Gofal Sylfaenol
1. Archwilio effeithiolrwydd monitro cleifion ar feddyginiaeth risg uchel e.e. DMARDs, DOACs, NSAIDs
Dysgu am argymhellion ychwanegol ar gwrs diweddaru.
Dylai fod yn berthnasol i’ch rôl, a dylai nifer y cleifion fod yn ddigon i ddangos effaith.
Cyfeirio at ganllawiau cydnabyddedig.
Mae’n bwysig gwneud gwelliannau i’r broses y gellir parhau â nhw i’r dyfodol nid dim ond ‘llenwi’r bocsys’ ar gyfer casglu data am yr eildro, yna mynd yn ôl at broses aneffeithiol.
2. Datblygu protocol ymarfer e.e. ar gyfer ymchwilio i B12 isel a thrin gyda B12 drwy’r geg neu chwistrell
Wedi’i ysgogi gan niferoedd uchel o gleifion ar bigiadau B12 hirdymor, gydag amheuaeth fod llawer ohonynt yn amhriodol.
Cyfeiriwch at ganllawiau.
Dylech gynnwys y tîm. Ystyriwch hyfforddiant tîm.
Ystyriwch wybodaeth am gleifion i gefnogi newid.
Cadwch bethau’n hylaw – gall y niferoedd fod yn uchel, gan ofyn am broses fesul cam – achosion newydd yn gyntaf, yna gweithio’n ôl drwy’r rhai ar bresgripsiynau rheolaidd. Meddyliwch am y raddfa amser.
Archwiliwch i fonitro newid/gwella
Ddim yn ddigon dim ond ysgrifennu protocol yna gobeithio y bydd yn arwain at welliant.
3. Rheoli UTI tybiedig
Problem gyffredin ac un nad yw’n cael ei rheoli’n gyson ac yn effeithiol yn aml – wedi bod yn ‘bwnc llosg’ gyda llawer o ganllawiau a chyfarfodydd addysgol/erthyglau/e-ddysgu ynghylch gwella’r defnydd o adnoddau a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau ac ymwrthedd
Cyfeiriwch at ganllawiau a nodwch faes/meysydd i’w gwella
Llawer o feysydd i’w hystyried – arwydd bod angen gwrthfiotig, dewis gwrthfiotig, hyd y driniaeth wrthfiotig, defnyddio profion dipio, defnyddio labordy ar gyfer dadansoddi MSU, gwybodaeth glinigol am geisiadau am sampl, trin samplau wrin sy’n cael eu gadael yn y dderbynfa, ceisiadau dros y ffôn am wrthfiotigau, profion dipio mewn cartrefi gofal, cleifion â chathetr, ac ati
Cyflwr cyffredin – lle i staff locwm neu feddygon teulu y tu allan i oriau gynnal QIA ac edrych ar gyfres achos neu gyfle i feddygon teulu sy’n gweithio mewn practisau archwilio agweddau ar ofal.
4. Adolygu atgyfeiriadau e.e. i wroleg/neffroleg
Gallai gael ei ysgogi gan ddysgu o ddiwrnod astudio
Cyfeiriwch at ganllawiau a llwybrau lleol e.e. llwybr lleol ar gyfer Hematwria Nad yw’n Weladwy, pryd i gyfeirio swyddogaeth arennol sy’n dirywio, beth i’w gynnwys mewn llythyrau atgyfeirio
Gallai fod yn archwiliad, neu’n gyfres achos.
Ystyriwch faint o achosion fyddai’n nifer rhesymol i ddangos gwelliant – byddai un neu ddau ddim yn ddigon, 10 neu fwy yn well. Dewiswch faes sy’n elfen sylweddol o’ch llwyth achosion er mwyn sicrhau y gallwch gasglu digon o achosion.
5. Datblygu modiwl addysgol ar gyfer cydweithwyr e.e. rheoli achosion a amheuir o ganser y croen
Datblygwyd mewn ymateb i reoli amhriodol sy’n poeni’r meddyg
Ddim yn ddigon tybio y bydd bodolaeth modiwl dysgu yn arwain at well rheolaeth.
Byddai angen cefnogi hyn gyda threfn i gasglu data cyn ac ar ôl hynny i ddangos newid mewn ymateb i addysg.
Beth am chwilio am adborth ar y modiwl.
Meddyliwch am rifau e.e. mae 2 berson yn cwblhau’r modiwl ac mae un yn dweud ei fod wedi gwella ei ddealltwriaeth o pryd i atgyfeirio – nid yw hyn yn ddigon.
6. Cynhyrchu Taflen Wybodaeth i Gleifion e.e. sut i gymryd swab o’r fagina eich hun, cyngor teithio i gleifion diabetig
Wedi’i ysgogi gan fyfyrio y byddai’n arbed amser ac yn fwy effeithiol i roi gwybodaeth ysgrifenedig i gleifion.
Briff gwybodaeth am swabio o daflen y gwneuthurwr yn erbyn cyngor teithio manwl unigryw sy’n deillio o lawer o ymchwil bersonol - dim llawer o weithgarwch personol yn gysylltiedig â chreu’r cyntaf o gymharu â’r olaf, er ei bod yn cael ei rhoi i fwy o gleifion, felly nid yw taflen swabio yn ddigon mewn gwirionedd ar gyfer QIA ailddilysu.
Sut ydych chi’n mesur yr effaith i gwblhau’r QIA?
Ar gyfer y cyngor teithio, byddai angen adborth gan gleifion, neu adborth gan gydweithwyr bod hwn yn adnodd defnyddiol ac yn gwella diogelwch cleifion.
Gallai dangos effaith ar y daflen swabio, e.e. niferoedd gwell â chanlyniadau swab hunan-brawf amserol yn mynychu ar gyfer gosod coil, ei chodi i safon ailddilysu, er nad oes llawer o waith yn gysylltiedig â chreu’r daflen. Y gweithgaredd QI fyddai datblygu proses cyn gosod coil i gael hunan-swabiau a dosbarthu’r daflen i gefnogi hyn, ac yna dangos bod y broses hon yn effeithiol.
Nid yw ysgrifennu taflen o reidrwydd yn arwain at wella ansawdd, felly nid yw’n ddigon.
7. Adolygu ymgynghoriadau
Mae’n bwysig nodi meini prawf ansawdd i fesur yn eu herbyn e.e. ansawdd cofnodion, priodoldeb rhagnodi, cyngor a roddir yn unol â thystiolaeth glinigol ac ati.
Nid yw adolygu nifer o ymgynghoriadau a myfyrio arnynt heb unrhyw strwythur nac ystyr yn dangos gwelliant mewn ansawdd.
8. Datblygu templed ymarfer, offeryn asesu, neu brofforma i gynorthwyo gwaith rheoli e.e. templed cyfrifiadurol pwrpasol ar gyfer cofnodi gwybodaeth mewn adolygiadau o glefydau cronig, profforma ar gyfer ceisiadau am ymweliadau cartref, offeryn asesu ar gyfer sepsis tybiedig neu risg hunanladdiad mewn gwasanaethau y tu allan i oriau
Gall pryderon am anghysondeb a/neu golli gwybodaeth bwysig yn aml fod mewn ymateb i ddigwyddiad arwyddocaol neu ddigwyddiad dysgu.
Bydd rhannu’r adnodd gyda’r tîm mewn ffordd sy’n hyrwyddo’r defnydd ohono yn cynyddu’r effaith.
Bydd casglu data yn well yn dangos cyflawniad.
Nid yw defnyddio offeryn asesu o reidrwydd yn gyfystyr â gwell ansawdd gofal - byddai adborth gan gydweithwyr sy’n defnyddio’r offeryn yn fwy defnyddiol, byddai dadansoddiad o gyfres o achosion lle defnyddiwyd yr offeryn hyd yn oed yn well ond efallai na fyddai’n hawdd ei wneud mewn rhai gweithleoedd.
9. Gwella rhagnodi e.e. hypnotigion, cyffuriau rheoledig
Nodwyd fel ‘pwnc llosg’ neu o wybodaeth rhagnodi’r practis.
Cyfeiriwch at ganllawiau ar ymarfer da.
Gosodwch amserlen realistig – gall fod yn rhywbeth sy’n cymryd sawl blwyddyn i gyflawni nodau, ond efallai y gallwch ddangos gwelliant ar hyd y ffordd er mwyn ei ddefnyddio fel QIA ailddilysu. Gall cymryd gwelliant gam ar y tro fod yn fwy cyraeddadwy.
Bydd archwiliadau sy’n seiliedig ar ymarfer yn dangos gwelliant a gellir eu hailadrodd yn gyfnodol.
Meddyliwch am gynnwys y tîm cyfan, a sut caiff newid ei gyfleu i gleifion.
Gallai staff locwm edrych ar gyfres o achosion a chymharu eu hymarfer ag arferion gorau.
10. Archwilio offer e.e. bag meddyg, troli dadebru, cwpwrdd cyffuriau y tu allan i oriau ac ati
Ysgogir hyn yn aml gan gyffuriau neu offer sydd ar goll neu wedi pasio eu dyddiad defnydd pan fydd eu hangen.
Y cam cyntaf yw nodi’r hyn sydd ei angen i godi’r offer i safon gydnabyddedig, a chymharu’r sefyllfa bresennol â hyn i weld beth sydd angen ei wella – rydych eisoes yn gwybod bod problem, ond nid hyd a lled y broblem.
Nid yw’n ddigon codi’r offer i’r safon ac yna ei ailarchwilio. Rydych chi’n gwybod ei fod yn iawn gan eich bod newydd ei ddiweddaru. Mae’n hanfodol datblygu proses ar gyfer sicrhau bod hyn yn cael ei gynnal, a bod y safon yn cael ei hadolygu’n rheolaidd. Mae angen ailarchwilio maes o law pan fydd pethau wedi cael amser i lithro eto er mwyn dangos bod ansawdd wedi’i wella a’i gynnal.
Gofal eilaidd
1. Cymharu dyfeisiau meddygol
Wedi’i ysgogi gan ddefnydd o’r gwahanol ddyluniadau dyfeisiau a ffefrir gan wahanol ymarferwyr o fewn y Bwrdd Iechyd, ac nid oes consensws ynghylch pa rai, os o gwbl, sy’n rhoi’r canlyniadau gorau.
Meddyliwch am fesurau canlyniadau e.e. cymhlethdodau cynnar/hwyr sy’n glinigol bwysig
Mae angen i’r niferoedd fod yn arwyddocaol os yw eich adolygiad yn mynd i lywio newidiadau i’r dewis o ddyfais, ac efallai y bydd angen i chi ymgysylltu â chydweithwyr o ymhellach i ffwrdd i gasglu data ystyrlon.
Nid yw’r QIA yn gyflawn nes bod newid wedi’i wneud a hyd nes ceir cadarnhad o ymarfer gwell.
2. Archwilio ansawdd ymarfer yn erbyn dangosyddion ansawdd lleol a cenedlaethol e.e. ar gyfer llawdriniaethau
Nid yw archwiliadau rheolaidd sy’n dangos canlyniadau a gynhelir sy’n debyg i rai cymheiriaid, sy’n arwain at barhau i ymarfer yn yr un ffordd, yn enghraifft o wella ansawdd mewn gwirionedd.
Efallai y byddwch yn nodi un neu fwy o ddangosyddion allweddol lle gellid gwella eich perfformiad, a gallech ganolbwyntio eich sylw ar newidiadau yn y dangosyddion hynny, gan chwilio am welliant mewn cylchoedd yn y dyfodol.
Heb unrhyw newid, mae hyn yn y bôn yn dystiolaeth bod eich perfformiad o ansawdd boddhaol. Mae’n dal i fod yn wybodaeth ddilys i’w chynnwys yn eich deunydd arfarnu, ond byddai’n well gan eich arfarnwr weld tystiolaeth o welliant i ddilysu hyn fel QIA ar gyfer ailddilysu.
3. Gwaith ar strwythur SOP a Llywodraethu ar gyfer rhan o’r gwasanaeth
Gallai gael ei ysgogi gan adolygiad allanol sy’n tynnu sylw at feysydd i’w gwella.
Meddyliwch am eich rôl.
Nodwch newidiadau a wnaed e.e. SOPs newydd, dogfennau ategol newydd; contractau wedi’u diweddaru.
Casglwch ddata i gadarnhau bod strwythurau newydd wedi’u mabwysiadu a bod y gwasanaeth bellach yn bodloni safonau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol.
Myfyriwch ar effaith y gwaith hwn ar ansawdd y gwasanaeth.
4. Adolygiad o’r llwybr atgyfeirio
Efallai y caiff ei ysgogi pan fyddwch yn sylwi nad yw llwybr presennol yn defnyddio adnoddau’n effeithiol e.e. blaenoriaethu grwpiau penodol ar draul eraill yn amhriodol, cam yn y driniaeth sy’n oedi cynnydd heb fudd clir ac ati
Y cam cyntaf fyddai cael tystiolaeth o’r angen am newid. Trafodwch gyda’r tîm a chytunwch ar y newid i’w wneud.
Sut ydych chi’n mynd i gyfathrebu â rhanddeiliaid a sicrhau eu bod yn ymrwymo i’r llwybr newydd?
Sut ydych chi’n mynd i ddangos bod gwelliant wedi digwydd i gwblhau’r QIA? Beth allech chi ei fesur? Ble ddylech chi gael adborth? A fyddai adolygiad sy’n cymharu achosion tebyg cyn ac ar ôl y newid yn cefnogi teimlad greddfol bod yn rhaid i’r llwybr newydd fod yn welliant?
5. Datblygu tudalen we i gynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch maes ymarfer
Gall methu cael gafael ar ddogfennau allweddol pan fo’u hangen achosi rhwystredigaeth.
Meddyliwch am yr hyn rydych chi’n ceisio’i gyflawni, a phwy allai helpu.
Beth sydd ei angen ar aelodau’r tîm – ymgynghorwch.
Sut ydych chi’n mynd i hyrwyddo’r dudalen we i gydweithwyr, a sut ydych chi’n mynd i sicrhau ei bod yn cael ei diweddaru?
Sut byddwch chi’n gwybod ei bod wedi gwella ansawdd gofal?
Nid yw penderfynu sefydlu tudalen we a chyflawni’r nod hwn o reidrwydd yn welliant ansawdd.
6. Datblygu gwasanaeth newydd
Gallai gael ei ysgogi drwy weld bwlch mewn gwasanaethau lleol e.e. dim mynediad at wasanaeth arbenigol
Pam wnaethoch chi ddewis y gweithgaredd hwn, a sut mae’n berthnasol i’ch rôl?
Bydd ymgynghori â chydweithwyr yn bwysig wrth ddatblygu gwasanaeth newydd.
Efallai ei bod yn ymddangos yn amlwg bod darparu gwasanaeth newydd yn welliant o gymharu â dim gwasanaeth. Byddai’n ddefnyddiol myfyrio ar y nifer sy’n manteisio ar y gwasanaeth newydd, a manteision darparu’r gwasanaeth hwn yn fwy lleol, ac o bosibl cael rhywfaint o adborth gan gydweithwyr a chleifion perthnasol.
7. Trafodaethau rheolaidd am achosion gyda chydweithiwr/cydweithwyr sy’n ymgynghorwyr am gleifion heriol
Gallai’r trafodaethau hyn fod yn gyfle i bledio’r achos dros gael dull cydweithredol lle nad yw opsiynau rheoli yn glir.
Gallai rhannu arbenigedd a syniadau wella gofal cleifion unigol.
Defnyddiwch enghreifftiau i ddangos tystiolaeth o ansawdd gofal gwell, lle mae’r drafodaeth wedi ysgogi newid mewn cynlluniau rheoli, a gwell canlyniad i’r claf.
Sut gallech chi rannu’r syniadau’n ehangach?
Bydd angen mwy nag 1 neu 2 achos arnoch er mwyn i hyn gyfrif fel QIA ar gyfer ailddilysu.
8. Adolygiad o gwynion sy’n arwain at newid mewn techneg lawfeddygol
Roedd y gweithgaredd hwn mewn ymateb i nifer o gwynion anffurfiol mewn apwyntiadau dilynol gan gleifion a oedd yn anfodlon â chanlyniad eu llawdriniaeth.
Aeth y llawfeddyg ati i adolygu a myfyrio ar bob un o’r achosion a’u trafod gydag uwch gydweithiwr.
Ers hynny mae wedi newid ei dechneg ac mae’n ystyried arsylwi ar gydweithwyr yn gwneud y llawdriniaeth er mwyn gweld pa welliannau pellach y gallent eu gwneud.
Er mwyn cau pen y mwdwl ar hyn fel QIA ailddilysu, mae angen i’r llawfeddyg ddangos bod y newidiadau i’r dechneg lawfeddygol wedi bod yn welliant – gallai arolwg pwrpasol o gleifion fod yn ffordd dda o asesu boddhad cleifion, yn hytrach na dim ond dibynnu ar leihad yn nifer y cleifion sy’n gwneud cwyn anffurfiol neu’n mynegi anfodlonrwydd yn yr apwyntiad dilynol.
9. Prosiect QI wedi’i gefnogi gan archwiliad mewn ymateb i ddigwyddiad critigol a risg i ddiogelwch cleifion
Mae adrodd ar ddigwyddiadau critigol yn nodi mater diogelwch cleifion.
Bu ymgynghorydd yn gweithio gyda hyfforddeion i fynd i’r afael â’r mater, ac roedd ganddo rôl allweddol yn cyfathrebu â’r rheolwyr, yn ogystal â chefnogi ac arwain yr hyfforddeion wrth gyflwyno a chynnal y prosiect.
Nododd yr archwiliad cychwynnol hyd a lled y broblem.
Gwnaed newidiadau mewn sawl cam i ddileu’r broblem, gan gynnwys cynllun peilot ar un ward.
Roedd anghenion hyfforddi a chyfathrebu wedi’u cynnwys ac wedi cael sylw fel rhan o’r broses.
Mae arolygon staff yn rhan o’r broses QI.
Cadarnhaodd yr ailarchwiliad ostyngiad sylweddol yn y defnydd o offer anniogel.
Cynllunio i dargedu ymhellach y meysydd problemus sy’n parhau ac ailarchwilio er mwyn cadarnhau bod offer anniogel yn cael ei symud yn llwyr.
Ymyrraeth gyffredinol i’w chyflwyno’n ehangach a bydd yn darparu fframwaith ar gyfer cyflawni newid.
Y prosiect yn cael ei rannu â grwpiau cymheiriaid a sefydliadau proffesiynol fel enghraifft o arfer gorau a’i enwebu ar gyfer gwobr.
Cynhaliwyd y prosiect QI hwn dros 2-3 blynedd hyd nes yr oedd bron wedi’i gwblhau.
Mae hyn yn amlwg yn bodloni’r holl ofynion ar gyfer QIA ailddilysu.
10. Gwaith i wella’r modd y caiff gwasanaeth ei ddarparu
e.e.
(i) Darparu gwaith theatr brys
Roedd ymgynghorydd a oedd yn defnyddio’r theatr yn rheolaidd yn rhwystredig am y ffordd roedd yn cael ei rhedeg
Gwaith hirsefydledig yn canolbwyntio ar redeg gwasanaeth theatr yn effeithlon
Cynnwys archwilio a monitro’r gwasanaeth yn barhaus.
Gwnaed sawl newid dros amser i’r broses archebu a chyflwynwyd cyfarfod tîm dyddiol.
Wedi ennill profiad o fapio prosesau a dadansoddi data.
Mae ymgynghorydd yn ‘teimlo eu bod wedi gwneud rhywfaint i wella pethau, ac wedi codi ymwybyddiaeth staff o nodau effeithlonrwydd, ond mae peth ffordd i fynd eto’. A yw teimlad bod pethau wedi gwella yn ddigon i ddangos gwelliant mewn ansawdd? Mae’n debyg bod gennych dystiolaeth o welliant o’r archwiliadau a’r monitro parhaus. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys rhywfaint o’r data hwn yn eich cofnod arfarnu fel ei bod yn glir i’ch arfarnwr beth sydd wedi gwella.
Er bod mwy i’w wneud o hyd, a bydd y gwaith yn parhau, os oes gennych ddata eisoes i ddangos bod ansawdd y ffordd y darperir gwasanaeth wedi gwella, yna gellid dilysu’r gwaith hwn fel QIA ailddilysu. Gallwch barhau â’r gwaith hwn ar ôl y dilysiad, a’i gynnwys yn eich CDP nesaf
(ii) Cyflwyno adroddiadau canlyniadau diagnosteg electronig
Ymgynghorydd yn arwain y gwaith o gyflwyno a datblygu e-adroddiadau ar gyfer eu harbenigedd – ‘dymuniad hirdymor’
Gweithio gyda gwasanaethau TG y Bwrdd Iechyd a chyflenwyr systemau ymchwilio
Wedi cwblhau cam 1 gyda system e-ganlyniadau gwbl weithredol ar gyfer rhai triniaethau allweddol.
Gwaith wedi’i gynllunio yng ngham 2 i gynnwys mwy o driniaethau fesul tipyn, ac i sicrhau y bydd y broses yn cael ei chynnal gan y Bwrdd Iechyd.
Mae’r nod mwy hirdymor i gynnwys profion POC yn gofyn am adnoddau ychwanegol, a mynd i’r afael â nifer o gyfyngiadau technegol.
Pam mae hyn yn welliant? Efallai ei bod yn ymddangos yn amlwg, ond bydd gan eich arfarnwr ddiddordeb yn y ffordd mae hyn yn gwella diogelwch cleifion, yn gwella effeithlonrwydd a mynediad at ganlyniadau, yn diwallu anghenion rhanddeiliaid ac ati.
Cam 1 wedi’i gwblhau, a gellid gwirio’r QIA hwn ar gyfer ailddilysiad. Cam 2 yn ei hanfod yw cwblhau’r prosiect parhaus hwn, felly ni fyddai’n cael ei wirio eto os yw’n parhau i gylch ailddilysu arall.
Mae’r nod tymor hwy ar gyfer profion POC yn ymddangos fel QIA ar wahân, er yn gysylltiedig, a gellid ei gyflwyno yn y cylch ailddilysu nesaf, yn dibynnu ar amseru.
(iii) Digwyddiad rhanbarthol arbenigol cydweithredol
Mynychwyd fel cyfle i rannu profiad a syniadau gyda chymheiriaid, yna datblygu eich gwasanaeth eich hun yn unol â hynny.
Angen mwy o fanylion i gyfrif fel QIA ar gyfer ailddilysu - enghreifftiau o’ch cyfraniad; perthnasedd i’ch gwaith; pa newidiadau ydych chi wedi’u gwneud o ganlyniad i fynychu’r digwyddiadau; sut mae hyn wedi effeithio ar eich ymarfer a gofal eich claf.
Nid yw’n ddigon mynychu’r digwyddiad a myfyrio ar y dysgu – mae angen tystiolaeth o newid a gwelliant.
(iv) Datblygu canllaw
Wedi’i ysgogi gan farwolaeth annisgwyl claf
Gweithio gyda chydweithwyr i ddiweddaru’r protocol presennol ac addasu canllawiau cenedlaethol i’ch ysbyty eich hun.
‘Llawer haws i’w ddilyn nawr’.
A yw hyn yn ddigon i’w ddilysu fel QIA?
Bydd eich arfarnwr am wybod hyd a lled eich cyfraniad personol chi at hyn.
Sut yn union y bydd hyn yn gwella gofal a diogelwch cleifion?
Beth yw effaith y canllaw newydd ar y cydweithwyr sy’n ei ddefnyddio?
Oes gennych chi unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich honiad bod hyn yn welliant yn ansawdd y gofal?
(v) Ymchwilio i gwynion am eich gwasanaeth
Problem gyson gyda chwynion am gael mynediad at eich gwasanaeth i gael cyngor.
Wedi cael eich ysgogi i ymchwilio ar ôl derbyn cwyn ysgrifenedig.
Ymchwiliad i ganfod ble mae pethau wedi mynd o chwith yn y broses.
Cysylltu â switsfwrdd i egluro’r broses.
Trafodaeth fel tîm i ddod o hyd i ateb sy’n effeithiol ac sy’n ystyried adnoddau.
‘Oes unrhyw un yn poeni ein bod wedi datrys hyn? A gefais i unrhyw ddiolch neu ganmoliaeth? Na.’
Meddyliwch sut gallech chi ddangos bod hyn yn welliant mewn ansawdd mynediad.
Gallai rhywfaint o gymharu data ar gwynion cyn ac ar ôl y newid fod yn ddefnyddiol.
Ydy hyn yn ddigon i gyfrif fel QIA? Mae’n dibynnu ar faint o weithgarwch personol a oedd ei angen, yn ogystal â gallu dangos gwelliant. Byddai ymchwiliad cymhleth sy’n cymryd llawer o amser, a thrafodaeth i ddod o hyd i ateb yn gwneud hyn yn QIA mwy sylweddol a allai fod yn addas i fodloni dibenion ailddilysu.