Mae'r adran adnoddau ar gyfer Meddygon yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i feddygon er mwyn eu paratoi ar gyfer y broses arfarnu ac ailddilysu yng Nghymru.
Mae arfarniad yn adolygiad ffurfiannol, systematig a rheolaidd o gyflawniadau'r gorffennol. Mae'n cynnwys cynllunio adeiladol ar gyfer anghenion dysgu yn y dyfodol sy'n cwmpasu'r holl swyddogaethau a gyflawnir gan feddyg, ac enw'r broses yw arfarniad ymarfer cyfan. Nid un digwyddiad yw hwn, ond mae'n rhan o broses barhaus o adolygu a chynllunio datblygiad personol a phroffesiynol ac yn rhan annatod o ddysgu yn ystod eich gyrfa.
Arfarniadau blynyddol a diffyg pryderon yw'r sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniad ar ailddilysu, bob 5 mlynedd fel arfer. Mae ailddilysu ac arfarnu yn seiliedig ar egwyddorion canllawiau Ymarfer Meddygol Da y Cyngor Meddygol Cyffredinol sy'n disgrifio'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn feddyg da.
Yng Nghymru, mae pob meddyg teulu, a'r rhan fwyaf o feddygon eraill, yn defnyddio'r System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS) i drefnu a choladu eu holl wybodaeth ar gyfer arfarniadau blynyddol. Mae'r system MARS yn pennu chwarter penodol fel bod meddygon yn gallu cwblhau eu harfarniad e.e. Ionawr – Mawrth. Mae rhagor o wybodaeth am MARS ar gael yma.
Mae'r prosesau arfarnu ac ailddilysu yng Nghymru yn cynnwys nifer o bobl allweddol i sicrhau bod y prosesau'n cael eu cynnal yn effeithiol ac yn gadarn. Amlinellir y rolau a'r cyfrifoldebau hyn isod, a chyfeirir atynt mewn rhannau eraill o'r wefan.
Rôl | Cyfrifoldebau |
---|---|
Meddyg |
Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal arfarniadau blynyddol a chynnwys holl wybodaeth ategol ailddilysu'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ôl y gofyn. |
Arfarnwr |
Bydd yn cynnal eich arfarniad, gan eich annog i fyfyrio ar eich dysgu a'ch profiadau ac ystyried sut maen nhw wedi gwella’ch ymarfer. Hefyd, bydd yn cynllunio'ch Cynllun Datblygu Personol er mwyn nodi'r hyn y byddwch yn ei ddysgu dros y 12 mis nesaf. |
Cydgysylltydd / Arweinydd Arfarnu |
Fel arfer, mae'r unigolyn hwn yn Arfarnwr profiadol sy'n darparu cyngor a chymorth i dîm o Arfarnwyr o fewn eu sefydliad/maes. Mae'n darparu llwybr i Arfarnwyr drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt y tu allan i'r strwythur llywodraethu clinigol ffurfiol, ac mae'n darparu cymorth i'r Tîm Ailddilysu a'r Swyddog Cyfrifol. |
Corff Dynodedig |
Eich Corff Dynodedig yw'r sefydliad a fydd yn penodi'ch Swyddog Cyfrifol. Yn y GIG yng Nghymru, eich Bwrdd Iechyd yw'r Corff Dynodedig, a'ch Swyddog Cyfrifol yw Cyfarwyddwr Meddygol y Bwrdd Iechyd. Os ydych yn gweithio'n gyfan gwbl y tu allan i GIG Cymru, mae'n debyg mai'ch cyflogwyr fydd eich corff dynodedig, ac mae ganddo ddyletswydd i hwyluso arfarniadau blynyddol i chi. Os ydych yn gweithio ar raddfa hyfforddiant yn GIG Cymru, eich Swyddog Cyfrifol yw Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC. Dylech gael cysylltiad â'ch Swyddog Cyfrifol trwy wasanaeth GMC connect. |
Tîm Ailddilysu |
Hwn yw'r tîm o fewn eich corff dynodedig a fydd yn gallu'ch cynorthwyo gyda'r broses arfarnu ac ailddilysu. Gall y tîm gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth ar gyfer eich proses ailddilysu os oes angen. |
Swyddog Cyfrifol |
Mae'ch Swyddog Cyfrifol yn gyfrifol am gyflwyno'ch argymhelliad ailddilysu i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac mae'n gyfrifol am sicrhau ansawdd prosesau arfarnu ac ailddilysu o fewn ei Gorff Dynodedig gan gynnwys llywodraethu clinigol. |
Person Addas |
Os nad oes gennych gysylltiad â Swyddog Cyfrifol, gallech gael cysylltiad â Pherson Addas dynodedig. Rhaid i Berson Addas gael ei gymeradwyo gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Byddai'r unigolyn hwn yn cyflwyno'ch argymhelliad ailddilysu i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol. |
Uned Gymorth Ailddilysu |
Mae'r Uned Cymorth Ailddilysu yn rhan o Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac mae ganddi nifer o gyfrifoldebau gan gynnwys:
|
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol |
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol yw'r rheoleiddiwr ar gyfer y proffesiwn meddygol, ac mae'n gyfrifol am reoli'r broses ailddilysu. Bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn gyfrifol am eich penderfyniad ailddilysu terfynol ar ôl derbyn argymhelliad gan eich Swyddog Cyfrifol neu Berson Addas. Os nad oes gan feddygon unrhyw gysylltiad yn rhywle arall, gallant gysylltu'n uniongyrchol â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac os felly rhaid cynnal proses flynyddol ar gyfer arfarnu ac asesu er mwyn ailddilysu meddygon. |