Mae Arfer Myfyriol yn disgrifio’r broses lle mae meddwl beirniadol a myfyrdod yn llywio datblygiad personol ac yn arwain at newidiadau mewn ymddygiad a all arwain yn y pen draw at fuddion i gleifion. Mae’r GMC yn cyfeirio dro ar ôl tro at yr angen i feddygon ddangos eu bod wedi myfyrio ar ddigwyddiadau yn eu ffolderi arfarnu ac mae’r enghreifftiau a roddir yn dangos sut mae hyn yn berthnasol i’r 6 llinyn o dystiolaeth sydd eu hangen i lywio ailddilysu. Bwriad yr adnodd hwn nid yn unig yw dangos, gydag enghreifftiau, sut mae meddygon yn myfyrio ond, ac efallai yn bwysicach, pam. Mae myfyrio yn helpu meddygon i ystyried a herio gwerth arfer presennol ac wrth wneud hynny ystyried y posibiliadau o newid a fydd yn arwain at welliant yn y gwasanaeth a ddarperir ganddynt. Ar ben hynny, gall methu â gwneud hynny arwain at y math o farweidd-dra sy'n datblygu'n anfodlonrwydd â gofal ac yn y pen draw at gwynion. Mae trwydded barhaus y meddyg i ymarfer yn dibynnu i raddau helaeth ar osgoi'r olaf.
Disgrifir 'adnoddau' amrywiol i helpu'r meddyg sy'n chwilio am gymorth i adnabod a datblygu'r agweddau hynny o'i waith sy'n gyfystyr ag arfer myfyriol ond mae'r rhan fwyaf o glinigwyr medrus yn gwneud hyn yng nghwrs naturiol eu gwaith. Mae'n gŵyn gyffredin, fodd bynnag, bod gweithwyr proffesiynol yn dweud bod gorfod 'ysgrifennu hyn' ynddo'i hun yn faich. Byddai rhywun yn gobeithio bod rhai o'r myfyrdodau uchod yn tystio i werth ychwanegol gwneud hynny. Dadleuir yn rymus, nid lleiaf gan y GMC ei hun, y gallai methu â gwneud hynny beryglu cofrestriad parhaus.
- Cyngor Meddygol Cyffredinol: Supporting information for appraisal and revalidation
- Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth: Standards to support learning and assessment in practice. London, NMC, 2008 (2nd Ed.)
- Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol: Principles for Best Practice in Clinical Audit Oxford, Radcliffe Medical Press.
- Resources