Croeso i'n hadnodd canllaw ar gyfer Arfarnwyr sy'n cynnal arfarniadau rhithwir.
Ar ôl defnyddio cyfarfodydd rhithwir, gwerthusodd yr RSU yr arfarniadau meddygol rhithwir o ran derbynioldeb, profiad ac ansawdd yr allbynnau. Argymhellodd y gwerthusiad fod arfarniadau rhithwir yn parhau i fod yn opsiwn sydd ar gael ar gyfer arfarniad yn seiliedig ar gydsyniad y sawl sy’n cael ei arfarnu a’r Arfarnwr. Mae'r sefyllfa hon bellach wedi'i chymeradwyo gan Grŵp Goruchwylio Ailddilysu Cymru y mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn Gadeirydd arno.
Mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio i'ch arwain trwy arfer gorau wrth gynnal y mathau hyn o arfarniadau.
Gobeithiwn y bydd hyn yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol i chi wrth ddeall y pynciau canlynol:
- Beth yw arfarniad rhithwir
- Pa lwyfannau/meddalwedd a argymhellir a sut i gael mynediad at sesiynau tiwtorial ar gyfer y rhain
- Sut i baratoi'n effeithiol ar gyfer arfarniad rhithwir
- Sut i gynnal arfarniad rhithwir yn effeithiol
Rheolir yr adnodd hwn gan yr Uned Cymorth Ailddilysu o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac fe’i datblygwyd yn wreiddiol ym mis Awst 2020. Mae’r cyfranwyr yn cynnwys Roger Morris, Cydlynydd Arfarnu Meddygon Teulu Caerdydd, Esther Youd, Arfarnwr Cwm Taf Morgannwg, Katie Leighton a Miriam Davies RSU.
Mae adolygiad wedi’i gynnal ers hynny, a chafodd y modiwl ei ddiweddaru ym mis Mawrth 2022.
Beth yw arfarniad rhithwir?
O ran yr adnodd hwn rydym yn diffinio arfarniad rhithwir fel cyfarfod arfarnu sy'n digwydd dros lwyfan neu feddalwedd rhithwir, e.e Teams, ac nad yw'n cael ei gynnal mewn amgylchedd wyneb yn wyneb.
Mae canllawiau'r GMC ar Gynnal arfarniad ymarfer cyfan blynyddol yn nodi:
Eich cyfrifoldeb chi yw cael arfarniad blynyddol sydd:
yn cael ei wneud gyda’r arfarnwr a’r sawl sy’n cael ei arfarnu yn yr un ystafell, neu drwy gyswllt fideo, fel bod y naill yn weladwy i’r llall
Mae ystod eang o lwyfannau cyfarfod rhithwir a meddalwedd ar gael, ac efallai y bydd llawer o bobl bellach yn gyfarwydd â nhw. Bydd yr adnodd hwn yn rhoi arweiniad ar wahanol lwyfannau yn yr adrannau pellach.
Pwy all gael arfarniad rhithwir?
Mae arfarniad rhithwir yn opsiwn sydd ar gael ar gyfer arfarniad yn seiliedig ar gytundeb rhwng y person sy’n cael eu harfarnu ac yr Arfarnwr.
Beth yw manteision cael arfarniad rhithwir?
Os na ellir cyflawni arfarniad wyneb yn wyneb, mae arfarniad rhithwir yn ateb hygyrch a chynaliadwy sy'n caniatáu i'r meddyg gymryd rhan yn y broses arfarnu. Mae rhai o fanteision cael arfarniad rhithwir yn cynnwys:
- Dim pwysau wrth archebu ystafell neu ddod o hyd i le parcio
- Gallu cael arfarniad mewn amgylchedd cyfarwydd (ar gyfer yr arfarnwr a’r person sy’n cael eu harfarnu)
- Yn lleihau amser teithio
- Yn lleihau'r ôl troed carbon
- Mwy o amrywiaeth o ddyddiadau ac amseroedd arfarnu (gan ganiatáu ar gyfer mwy o hyblygrwydd i’r arfarnwr a’r gwerthusai)
- Gellir aildrefnu'r cyfarfod yn gyflym