Weithiau, mae’n bosibl na fydd modd cynnal eich arfarniad ar y dyddiad arfaethedig. Gall hyn ddigwydd am nifer o resymau gwahanol fel salwch, absenoldeb mamolaeth neu gyfnod sabothol.
Os ydych wedi archebu arfarniad gyda’ch Arfarnwr, dylech ei hysbysu cyn gynted ag y bo modd. Gellid ad-drefnu’ch cyfarfod arfarnu yn y tymor byr, ond os oes angen ateb mwy hirdymor, bydd angen i chi gysylltu â’ch tîm arfarnu perthnasol. I feddygon teulu, y tîm hwn fydd yr Uned Gymorth Ailddilysu, ac i feddygon eraill, y tîm hwn fydd tîm arfarnu’ch Bwrdd Iechyd. Dylech hysbysu’r tîm na allwch gymryd rhan yn y broses arfarnu ar hyn o bryd.
Fel rheol gyffredinol, os nad ydych yn gweithio ar hyn o bryd, ni fydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y broses arfarnu.