Mae gan lawer ddelwedd o ddyn proffesiynol, gyda het a phib carw, yn gorwedd mewn cadair freichiau ac yn ystyried y ffeithiau, neu fel arall yn mabwysiadu 'safle Rodin' yn ddwfn eu meddwl. Nid yw'r ddelwedd o'r person unig sy'n ymdrin â chysyniadau haniaethol yn apelio at bawb ond nid oes angen iddi fod felly o reidrwydd. Mae'r enghraifft QIA yn dangos natur gymdeithasol bosib myfyrio effeithiol. Mae Jenny Moon, yn ei chyngor i fyfyrwyr, yn dangos nad oes angen i'r prosesau myfyrio fod yn 'haniaethol' chwaith. Wrth hyrwyddo'r cysyniad o fyfyrio ysgrifenedig mae'n annog y dysgwr adfyfyriol i egluro eu meddyliau ar y dudalen. Mae hwn yn arf ychwanegol pwysig wrth hyrwyddo arfer myfyriol. Mae hyn yn cael ei ddangos yn fwyaf amlwg efallai yn y prosesau o Ddadansoddi Digwyddiad Arwyddocaol (SEA).
Enghraifft Glinigol
Ar gyfer proffylacsis Thrombosis Gwythïen Ddofn (DVT) yn ystod llawdriniaeth i osod clun newydd, mae claf yn cael ei drin ag asiant Gwrth-geulo Geneuol Newydd (NOAC) ac yn cael ei rhyddhau gyda'r cyffur a restrir yn ei meddyginiaeth mynd adref. Mae'r clerc rhagnodi yn dangos y rhestr o feddyginiaethau rhyddhau i feddyg sy'n cyfarwyddo i roi meddyginiaethau newydd ar restr meddyginiaethau amlroddadwy'r claf. Mae hwn yn cael ei archebu'n fisol gan y fferyllfa leol a'i gymryd yn ddyddiol gan y claf nes bod cynrychiolydd meddygol, sy'n chwilfrydig ynghylch y dos sy'n cael ei roi, yn cwestiynu'r fferyllydd sydd, yn ei dro, yn anfon ymholiad i'r practis. Mae'n ymddangos bod cyffur a fwriadwyd am gyfnod byr yn unig ar ôl y llawdriniaeth (h.y. nes bod symudedd llawn wedi dychwelyd) wedi'i gymryd yn anfwriadol gan y claf ers dros chwe mis.
Yn ffodus ni ddaeth y claf i unrhyw niwed. Fodd bynnag, ar ôl canfod y gwall rhagnodi hwn ysgrifennodd y meddyg dan sylw, gan ddefnyddio templed safonol SEA y practis, fanylion yr SEA hwn. Yn dilyn arfer da, dosbarthwyd yr SEA i'r holl bartneriaid i'w ystyried cyn y cyfarfod ymarfer nesaf: roedd pob un yn gallu myfyrio ar y prosesau a'r digwyddiadau a arweiniodd at y camgymeriad. Roedd pawb oedd yn wybodus cyn y digwyddiad yn gallu datrys yr achos ac ystyried ffyrdd o atal digwyddiad tebyg rhag digwydd eto. Rhestrwyd y camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn yr adran berthnasol o'r ffurflen a'u dosbarthu eto i'r holl gydweithwyr er mwyn sicrhau unfrydedd. Ychwanegwyd y newidiadau mewn gweithdrefnau at brotocolau'r practis ar gyfer y camau a gymerwyd ar lythyrau rhyddhau o'r ysbyty.
Adnodd Myfyrio: Mae myfyrdod ysgrifenedig yn annog y broses fyfyriol ac yn helpu i grisialu meddyliau cysyniadol.
Pwynt o Ddiddordeb: Fe welwch ar wefan MARS o dan 'Categori' opsiwn 'cwymplen' sy'n rhoi fformatau sefydledig i chi ar gyfer Gweithgareddau Gwella Ansawdd ac adrodd ar Ddigwyddiadau Arwyddocaol.