Mae Arfarnwr Meddygol yn feddyg trwyddedig fel arfer, fodd bynnag gallai fod yn fwy priodol i Arfarnwr fod o gefndir nad yw'n feddygol, er enghraifft os oes gan feddyg rôl rheoli uwch.
Fel gyda phob rôl y mae meddyg yn ymgymryd â hi, os yw'n Arfarnwr, rhaid iddo ymgymryd â DPP sy'n benodol i'r rôl honno. Mae'r Uned Cymorth Ailddilysu (RSU) yn darparu llawer o gyfleoedd gwahanol ar gyfer datblygu Arfarnwyr.
Sylwch, bydd rhai modiwlau caiff eu cyfeirio atynt ar y dudalen hon yn eich cymryd at Blatfform Y Tŷ Dysgu ble bydd gofyn i chi mewngofnodi er mwyn eu cwblhau. Os nad oes gennych gyfrif, bydd modd i chi gofrestru i gael cyfrif ar y dudalen mewngofnodi.
Fel arfarnwr, efallai y byddwch yn dod ar draws sefyllfaoedd sensitif neu gymhleth o bryd i'w gilydd yn ystod y broses arfarnu. Isod mae enghreifftiau o senarios heriol, ynghyd â chanllawiau ymarferol ar sut i ymateb yn effeithiol, yn broffesiynol, ac yn unol ag egwyddorion arfarnu.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.