Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Ydych chi’n gweithio yng Nghymru neu ym maes Ymarfer Meddygol am y tro cyntaf

Mae gwefan Ailddilysu Cymru yn cynnwys gwybodaeth am bob agwedd ar arfarnu ac ailddilysu a fydd yn eich helpu drwy’r broses hon. 

Os ydych yn gweithio fel meddyg yng Nghymru am y tro cyntaf, os ydych wedi ennill eich Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) yn ddiweddar, neu os ydych yn gweithio fel cymrawd clinigol neu mewn swydd arall ar radd nad yw’n cynnwys hyfforddiant (e.e. F3) bydd angen i chi wybod am rai pwyntiau allweddol yn ymwneud ag arfarnu ac ailddilysu, a rhoi rhai camau ar waith:  

Ymgyfarwyddo â chanllawiau arfarnu ac ailddilysu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol 

Os ydych newydd ddechrau ymarfer, byddwch am ymgyfarwyddo â chanllawiau arfarnu ac ailddilysu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein tudalen Gwybodaeth Ategol. 

Sicrhau eich bod wedi’ch ailddilysu adeg ennill eich Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant 

Os gwnaethoch chi ennill eich tystysgrif adeg gohirio’r broses ailddilysu (Mawrth 2020 - Mawrth 2021), ni fydd wedi bod yn bosib argymell eich ailddilysu yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl cwblhau’ch hyfforddiant, bydd eich Swyddog Cyfrifol yn newid i’r un sy’n gysylltiedig â’ch cyflogwr neu’ch Bwrdd Iechyd sy’n cadw eich cofrestriad ar gyfer y Rhestr Perfformwyr Meddygol (MPL). Dylai’ch Deoniaeth hyfforddiant roi llythyr i chi yn datgan y byddech wedi ailddilysu adeg ennill eich Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant. Bydd angen i’ch Swyddog Cyfrifol newydd ystyried eich sefyllfa a rhoi gwybod i chi pa gamau y bydd yn eu cymryd yn eich achos chi. 

Os ydych newydd dderbyn eich Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant, yn y rhan fwyaf o achosion dylai’ch Deoniaeth brosesu argymhelliad ailddilysu i chi. Byddwch yn derbyn cadarnhad gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedyn, ac yn cael gwybod am ddyddiad ailddilysu newydd mewn 5 mlynedd. Os nad ydych wedi cael eich ailddilysu, dylech gysylltu â thîm ailddilysu’ch Deoniaeth i gael rhagor o arweiniad. 

Sefydlu cysylltiad penodedig at ddibenion ailddilysu 

Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, eich cam cyntaf fydd sefydlu cysylltiad penodedig at ddibenion ailddilysu gyda chorff dynodedig, person addas neu’n uniongyrchol â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Dylai’ch cysylltiad penodedig adlewyrchu’ch cyflogaeth sylfaenol, ac i’r rhai sy’n gweithio o fewn GIG Cymru, y cysylltiad penodedig fydd Cyfarwyddwr Meddygol eich Bwrdd Iechyd.

Gweler canllawiau cysylltu Bydd angen i chi greu GMC cyfrifer mwyn sefydlu a rheolich cysylltiadau penodedig. 

Cofrestru gyda MARS fel y system arfarnu sengl yng Nghymru 

Rheolir arfarniadau meddygon teulu yng Nghymru gan yr Uned Gymorth Ailddilysu o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar ran y Byrddau Iechyd.  

Mae holl feddygon y GIG yn defnyddior System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS) i goladu a threfnu eu harfarniad blynyddol, a bydd angen i chi gofrestru gydar system cyn gynted ag y byddwch yn gweithio yng Nghymru ac nad ydych bellach mewn swydd hyfforddi. 

Os byddwch chi'n newid eich cysylltiad rhagnodedig er mwyn ailddilysu gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, rhaid i chi hefyd ddiweddaru'ch manylion proffesiynol ar MARS.

Swyddi F3 neu Gymrawd Clinigol ar broses arfarnu 

Os ydych yn gweithio neu’n bwriadu gweithio fel F3, Cymrawd Clinigol neu mewn swydd arall nad yw’n cynnwys hyfforddiant, mae angen i chi gwblhau proses arfarnu ac ailddilysu flynyddol. Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am arfarnu ac ailddilysu yng Nghymru yn ogystal â dolenni i’r system arfarnu sengl rydym yn ei defnyddio, sef MARS. Mae’n hanfodol eich bod yn cofrestru gyda MARS cyn gynted ag y byddwch yn dechrau’ch swydd ac yn cychwyn y broses arfarnu. Mae’r dudalen ‘Sut i baratoi ar gyfer arfarniad’ yn cynnwys rhagor o wybodaeth berthnasol. 

Fframwaith Gallu Digidol

Mae’r Fframwaith Gallu Digidol ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru yn adnodd ymarferol, rhyngweithiol, ar gyfer unigolion a thimau, i ddeall yn well y sgiliau, yr ymddygiadau a’r agweddau sydd eu hangen i ffynnu mewn byd digidol. Mae’r adnodd yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich galluoedd digidol a hunanasesu, i nodi eich cryfderau a meysydd i’w datblygu.

Fframwaith Gallu Digidol

Canllaw Fframwaith Gallu Digidol ar gyfer Arfer Meddygol Da

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences