Gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer gwybodaeth ategol.
Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i bob meddyg trwyddedig gasglu gwybodaeth ategol benodedig at ddibenion ailddilysu.
Nid yw casglu’r wybodaeth yn unig yn ddigon.
Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn gofyn i chi fyfyrio ar eich gwybodaeth ategol a’r hyn y mae’n ei ddweud am eich ymarfer, a bydd hynny’n eich helpu i wella ansawdd eich gofal ar gyfer cleifion, a’r gwasanaethau a ddarparwch fel meddyg.
Hefyd, mae’n ofynnol i feddygon gyflwyno’r wybodaeth ategol mewn arfarniad blynyddol a’i thrafod gyda’r arfarnwr.
Dylai’r broses fyfyrio a’r drafodaeth ganolbwyntio ar yr hyn sydd wedi’i ddysgu, pa newidiadau sydd wedi’u gwneud neu sydd yn yr arfaeth, ac unrhyw feysydd o ymarfer da i’w cadw neu’u datblygu.
Mae’r wybodaeth ategol y mae’n rhaid i chi ei chyflwyno yn ystod eich arfarniad yn dod o dan bedwar pennawd cyffredinol:
- Gwybodaeth gyffredinol - Darparu cyd-destun am yr hyn rydych yn ei wneud ym mhob agwedd ar eich gwaith
- Cael y wybodaeth ddiweddaraf - Cynnal a gwella ansawdd eich gwaith proffesiynol
- Adolygu’ch ymarfer - Gwerthuso a gwella ansawdd eich gwaith proffesiynol
- Adborth ar eich ymarfer - Gofyn am adborth ar ansawdd eich gwaith proffesiynol ac ymateb iddo.
Mae gwefan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cynnwys y canllawiau diweddaraf
Mae yna chwe chategori o wybodaeth ategol
- Datblygiad proffesiynol parhaus
- Gweithgaredd gwella ansawdd
- Digwyddiadau arwyddocaol
- Adborth gan gleifion neu’r rhai rydych yn darparu gwasanaethau meddygol iddynt
- Adborth gan gydweithwyr
- Canmoliaeth a chwynion
Trwy fyfyrio ar y chwe chategori o wybodaeth ategol, a’u trafod, drwy’r broses arfarnu yn ystod y cylch ailddilysu, byddwch yn gallu dangos sut mae’ch ymarfer yn cyd-fynd â’r egwyddorion a’r gwerthoedd a nodwyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn y fframwaith ymarfer meddygol da ar gyfer arfarnu ac ailddilysu.
Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i’ch swyddog cyfrifol wneud argymhelliad i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol am eich ailddilysu.
Defnyddio gwefan MARS i fodloni gofynion ailddilysu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer gwybodaeth ategol
Mae gwefan MARS yn eich arwain drwy’r broses o gyflwyno’r holl wybodaeth ofynnol.
Dylech gyflwyno gwybodaeth gyffredinol am yr holl waith rydych yn ei wneud fel meddyg o dan eich manylion yn yr adrannau gwybodaeth a gweithgareddau personol a phroffesiynol, a dylech sicrhau bod y wybodaeth hon yn gyfredol ym mhob arfarniad.
Hefyd, gofynnir i chi gwblhau’r datganiadau iechyd ac uniondeb gofynnol ar gyfer pob arfarniad.
Mae MARS yn caniatáu i chi ddewis un neu fwy o gategorïau gwybodaeth ategol perthnasol y Cyngor Meddygol Cyffredinol wrth gyflwyno’ch gwybodaeth ar gyfer yr arfarniad.
Mae’r penawdau yn nhempledi MARS wedi’u llunio i helpu i sicrhau eich bod yn cynnwys y wybodaeth ofynnol.
Ar ôl pob trafodaeth arfarnu, bydd eich arfarnwr yn ysgrifennu crynodeb o’r arfarniad, a bydd yn ‘gwirio’ unrhyw wybodaeth ategol lle rydych wedi cytuno bod gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi’u bodloni yn nhudalen ‘Ailddilysu’ y crynodeb.
Bydd y dudalen ‘Ailddilysu’ yn y crynodeb o’ch arfarniad yn llywio’ch tudalen gyffredinol ‘Cynnydd tuag at Ailddilysu’ ar system MARS.
Yn eich tudalen ‘Cynnydd tuag at Ailddilysu’, gallwch weld eich cynnydd tuag at ofynion ailddilysu ar gyfer pob arfarniad yn y cylch ailddilysu presennol.
Bydd gwybodaeth ategol wedi’i dilysu yn cael ei nodi’n glir.
Hefyd, gallwch weld eich dyddiad ailddilysu presennol, a’ch hanes ailddilysu.
Dylech wirio’r cofnod hwn, a nodi unrhyw wybodaeth ategol nad yw wedi’i darparu eto, fel y gallwch fodloni’r gofynion ar gyfer ailddilysu mewn da bryd, a sicrhau eich bod yn ‘barod am y broses ailddilysu’ erbyn yr arfarniad olaf yn y cylch.
Gall eich arfarnwr presennol weld y cofnod, a bydd yn eich atgoffa am unrhyw rwymedigaethau sy’n weddill yn ôl yr angen.
Mae’ch Swyddog Cyfrifol yn gallu gweld eich gwybodaeth ‘Cynnydd tuag at Ailddilysu’ ar MARS, ac mae’n gallu gweld pa Wybodaeth Ategol sydd wedi’i dilysu yn ystod yr arfarniad, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth sydd angen ei datblygu, neu nad yw wedi’i chyflwyno eto. Mae hyn yn ei helpu i wneud argymhelliad ailddilysu i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol pan fydd angen.
Ansawdd gwybodaeth nid faint o dystiolaeth
Mae’n bwysig bod eich gwybodaeth ategol o ansawdd digonol i gefnogi’ch dysgu a’ch datblygiad, a’i bod yn eich helpu i fyfyrio er mwyn nodi meysydd i’w gwella a chryfderau yn eich ymarfer. Nid yw’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn pennu isafswm nac uchafswm o wybodaeth ategol.
Mae angen i’ch ffolder arfarnu gynnwys digon o wybodaeth ategol i sicrhau bod modd cynnal trafodaeth arfarnu ystyrlon.
Dylai cymryd rhan mewn arfarniad wella’ch gwaith yn hytrach nag amharu arno. Mae arfarnu yn weithgaredd proffesiynol a ddylai gefnogi datblygiad proffesiynol a darparu’r sicrwydd o ymarfer gofynnol, ac ni ddylai fod yn rhy feichus.
Faint yw ‘digon’?
Dylech gynnwys gwybodaeth hanfodol bob tro.
Er enghraifft, weithiau gall eich sefydliad ofyn i chi gyflwyno gwybodaeth benodol i’r arfarniad, e.e. canlyniadau ymchwiliad neu gŵyn. Rhaid cynnwys y wybodaeth hon fel y gallwch ei thrafod gyda’ch arfarnwr, a gall eich arfarnwr ei chofnodi yn eich crynodeb.
Bydd angen i rai ffolderi arfarnu gynnwys categorïau penodol o wybodaeth ategol a gasglwyd y flwyddyn honno at ddibenion ailddilysu e.e. arolygon cleifion a chydweithwyr, QIA.
Mae gwybodaeth arall ar gyfer y broses ailddilysu yn cynnwys adolygiad o unrhyw ddigwyddiadau, cwynion neu ganmoliaeth arwyddocaol yn ystod blwyddyn yr arfarniad.
Nid oes angen cofnodi holl fanylion eich gweithgarwch addysgol dros gyfnod yr arfarniad. Dylech fod yn ddewisol a darparu enghreifftiau o ansawdd uchel o fyfyrio ar eich gweithgareddau mwyaf arwyddocaol, er mwyn llunio ffolder arfarnu gytbwys.
Nid oes angen i chi sganio na darparu copïau o dystysgrifau at ddibenion arfarnu ac ailddilysu os oedd modd i chi ddangos enghreifftiau o’ch dysgu drwy gofnod myfyriol priodol. Efallai y bydd yn syniad da arbed tystysgrifau neu ddogfennau pwysig ar system MARS fel bod modd dod o hyd iddynt os oes angen e.e. tystysgrifau ar gyfer hyfforddiant gorfodol. Mae’n bwysicach lanlwytho dogfennau ategol sy’n ychwanegu gwerth at eich cofnod arfarnu. Mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer holiaduron QIA ac adborth, lle bydd y manylion llawn yn helpu’ch arfarnwr i asesu a ydych wedi bodloni gofynion ailddilysu.
Wrth feithrin profiad, a thrwy drafod â’ch arfarnwyr, byddwch yn datblygu syniad da o’r hyn sy’n ‘ddigon’.
Mae gan rai Colegau ofynion DPP penodol, er enghraifft 50 awr/credyd o weithgarwch DPP y flwyddyn. Nid yw’r gofynion hyn yn berthnasol i broses arfarnu neu ailddilysu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Wrth reswm, gallwch gynnwys rhai enghreifftiau o DPP gorfodol yn eich ffolder arfarnu, a dylech gynnwys enghreifftiau sydd wedi cael yr effaith fwyaf er mwyn manteisio’n llawn ar y broses arfarnu, neu os ydych yn teimlo y byddai trafodaeth bellach â’ch arfarnwr yn ychwanegu gwerth drwy’ch helpu i gynllunio datblygiad pellach.
Dylai gwybodaeth ategol ddod o ymarfer yn y DU
Mae ailddilysu yn sicrhau cleifion a’r cyhoedd bod gwybodaeth meddygon yn parhau i fod yn gyfredol a’u bod yn gymwys i ymarfer, yn unol â’r safonau ymarfer sy’n ofynnol yn y DU. Mae’n seiliedig ar yr egwyddor eich bod wedi bodloni’r disgwyliadau proffesiynol sy’n berthnasol i chi fel meddyg sy’n ymarfer yn y DU
Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn disgwyl i chi gasglu, myfyrio ar, a thrafod gwybodaeth ategol sy’n deillio o’ch holl ymarfer yn y DU yn unol â’r hyn a amlinellir yn ei ganllawiau.
Mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch swyddog cyfrifol os ydych yn bwriadu ymarfer dramor a bod gennych drwydded i ymarfer yn y DU. Dylech drafod sut gallwch fodloni gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer gwybodaeth ategol ac arfarniadau ymarfer cyfan.
Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y gallai meddyg â gwybodaeth ategol sydd wedi deillio’n gyfan gwbl neu’n sylweddol o ymarfer dramor gadw ei drwydded i ymarfer yn y DU.
Mae myfyrio’n hanfodol
Mae myfyrio parhaus ar eich ymarfer yn ganolog i’r broses ailddilysu, a dylai fod yn rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer eich arfarniad blynyddol.
Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i chi fyfyrio ar eich gwybodaeth ategol.
- Myfyrio ar eich gweithgaredd a’ch dysgu – ar y pryd, wedyn, gyda’ch tîm, wrth i chi ysgrifennu’ch cofnod arfarnu, ac yn eich trafodaeth arfarnu
- Canolbwyntio ar newidiadau i’ch ymarfer a’r effaith ar gleifion
- Mae tystiolaeth o fyfyrio a chanlyniadau’r gweithgaredd yn bwysicach na disgrifiadau hir o’r hyn a wnaethoch
- Mae penawdau templed MARS yno i’ch helpu
- Gall llwytho dogfennau ategol ddarparu gwybodaeth am yr hyn a wnaethoch, fel y gallwch ganolbwyntio ar wneud nodyn o’ch myfyrdodau a’ch canlyniadau yn y templedi
Ceir rhagor o wybodaeth am ymarfer myfyriol yma
Cyfrinachedd
Bydd gwybodaeth ddienw yn ddigonol fel arfer at ddibenion heblaw gofal uniongyrchol y claf, a rhaid i chi ei defnyddio yn hytrach na gwybodaeth ag enw lle bynnag y bo modd
Canllawiau pellach y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfrinachedd
Mae gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn tynnu sylw at bwysigrwydd myfyrio ar wybodaeth ategol.
Dylai meddygon ysgrifennu eu myfyrdodau mewn modd proffesiynol a ffeithiol.
Dylai unigolion aros yn ddienw a dylid canolbwyntio ar ddysgu a’r hyn y gellid ei wneud i wella.
Mae’n hanfodol sicrhau na ellir adnabod trydydd partïon, boed yn gleifion neu’n gydweithwyr.
Wrth fyfyrio’n ysgrifenedig ar faterion sensitif yn ystod yr arfarniad, mae angen i feddyg ddod o hyd i gydbwysedd proffesiynol synhwyrol, er mwyn darparu tystiolaeth o fyfyrio effeithiol ac osgoi rhannu gormod o dystiolaeth mewn ffordd amhriodol.
Pan fydd dogfennau ategol yn cynnwys gwybodaeth sy’n gallu adnabod unigolion, gallai fod yn fwy priodol eu cyflwyno yn ystod y drafodaeth arfarnu, yn hytrach na cheisio eu golygu a’u lanlwytho i MARS.
Mae sicrhau bod claf yn aros yn ddienw yn ymwneud â mwy na dileu gwybodaeth sy’n gallu ei adnabod h.y. enw, cyfeiriad ac ati. Dylech feddwl am beth fyddai’n digwydd pe bai rhywun o’r tu allan i’ch sefydliad yn gweld y wybodaeth. Mewn rhai achosion prin neu broffil uchel, gallai gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd arwain at adnabod gwrthrych y cofnod er nad ydych wedi cynnwys y wybodaeth hon - y prawf "ymyrrwr â chymhelliad" fel y’i gelwir. Dylech feddwl am y prawf hwn bob amser wrth gynnwys eich cofnodion yn system MARS. Mae’r comisiynydd gwybodaeth yn darparu gwybodaeth a chyngor ar y pwnc yn adrannau 2 a 3 o’i god anhysbysrwydd. Cofiwch fod yr arfarniad yn canolbwyntio ar ddysgu, nid ar yr hyn a ddigwyddodd i unigolyn, felly nid oes angen llawer o wybodaeth arnom am fanylion yr achos ond mwy am beth oedd angen i chi ei ddysgu o unrhyw ddigwyddiad yn eich barn chi.