Dysgu ac Offer Ar-lein
Arolwg Adborth Arfarnu Meddygol MARS
Fel Arfarnwr gallwch weld adborth dienw gan y meddygon rydych chi wedi'u harfarnu trwy MARS. Er mwyn sicrhau anhysbysrwydd, mae'r rhain yn cael eu rhyddhau mewn lluosrifau o dri. Os ydych wedi cwblhau pum arfarniad er enghraifft, dim ond tri ymateb adborth y byddwch yn gallu eu gweld nes eich bod wedi cwblhau chweched arfarniad.
Bydd yr arolwg adborth yn ymdrin â meysydd fel:
- Yr arfarniad
- Gweinyddu a rheoli MARS
- Yr Arfarnwr
- Yr arfarniad yn gyffredinol
- Orbit360 (system adborth cleifion a chydweithiwr)
Dylid edrych ar yr adborth a'i adlewyrchu arno fel rhan o'ch arfarniad ymarfer cyfan bob blwyddyn. Gellir dod o hyd i'r adborth ar MARS yn eich rôl Arfarnwr o dan ‘Dadansoddiad Adborth’ (Feedback Analytics), dewiswch yr arolwg byw o'r opsiynau gollwng a dewis y cyfnod amser yr hoffech ei weld.
Pynciau DPP byr ar gyfer Arfarnwyr yng Nghymru
Yn flaenorol, cynhaliodd yr Uned Cymorth Ailddilysu, AaGIC, weithdai byrion rhithwir ar 'Cyflwyniad i Hyfforddi mewn Arfarnu Meddygol' ac 'Ail-gydbwyso Arfarnu'. Roedd y gweithdai ar-lein yn gyfle i Arfarnwyr ddysgu sgiliau newydd, adnewyddu sgiliau presennol a myfyrio ar ffyrdd newydd o wella eu rôl.
Os oes gennych awgrymiadau ar gyfer pynciau’r gweithdai yn y dyfodol, cysylltwch â’r Uned Cymorth Ailldilysu (RSU) arHEIW.RSURevQA@wales.nhs.uk
Cyflwyniad i Hyfforddi mewn Arfarnu Meddygol
Mae'r modiwl 'Cyflwyniad i Hyfforddi mewn Arfarnu Meddygol' yn canolbwyntio ar fodelau hyfforddi, sgiliau ac aliniad arfarnu, a defnyddio arddull hyfforddi i gefnogi datblygiad y Cynllun Datblygu Personol (CDP). Mae'r modiwl hwn ar gael drwy’r ddolen isod:
Modiwl Cyflwyniad i Hyfforddi mewn Arfarnu
Sgiliau Arfarnu Addysgol
Rhan 1