddatblygu meysydd cryfder ymhellach.    

Mae gennych rwymedigaeth broffesiynol i ddatgan unrhyw gwynion ffurfiol sydd wediu gwneud amdanoch chi neuch practis yn ystod eich arfarniad blynyddolau trafod gydach arfarnwr fel syn briodol. Mae cwynion ffurfiol yn gwynion syn cael eu derbyn amdanoch chi neuch tîm sydd wediu cydnabod neu eu cofnodin ffurfiol gennych chi neu gan y sefydliad sydd wediu derbyn.   

Dylech feddwl yn eang am ffynonellau canmoliaeth neu gwynion amdanoch chi neuch tîm ym mhob un och meysydd ymarfer. Gall hyn gynnwys cwynion yr ymdriniwyd â hwy drwy bolisïau a gweithdrefnau cwyno sefydliadol; cwynion sydd wediu datrys yn anffurfiol o bosibl heb orfod eu huwchgyfeirio’n ffurfiol; cwynion sydd wedi bod yn destun ymchwiliad gan gyrff rheoleiddio, er enghraifft, ombwdsmon, asiantaethau arolygu, neur Cyngor Meddygol Cyffredinol.    

Maen bosibl na allwch gyflwyno unrhyw gwynion neu ganmoliaeth syn eich enwin bersonol. Mewn sefyllfa or fath, gallwch ystyried myfyrio ar ganmoliaeth neu gwynion lleol perthnasol eraill sydd wedich helpu i newid eich ymarfer neu gadarnhauch ymarfer da presennol. 

Cofio Cyfrinachedd  

Gall dogfennau gwreiddiol gynnwys gwybodaeth syn gallu adnabod unigolionGallech ddewis cyflwynor dogfennau hyn yn ystod eich arfarniad yn hytrach nau golygu au lanlwytho i system  MARS. Wedyn, gall eich cofnod yn system MARS ganolbwyntio ar grynodeb dienw or materion, eich myfyrdod ac unrhyw newidiadau ich ymarfer.   

Mae templed MARS yno ich helpu a sicrhau bod y pwyntiau perthnasol yn cael eu cynnwys.  

Os oes cwyn sydd wedich enwi yn parhau am sawl blwyddyn, nid oes angen i chi fyfyrio arni yn ystod pob arfarniad os nad oes unrhyw gynnydd sylweddol wedii wneudond dylaich datganiad blynyddol gydnabod bod cwyn yn parhau i fynd rhagddia dylech fyfyrio arni o leiaf unwaith ym mhob cylch ailddilysu.    

Datganiadau uniondeb 

Maen bwysig darllen y datganiadau uniondeb yn ofalus a chwblhaur ymatebion cyn pob arfarniad.  

 

 

 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences