Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Cyfyngiadau

Mae’r adran gwybodaeth arfarnu yn system MARS yn cynnwys adran ‘cyfyngiadau’ sy’n rhoi cyfle i feddygon nodi unrhyw heriau ar lefel bersonol, practis neu wasanaeth y maen nhw wedi’u hwynebu.

Mae cyfyngiad yn ffactor perthnasol o safbwynt amgylchedd, bywyd personol neu fywyd proffesiynol meddyg syn effeithio ar ei ddatblygiad neu ei berfformiad. Mae MARS yn galluogi meddygon i gofnodi cyfyngiadau mewn tair adran: Personol, Gwasanaeth a Phractis/Ysbyty. 

Mae nifer o resymau am nodi cyfyngiadau yn ystod arfarniad:  

 Ar lefel bersonol: 

  1. Hwyluso trafodaeth âr arfarnwr a nodi a oes unrhyw gamau y gellir eu cymryd i leihaur broblem   
  2. Cofnodi problemau syn amharu ar ddatblygiad a allai fod yn berthnasol i benderfyniad ailddilysu 
  3. Egluro pam y mae rhywbeth yn llai na pherffaith e.eni ellir gweithredu canllawiau NICE oherwydd cyfyngiadau gwasanaeth  

Ar lefel gwasanaeth, Practis/Ysbyty: 

  1. Mae gan fyrddau iechyd fynediad at adroddiadau agregedig ar gyfyngiadau i'w galluogi i gymharu tueddiadau â'r darlun cenedlaethol

Wrth gofnodi cyfyngiadau au cyflwyno yn yr arfarniad er mwyn eu trafod ag Arfarnwrmaer meddyg fel unigolyn yn parhau i fod yn gyfrifol amdanynt. Os oes cyfyngiad yn cael ei nodi syn ymwneud â mater diogelwch claf o bosibl, maen rhaid defnyddior weithdrefn adrodd gywir i roi gwybod amdano, yn unol âr hyn a amlinellir yng nghanllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar Ddyletswyddau Meddyg. 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences