Dyma rai Egwyddorion Arfarnu Allweddol yng Nghymru:
- Rhoi cyfle i unigolion fyfyrio ar eu hymarfer a’u dull gweithredu ym maes meddygaeth; myfyrio ar y wybodaeth ategol y maen nhw wedi’i chasglu a beth mae’r wybodaeth yn ei ddangos am eu hymarfer; nodi meysydd ymarfer lle y gallent wneud gwelliannau neu ymgymryd â datblygiad pellach; dangos bod eu gwybodaeth yn gyfredol
- Darparu cyfleoedd ar gyfer cyfathrebu rhwng meddygon a’r sefydliadau lle maen nhw’n gweithio mewn perthynas â sgiliau, gallu, amcanion lefel sefydliadol, cyfyngiadau ac anghenion dysgu
- Rhoi sicrwydd i’r sefydliad/sefydliadau bod gwybodaeth meddygon yn parhau i fod yn gyfredol ym mhob agwedd ar eu hymarfer
- Darparu llwybr at ailddilysu sy’n datblygu ac yn cryfhau systemau presennol heb ormod o fiwrocratiaeth
Mae arfarnu yn adolygiad rheolaidd a systematig o gyflawniadau’r gorffennol gyda’r bwriad o gynllunio anghenion dysgu yn y dyfodol. Dylid ei hystyried yn broses barhaus o ddatblygiad personol a phroffesiynol. Dylid ystyried y broses yn gyfle i feddygon gasglu gwybodaeth am gwmpas llawn eu hymarfer eu hunain a’r hyn y mae hynny’n ei ddangos, myfyrio ar eu dulliau gweithio, nodi gwelliannau y gellid eu gwneud a sut y gallent ddatblygu ymhellach.