Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Enghraifft o ofal eila - Gweithgaredd Gwella Ansawdd

Gweithgaredd Gwella Ansawdd (1)

Teitl Rheoli cronfa ddata rhybudd anesthetig
Dyddiadau’r gweithgaredd Rhwng mis Ionawr 2019 a’r presennol.
Disgrifiad o’r gweithgaredd Cynlluniais y gronfa ddata rhybudd anesthetig ac rwy’n gyfrifol am ei chynnal erbyn hyn. Rwy’n derbyn adroddiadau am faterion anesthetig yn ymwneud â chleifion gan gydweithwyr, ac rwy’n eu nodi yng nghofnod electronig yr ysbyty.
Newidiadau a wnaed Fe es ati i ddylunio ffurflen i gydweithwyr ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau a defnyddio cronfa ddata a sefydlais i gadw cofnod. Hefyd, llwyddais i gael cymeradwyaeth ar gyfer defnyddio templed llythyr newydd yn ein cofnod cleifion electronig er mwyn rhybuddio eraill am broblem bosibl.
Deilliannau Mae pob claf â phroblemau anesthetig bellach wedi’i gynnwys yn y system CWS, ac mae cydweithwyr anesthetig yn gallu darllen y wybodaeth hon cyn rhoi anesthetig i glaf er mwyn atal problemau.
Sylwadau Mae’r cofnod hwn yn fyr iawn ac nid yw’n mynegi pwysigrwydd y gwelliant hwn yn llawn. Ni fyddai unigolyn nad yw’n anesthetydd yn deall sut mae’r system hon yn gwella diogelwch cleifion ac yn caniatáu i gydweithwyr anesthetig fanteisio ar brofiad rhywun arall. Fel sy’n wir yn aml am gofnodion Gwella Ansawdd, mae’n ymddangos bod y meddyg yn tanbrisio’r gweithgaredd arloesol a’i swyddogaeth, ac weithiau nid yw hyd yn oed yn categoreiddio’r cofnod fel Gwella Ansawdd wrth gofnodi’r dystiolaeth. Byddai angen i werth gwirioneddol gweithgaredd arloesol o’r fath gael ei nodi gan yr arfarnwr er mwyn darparu cyd-destun ar gyfer y Swyddog Cyfrifol a chyfiawnhau ei ddilysu fel gweithgaredd Gwella Ansawdd. Rwy’n teimlo bob amser y bydd gweithgaredd Gwella Ansawdd arloesol da yn amlwg fel arfer i’r arfarnwr, waeth beth fo’i arbenigedd; serch hynny, dylai arfarnwyr fod yn ymwybodol o feddygon gofal eilaidd sy’n methu cofnodi eu hymdrechion eu hunain fel gweithgaredd Gwella Ansawdd, a defnyddio’r drafodaeth arfarnu i geisio egluro tystiolaeth sy’n cadarnhau hyn.

Gweithgaredd Gwella Ansawdd (2)

Teitl Rheoli cronfa ddata rhybudd anesthetig
Dyddiadau’r gweithgaredd Rhwng mis Ionawr 2019 a’r presennol.
Disgrifiad o’r gweithgaredd Cynlluniais y gronfa ddata rhybudd anesthetig ac rwy’n gyfrifol am ei chynnal erbyn hyn. Fe etifeddais y gronfa ddata flaenorol gan ddau gydweithiwr a oedd wedi’i gosod mewn taenlen Excel. Es ati wedyn i drosi’r data hwn i gronfa ddata Access er mwyn hwyluso gwaith dadansoddi. Ailgynlluniais y ffurflen casglu data y mae angen i gydweithwyr ei llenwi er mwyn rhoi gwybod am faterion anesthetig yn ymwneud â chleifion, gan gynnwys y ffurflenni yng nghofnod CWS electronig yr ysbyty.
Newidiadau a wnaed Ailgynlluniais y ffurflen casglu data ar gyfer cydweithwyr a llwyddais i gael cymeradwyaeth ar gyfer defnyddio templed llythyr newydd yn ein cofnod cleifion electronig er mwyn rhybuddio eraill am broblem bosibl. Hefyd, rwyf wedi nodi rhybudd coch yng nghofnod CWS y claf sy’n rhoi gwybod i gydweithwyr bod rhybudd anesthetig yn berthnasol i’r claf. Hefyd, rwyf wedi cynllunio ac argraffu cardiau rhybudd i’w rhoi i gleifion os ydynt yn cael eu derbyn i ysbyty arall nad yw’n gallu defnyddio’r system CWS.
Deilliannau Erbyn hyn, rwyf wedi cynnwys cofnodion pob claf â phroblemau anesthetig yn y system CWS, gan gynnwys y rhai a gasglwyd cyn i mi ymwneud â’r gwaith. Gall cydweithwyr anesthetig ddarllen y cofnodion hyn cyn rhoi anesthetig i gleifion er mwyn atal problemau. Dylai hyn wella diogelwch cleifion a lleihau nifer y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig ag anesthetig y gellir eu hosgoi.
Sylwadau Mae’r cofnod hwn yn darparu mwy o wybodaeth am y gweithgaredd Gwella Ansawdd gan olygu bod modd i bobl nad ydynt yn anesthetyddion ddeall sut gellid ystyried bod y gronfa ddata hon a’r rhybuddion hyn yn gwella gwasanaeth a diogelwch cleifion. Ym maes gofal eilaidd, mae’n debyg ei bod yn bwysicach esbonio effaith cofnodion Gwella Ansawdd i gydweithwyr o arbenigeddau eraill gan fod llawer o arbenigeddau ond yn gyfarwydd â’u maes penodol eu hunain. Byddai hyn yn ymddangos yn llai o broblem ym maes gofal sylfaenol gan y bydd llawer o dir cyffredin rhwng meddygon teulu lle bynnag maen nhw’n ymarfer yng Nghymru. Ym maes gofal eilaidd, gallai fod yn anodd i rai arfarnwyr ddeall bod rhai arbenigeddau yn wynebu problemau y mae angen eu datrys sydd y tu hwnt i unrhyw beth a fyddai’n codi yn eu gwaith bob dydd eu hunain.

Gweithgaredd Gwella Ansawdd (3)

Teitl Rheoli cronfa ddata rhybudd anesthetig
Dyddiadau’r gweithgaredd Rhwng mis Ionawr 2019 a’r presennol.
Disgrifiad o’r gweithgaredd Mae’r gronfa ddata rhybudd anesthetig yn gofnod o unrhyw gleifion sydd wedi cael problemau sy’n gysylltiedig ag anesthetig, neu y credir bod ganddynt broblemau sy’n gysylltiedig ag anesthetig. Mae’r rhain yn cynnwys problemau gyda’r llwybr anadlu sy’n gallu golygu bod y broses fewndiwbio yn anodd, achosion o adweithiau alergaidd/anaffylactig i gyffuriau, neu gyflyrau mwy anarferol fel hyperthermia malaen neu apnoea suxamethonium. Fe etifeddais y gronfa ddata flaenorol gan ddau gydweithiwr a oedd wedi’i gosod mewn taenlen Excel. Es ati wedyn i drosi’r data hwn i gronfa ddata Access er mwyn hwyluso gwaith dadansoddi. Ailgynlluniais y ffurflen casglu data y mae angen i gydweithwyr ei llenwi er mwyn rhoi gwybod am faterion anesthetig yn ymwneud â chleifion, gan gynnwys y ffurflenni yng nghofnod CWS electronig yr ysbyty. Nawr rwy’n sganio’r adroddiadau hyn fel mater o drefn ac yn cofnodi’r manylion yng nghofnod CWS y claf gyda chopi o’r adroddiad wedi’i sganio. Hefyd, rwy’n gofyn i’n hysgrifenyddes ychwanegu cofnod rhybudd anesthetig coch ym mhrif dudalen y claf er mwyn rhybuddio unrhyw gydweithiwr sy’n defnyddio’r cofnod hwn y gallai gynnwys gwybodaeth bwysig sy’n berthnasol i anesthesia. Mae’r adroddiadau ar y llwybr anadlu yn ddefnyddiol iawn am eu bod yn cynnwys gwybodaeth am reolaeth y claf dros y llwybr anadlu a pha dechneg a lwyddodd i sicrhau mewndiwbio endotracheal. Mae hyn yn sicrhau mwy o ddiogelwch i’r claf ac yn golygu bod anesthetyddion yn barod i ddefnyddio’r offer priodol neu ddarparu cymorth.
Newidiadau a wnaed Ailgynlluniais y ffurflen casglu data ar gyfer cydweithwyr i’w gwneud yn symlach, a llwyddais i gael cymeradwyaeth ar gyfer defnyddio templed llythyr newydd yn ein cofnod cleifion electronig er mwyn rhybuddio eraill am broblem bosibl. Erbyn hyn, mae’r llythyr templed rhybudd yn cael ei ddefnyddio gan arbenigeddau eraill hefyd. Hefyd, rwyf wedi cynllunio ac argraffu cardiau rhybudd i’w rhoi i gleifion os ydynt yn cael eu derbyn i ysbyty arall nad yw’n gallu defnyddio’r system CWS. Mae’r cardiau hyn yn cynnwys rhif ffôn i siarad ag aelod o dîm anesthetig Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy’n gallu chwilio am y rhybudd yn y system CWS a helpu’r cydweithiwr i gynnal yr anesthetig.
Deilliannau Erbyn hyn, rwyf wedi cynnwys cofnodion pob claf â phroblemau anesthetig yn y system CWS, gan gynnwys y rhai a gasglwyd cyn i mi ymwneud â’r gwaith. Byddaf yn parhau i gynnal y system hon, gan sicrhau bod rhybudd ar y system o fewn 48 awr fel arfer. Dylai hyn wella diogelwch cleifion a lleihau nifer y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig ag anesthetig y gellir eu hosgoi. Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio sicrhau bod modd gweld y rhybuddion hyn ar sail Cymru gyfan, a cheisio eu cysoni ag argymhellion y Difficult Airway Society sydd wedi ymddangos ers hynny.
Sylwadau Mae’r cofnod hwn yn un esboniadol iawn ac yn gosod y gweithgaredd Gwella Ansawdd yng nghyd-destun ehangach ymarfer anesthetig a diogelwch cleifion. Hefyd, mae’n disgrifio’r holl ddatblygiadau arloesol gwahanol yr oedd angen eu cyflwyno i gyrraedd y cam a gyflawnwyd gan y meddyg. Cyn ailgynllunio system MARS, byddai rhai o’n harfarnwyr yn teipio ‘DILYSWYD FEL GWEITHGAREDD GWELLA ANSAWDD GAN ARFARNWR’ ar ddechrau’r cofnod trafod er mwyn amlygu’r cofnodion hyn. Fodd bynnag, erbyn hyn mae gan yr arfarnwyr fwy o reolaeth dros y parthau ac ati, ac os yw’r arfarnwr wedi diffinio cofnod fel gweithgaredd Gwella Ansawdd, mae’r Swyddog Cyfrifol yn gallu gweld hynny’n glir.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences