Mae’r arfarnwr a’r sawl sy’n cael ei arfarnu yn cytuno ar ddyddiad ac amser y cyfarfod arfarnu ymlaen llaw, a nodir y manylion yn system MARS.
Fel arfer, mae cyfarfodydd arfarnu yn para tua 90-120 munud. Mae hyn yn dibynnu ar y sgwrs ac ar faint o wybodaeth ategol sydd angen ei thrafod, gan gynnwys elfennau ailddilysu, myfyrio manwl ac ati. Mae’n bwysig cofio bod y cyfarfod arfarnu yn cael ei gynnal er mwyn cynorthwyo’r meddyg a’i ddatblygiad personol a phroffesiynol. Gwaith yr Arfarnwr yw hwyluso trafodaeth am lwyddiannau blaenorol a chynlluniau’r dyfodol.
Dylid cynnal y cyfarfod mewn lleoliad ac ar adeg pan na fydd neb yn amharu ar y cyfarfod, er enghraifft ar adeg pan nad ydych ar alwad.
Pecyn Cymorth Gwerthuso Meddygol Cymru i gyd
Nod y Pecyn Cymorth yw i ddarparu Arfarnwyr, Meddygon a chydweithwyr y maent yn cefnogi gydag adnodd canolog. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi tynnu sylw yn fwy nag erioed at bwysigrwydd bod y rhai sy'n gofalu am y Genedl hefyd yn ystyried a gofalu am eu hunain.
Arfarnu Rhithwir
Mae arfarnu rhithwir yn parhau i fod yn opsiwn derbyniol ar gyfer y cyfarfod arfarnu.
Mae'r adnodd isod ar gael os bydd unrhyw ymholiadau ynghylch arfarnu rhithwir.