Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Adborth gan gleifion neu’r rhai sy’n derbyn gwasanaethau meddygol gennych

Diben casglu’r adborth hwn a myfyrio arno yw deall barn eich cleifion ac eraill am y gofal a’r gwasanaethau a ddarperir gennych; eich helpu i nodi’ch meysydd cryf a’r rhai sydd angen eu datblygu; nodi newidiadau y gallwch eu gwneud i wella’r gofal neu’r gwasanaethau a ddarperir gennych; a gwerthuso a yw newidiadau a wnaethoch i’ch ymarfer ar sail adborth cynharach wedi cael effaith gadarnhaol.

O leiaf unwaith ym mhob cylch ail-ddilysu rhaid i chi fyfyrio ar adborth gan gleifion, a gasglwyd gan ddefnyddio ymarfer adborth ffurfiol. 

Os nad oes gennych gleifion dylech fyfyrio ar adborth gan eraill rydych chi'n darparu gwasanaethau meddygol iddynt. Os na allwch gasglu adborth o'r fath, rhaid i chi gytuno â'ch swyddog cyfrifol nad oes angen i chi wneud hynny.

Dylid casglu adborth rydych chi'n myfyrio arno mewn ffordd sy'n briodol i'ch cleifion a'r cyd-destun rydych chi'n gweithio ynddo.

Ymhob arfarniad dylech fyfyrio ar unrhyw ffynonellau adborth cleifion eraill y gallwch eu cyrchu, sy'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am eich practis (megis adborth digymell).

Dylech fyfyrio ar adborth cleifion sy'n cwmpasu eich cwmpas ymarfer cyfan ar draws pob cylch ailddilysu.

Rhaid i chi fyfyrio ar adborth ac, os yw'n briodol, gweithredu arno mewn modd amserol a thrafod sut mae wedi llywio'ch ymarfer yn eich arfarniad

Canllawiau ar wybodaeth ategol ar gyfer arfarnu ac ailddilysu

Mae gan bob meddyg yng Nghymru fynediad at Orbit360adnodd ar-lein cymeradwy syn helpu i gasglu adborth gan gleifion a chydweithwyr.   

Bydd myfyrio ar adborth eich cleifion yn eich helpu i ddeall eu profiad fel cleifion au barn am eich ymarfer. Bydd hyn yn eich helpu i nodi newidiadau ich ymarfer y mae angen i chi eu gwneud er mwyn gwellar gofal neur gwasanaethau syn cael eu darparu gennych. Hefyd, bydd yn golygu bod modd i chi nodich cryfderau er mwyn eu datblygu ymhellach. Hefyd, maen bosibl y byddwch yn gallu gwerthuso a ywr newidiadau a wnaethoch ich ymarfer yn dilyn adborth cynharach wedi cael effaith gadarnhaol.     

O leiaf unwaith ym mhob cylch ailddilysu rhaid i chi gynnal ymarfer ffurfiol i gasglu, myfyrio a thrafod adborth gan gleifion.

Un o egwyddorion ailddilysu ywr angen i sicrhau bod adborth gan gleifion yn ganolog i ddatblygiad proffesiynol meddygon.   

Yn ogystal â'r ymarfer ffurfiol gofynnol efallai y bydd gennych ffynonellau adborth eraill gan gleifion, fel 'ffrindiau a theulu'; cyfryngau cymdeithasol, grwpiau ffocws, blychau awgrymiadau, adborth anffurfiol ad hoc. Gall yr holl adborth gan gleifion, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, arwain at fyfyrio gwerthfawr.

Mae templed MARS yno ich helpu a sicrhau bod y pwyntiau perthnasol yn cael eu cynnwys.  

Mae Cwynion a Chanmoliaeth yn enghreifftiau penodol o adborth gan gleifion y maen ofynnol i chi ei adolygu bob blwyddyn (gweler isod). 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences