Diben casglu a myfyrio ar ganmoliaeth a chwynion yw nodi meysydd ymarfer da, cryfderau a’r hyn rydych yn ei wneud yn dda; nodi meysydd i’w gwella, gwersi a ddysgwyd ac unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud o ganlyniad; dangos eich bod yn gwerthfawrogi pryderon a sylwadau cleifion a phobl eraill yn ymwneud â’ch gwaith trwy gyflwyno newidiadau o ganlyniad i’r adborth a gawsoch.
Rhaid i chi ddatgan a myfyrio ar bob cwyn ffurfiol amdanoch yn ystod eich arfarniad ailddilysu.
Hefyd, dylech fyfyrio ar unrhyw gwynion rydych yn eu derbyn y tu allan i weithdrefnau cwyno ffurfiol, os ydynt yn darparu dysgu defnyddiol. Nid oes angen i chi drafod pob cwyn yn ystod eich arfarniad. Dylech ddewis cwynion sy’n dangos gwybodaeth am eich ymarfer, a chwynion sydd wedi’ch cymell i newid eich ymarfer. Rhaid i chi allu egluro i’ch arfarnwr, os yw’n gofyn, pam rydych chi wedi dewis y cwynion hyn yn benodol fel rhan o’ch trafodaeth arfarnu.
Yn ystod eich arfarniad, dylech drafod yr hyn rydych wedi’i ddysgu yn sgil y cwynion, a dangos sut rydych chi wedi myfyrio ar eich ymarfer a’r newidiadau rydych wedi’u gwneud neu’n bwriadu eu gwneud.
Dylech ddilyn yr un egwyddorion ar gyfer casglu, trafod a myfyrio ar ganmoliaeth.
Mae canmoliaeth yn ffynhonnell tystiolaeth bwysig sy’n gallu hwyluso myfyrdod ar eich ymarfer. Mae’n ffynhonnell dysgu ac atgyfnerthu. Trwy gasglu, trafod a myfyrio ar ganmoliaeth, rydych yn cael cyfle i gadarnhau meysydd cryfder yn eich ymarfer a’u heffaith gadarnhaol ar ofal cleifion. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall barn eich cleifion a phobl eraill rydych yn rhyngweithio â nhw bob dydd am yr hyn rydych yn ei wneud yn dda. Gall myfyrio ar ganmoliaeth eich helpu i ddatblygu meysydd cryfder ymhellach.
Mae gennych rwymedigaeth broffesiynol i ddatgan unrhyw gwynion ffurfiol sydd wedi’u gwneud amdanoch chi neu’ch practis yn ystod eich arfarniad blynyddol, a’u trafod gyda’ch arfarnwr fel sy’n briodol. Mae cwynion ffurfiol yn gwynion sy’n cael eu derbyn amdanoch chi neu’ch tîm sydd wedi’u cydnabod neu eu cofnodi’n ffurfiol gennych chi neu gan y sefydliad sydd wedi’u derbyn.
Dylech feddwl yn eang am ffynonellau canmoliaeth neu gwynion amdanoch chi neu’ch tîm ym mhob un o’ch meysydd ymarfer. Gall hyn gynnwys cwynion yr ymdriniwyd â hwy drwy bolisïau a gweithdrefnau cwyno sefydliadol; cwynion sydd wedi’u datrys yn anffurfiol o bosibl heb orfod eu huwchgyfeirio’n ffurfiol; cwynion sydd wedi bod yn destun ymchwiliad gan gyrff rheoleiddio, er enghraifft, ombwdsmon, asiantaethau arolygu, neu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Mae’n bosibl na allwch gyflwyno unrhyw gwynion neu ganmoliaeth sy’n eich enwi’n bersonol. Mewn sefyllfa o’r fath, gallwch ystyried myfyrio ar ganmoliaeth neu gwynion lleol perthnasol eraill sydd wedi’ch helpu i newid eich ymarfer neu gadarnhau’ch ymarfer da presennol.
Cofio ‘Cyfrinachedd’
Gall dogfennau gwreiddiol gynnwys gwybodaeth sy’n gallu adnabod unigolion. Gallech ddewis cyflwyno’r dogfennau hyn yn ystod eich arfarniad yn hytrach na’u golygu a’u lanlwytho i system MARS. Wedyn, gall eich cofnod yn system MARS ganolbwyntio ar grynodeb dienw o’r materion, eich myfyrdod ac unrhyw newidiadau i’ch ymarfer.
Mae templed MARS yno i’ch helpu a sicrhau bod y pwyntiau perthnasol yn cael eu cynnwys.
Os oes cwyn sydd wedi’ch enwi yn parhau am sawl blwyddyn, nid oes angen i chi fyfyrio arni yn ystod pob arfarniad os nad oes unrhyw gynnydd sylweddol wedi’i wneud, ond dylai’ch datganiad blynyddol gydnabod bod cwyn yn parhau i fynd rhagddi, a dylech fyfyrio arni o leiaf unwaith ym mhob cylch ailddilysu.
Datganiadau uniondeb
Mae’n bwysig darllen y datganiadau uniondeb yn ofalus a chwblhau’r ymatebion cyn pob arfarniad.