Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Maer Cyngor Meddygol Cyffredinol yn dweud: 

“Mae DPP yn eich helpu i fod yn gyfoes ac yn gymwys a chynnal ansawdd eich holl waith, ac maen hyrwyddo ac yn cefnogi gwelliannau mewn ymarfer. 

Rhaid i chi gwblhau gweithgareddau DPP bob blwyddyn. 

Rhaid ich gweithgareddau DPP gwmpasuch holl ymarfer, a chael eu teilwra ich cwmpas ymarfer ac anghenion. 

Dylaich anghenion dysgu ach cynlluniau ar gyfer eich DPP gael eu hadlewyrchu yn eich cynllun datblygu personol ar gyfer y flwyddyn i ddod.  

Dylai DPP ganolbwyntio ar ganlyniadau neu allbynnau yn hytrach nag ar fewnbynnau.  

Rhaid i chi fyfyrio ar yr hyn rydych wedii ddysgu or gweithgaredd a sut gallai hyn helpu i gynnal neu wella ansawdd eich ymarfer. 

Rhaid i chi fyfyrio ar eich gweithgareddau DPP au trafod ym mhob arfarniad blynyddol o ymarfer cyfan.” 

Canllawiau ar wybodaeth ategol ar gyfer arfarnu ac ailddilysu

Canllaw’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar DPP  

Cofiwch y canlynol – ansawdd nid nifermae myfyrion hanfodol a dylai gwybodaeth ategol gwmpasu pob agwedd ar eich gwaith 

Mae diweddaru’ch gwybodaeth wedi bod yn weithgaredd proffesiynol allweddol erioed. Mae’r rhan fwyaf o Golegau Brenhinol a chyfadrannau meddygol wedi cyhoeddi cyngor ar sut mae meddygon sy’n gweithio yn eu harbenigeddau yn gallu dangos DPP priodol ar draws eu cwricwlwm, a gallant bennu isafswm o oriau neu gredydau. Nid yw’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn pennu nifer y pwyntiau DPP y dylech eu casglu ar gyfer y broses arfarnu neu ailddilysu, ond nodir bod angen tystiolaeth o weithgaredd DPP perthnasol, a thystiolaeth o fyfyrdod bob blwyddyn. 

Gallwch gynnwys unrhyw weithgaredd DPP yn eich ffolder arfarnu, ond nid ywn ofynnol i chi gynnwys popeth. Dylech ganolbwyntio ar fyfyrio ar y gweithgaredd DPP mwy arwyddocaol, yn enwedig y gweithgaredd sydd wedi newid eich ymarfer, a allai fod yn sylfaen i drafodaeth ddefnyddiol gydach arfarnwr. 

Bydd eich arfarnwr eisiau trafod cynnydd ar yr eitemau DPP a gynlluniwyd yn y broses DPP y llynedd. 

Dylech geisio cynnwys enghreifftiau o DPP syn cwmpasu eich holl ymarfer. Nid oes angen i chi gynnwys eich holl ymarfer bob blwyddyn, ond dros y cylch ailddilysu dylech gyfeirio at ystod eang o weithgarwch. Dylech geisio osgoi sefyllfa lle mae pob arfarniad yn canolbwyntio ar faes diddordeb penodol gan eithrio meysydd eraill syn berthnasol ich ymarfer. 

Maen bosibl y bydd defnyddio dulliau dysgu amrywiol yn fwy effeithiol na chyfynguch gweithgaredd i un dull e.e. darllen, dysgu ar-lein, dysgu mewn tîm, darlithoedd a chynadleddau. 

Bydd myfyrio ar eich gweithgaredd DPP yn dangos sut rydych yn sicrhau bod eich ymarfer yn gyfoes - gan gynnal a gwella ansawdd eich gwaith proffesiynol.  

Gall adolyguch ymarfer ach adborth yn ymwneud ag ansawdd eich gwaith proffesiynol nodi meysydd ar gyfer gweithgarwch DPP. 

Os ydych yn darparu llawer o wybodaeth gysylltiedig gan gynnwys gwybodaeth syn deillio o ddarllen, dysgu ar-lein, neu wybodaeth am bwnc clinigol penodol, dylech ystyried dosbarthu a chrynhoich holl weithgareddau fel rhestr a myfyrion fanwl ar 2-3 elfen lle maech dysgu wedi bod yn fwyaf arwyddocaol, neu lle maech ymarfer wedi newid o ganlyniad ir gweithgaredd. Maech trafodaeth arfarnu yn canolbwyntio llai ar yr hyn rydych wedii wneud, a mwy ar sut mae wedi newid eich ymarfer, er enghraifft, ar ôl myfyrio ar y gweithgaredd hwn beth fyddwn in rhoir gorau iw wneud, yn parhau iw wneud neun dechrau ei wneud? 

 

Dyma ychydig o adnoddau a allai gefnogi eich gofynion DPP:

Y Tŷ Dysgu - porth addysg AaGIC ar gyfer staff iechyd a gofal yng Nghymru. Mae'r system yn darparu mynediad am ddim i ystod eang o adnoddau addysgol, digwyddiadau a recordiadau DPP byw, e-ddysgu a rhwydweithiau cymuned ymarfer.

Gateway C - Adnodd diagnosis canser cynnar sy'n darparu gwybodaeth hygyrch, arloesol, ac wedi'i theilwra i gefnogi canfod canser yn gynnar. Mae'r adnodd wedi'i ariannu gan y GIG ac yn rhad ac am ddim, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac ar gael i bob proffesiwn gofal iechyd.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences