Ni fyddwch yn bodloni’ch gofynion drwy gasglu’r wybodaeth ofynnol yn unig. Mae myfyrio parhaus ar eich ymarfer yn ganolog i’r broses ailddilysu, a dylai fod yn rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer eich arfarniad blynyddol. Gall eich arfarnwr hwyluso myfyrio pellach, yn ôl yr angen, ond eich cyfrifoldeb chi yw dangos enghreifftiau o’ch ymarfer myfyriol.
Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ac Academi’r Colegau Meddygol Brenhinol wedi darparu cyngor manwl ar yr hyn sy’n ofynnol yn y ddogfen ar yr “ymarferydd myfyriol”
Hefyd, mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn darparu rhai enghreifftiau nad ydynt wedi’u bwriadu i fod yn dempledi ond a allai’ch helpu i ddatblygu’ch syniadau.
Enghreifftiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol
Beth yw ymarfer myfyriol?
Yn ei ganllaw ar ymarferwyr myfyriol, mae Academi’r Colegau Meddygol Brenhinol yn diffinio ymarfer myfyriol fel hyn:
“Dyma’r broses lle mae unigolyn (hyfforddai neu hyfforddwr yn y cyd-destun hwn) yn meddwl yn ddadansoddol am sefyllfa neu weithgaredd clinigol, yn monitro ei gynnydd ac yn gwerthuso ei ganlyniad. Fel yr awgrymir gan hyn, gall (ac y dylai) ddigwydd cyn, yn ystod ac ar ôl y sefyllfa. Mae’n arwain at ddealltwriaeth well o’r sefyllfa ac yn galluogi’r unigolyn perthnasol i nodi effaith ei weithredoedd.”
Pam mae myfyrio’n bwysig?
Myfyrio yw un o’r egwyddorion sy’n sylfaen i oedolion yn dysgu. Dangoswyd bod myfyrio yn gwella dealltwriaeth ddyfnach ac yn gwella perfformiad yr unigolyn a’r tîm. Mae’n seiliedig ar waith ymchwil ac ar rai o ddamcaniaethau dysgu oedolion, fel cylch dysgu Kolb a gwaith Donald Schon yn ymwneud â bod yn ymarferydd myfyriol.
Business Balls i ymarfer myfyriol
Sut ydych yn dangos ymarfer myfyriol yn eich tystiolaeth?
Nid yw’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn diffinio sut i ddangos myfyrdod yn y portffolio gan ei fod yn cydnabod bod sawl ffordd o gyflawni hyn. Fodd bynnag, rhaid i chi ddangos myfyrdod yn y wybodaeth a gyflwynir gennych i’w harfarnu. Mae Academi’r Colegau Meddygol Brenhinol a Chynhadledd Cyfarwyddwyr Meddygol Ôl-raddedig yn darparu pecyn cymorth defnyddiol sy’n amlinellu modelau myfyriol gwahanol ac yn darparu templedi y gallech eu defnyddio i’ch helpu i gofnodi’r broses. Nid oes rhaid i chi gael eich rhwymo gan y ffurflenni ar wefan MARS; gallech ddefnyddio un o’r templedi sy’n cael eu hawgrymu a’i lanlwytho fel tystiolaeth.
Dolen Academi’r Colegau Meddygol Brenhinol
Yn gyffredinol, mae’ch arfarnwr yn edrych am dystiolaeth eich bod wedi gwneud mwy na dim ond cofnodi’r hyn a wnaethoch h.y. “Fe fynychais gwrs diweddaru ac fe ddysgais lawer”. Mae’r arfarnwr yn edrych am dystiolaeth o sut mae’r “digwyddiad dysgu”, boed yn gwrs, yn waith darllen, yn e-fodiwl ac ati, wedi newid neu ddiweddaru’ch ymarfer neu’ch gofal cleifion. Cyn belled â bod eich cofnod yn dangos sut mae pethau wedi newid mae’n debygol y bydd yr arfarnwr yn hapus gyda’ch gwybodaeth.
Yn ymarferol felly, pan fyddwch yn darparu deunydd ar gyfer eich ffolder arfarnu, mae angen i’r dystiolaeth gynnwys archwiliad o’r hyn a ddysgwyd o ganlyniad i’r gweithgaredd.
Mae llawer o fodelau myfyriol gwahanol ar gael ac mae rhai o’r templedi a’r penawdau sydd ar gael yn system MARS wedi’u cynllunio i’ch helpu i feddwl am y broses fyfyriol.
Drwy ateb y cwestiynau a awgrymir yn y templedi rydych yn cael eich cymell i ystyried sut gallwch ddangos y myfyrdod hwnnw.
Nid yw’r templedi wedi’u cynllunio i fod yn gyfyngol, ac os yw’n haws, gallwch ddefnyddio un o’r “templedi eraill” mwy penagored ar gyfer eich arfarniad.
Bydd eich arfarnwr yn ystyried sut mae’r gweithgaredd, waeth a yw’n myfyrio ar ddigwyddiad arwyddocaol, yn mynychu cyfarfod, yn darllen am y pwnc, yn ymateb i gŵyn, yn ymateb i ganmoliaeth, yn ymgymryd â modiwlau neu ddysgu ar-lein ac ati, wedi newid eich dealltwriaeth o’r maes rydych wedi dysgu amdano. Yn benodol, mae eisiau gwybod sut bydd yn gwella ac yn newid eich dulliau gwaith wrth drin a rheoli cleifion, neu sut bydd yn gwella’ch dull o gyflawni swyddogaeth arall.
O’i roi mewn ffordd arall:
- Beth ydych chi am ei wneud yn dilyn eich gweithgaredd dysgu nad oeddech yn ei wneud o’r blaen?
- Beth ydych chi am barhau i’w wneud sy’n cyd-fynd â’r ymarfer da presennol?
- Beth ydych chi am roi’r gorau i’w wneud gan nad yw’n enghraifft o ymarfer da bellach?
Gellir cymhwyso’r tri chwestiwn hyn i sefyllfaoedd clinigol ac anghlinigol, ac i ddysgu.
Hefyd, bydd eich arfarnwr yn ystyried a oes unrhyw weithgaredd dysgu unigol wedi’ch arwain i nodi anghenion dysgu pellach wrth fyfyrio ar y pwnc.
Dyma enghraifft bosibl: rydych yn mynychu cyfarfod yn ymwneud â ffibriliad atrïaidd. Mae’r cyfarfod yn eich gwneud yn ymwybodol o’r angen i roi meddyginiaeth wrthgeulydd i bob claf â diagnosis o ffibriliad atrïaidd. Y ddau ddewis yw warfarin neu wrthgeulyddion uniongyrchol drwy’r geg. Mae’r dystiolaeth ymchwil ar gyfer gwrthgeulyddion uniongyrchol drwy’r geg ond yn berthnasol i gleifion sydd â chlefyd falfaidd y galon. Wrth feddwl am hyn, nid ydych yn siŵr beth yw ystyr clefyd falfaidd y galon. Wrth ysgrifennu am y pwnc wedyn, byddech yn cynnwys y myfyrdod hwn ac yna’n awgrymu y gallech ddysgu mwy am y diffiniad o glefyd falfaidd y galon. Drwy nodi beth rydych am ddysgu amdano nesaf, rydych yn dangos eich bod wedi meddwl yn ofalus am y pwnc a’ch bod wedi nodi anghenion dysgu pellach. Hefyd, rydych yn amlygu sut bydd diwallu’r anghenion hynny yn datblygu’ch sgiliau i allu rheoli cleifion â’r cyflwr ffibriliad atrïaidd.
Wedyn, dylai’ch arfarnwr eich helpu i ddatblygu’r syniad yn ystod y broses arfarnu.
Yn ogystal â meddwl am y gweithgareddau hyn o safbwynt personol, mae pob meddyg yn gweithio mewn tîm ehangach erbyn hyn. Gall y broses o feddwl am sut gallai’r gweithgaredd rydych wedi’i gwblhau gael effaith ar y tîm, sut mae’r tîm yn gweithio, neu ‘daith y claf’, eich helpu i ddatblygu syniadau am sut gallai’ch practis newid.
Gan gymryd y cwestiwn ffibriliad atrïaidd fel enghraifft, gallech feddwl yn fwy cyffredinol wedyn am sut byddech yn defnyddio’r wybodaeth a gawsoch i reoli cleifion yng nghyd-destun y tîm ehangach, ym maes gofal sylfaenol neu ofal eilaidd. Gallech ystyried pa adnoddau sy’n cael eu defnyddio eisoes; pa adnoddau sydd angen eu defnyddio; sut gellid symud adnoddau o feysydd gofal eraill; neu sut gellid gwneud cais am adnoddau newydd.
Mae ysgrifennu a myfyrio mwy ar ganlyniadau’r dysgu yn eich helpu i ganolbwyntio ar sut byddai’ch ymarfer yn newid yn ehangach.