Skip to main content
(press enter)

Ailddilysu yng Nghymru

Beth i’w ddisgwyl gan eich Arfarnwr

Bydd pob Arfarnwr wedi cwblhau hyfforddiant ffurfiol ar gyfer y rôl ac wedi cwblhau datblygiad proffesiynol parhaus.

Nid eich Arfarnwr sy’n gyfrifol am wneud argymhelliad ailddilysu yn ymwneud â chi. Bydd yn llunio crynodeb arfarnu mewn cydweithrediad â chi. Mae’r crynodeb hwn a hyd at bedwar crynodeb arall yn cynorthwyo’r Swyddog Cyfrifol i ystyried argymhelliad ailddilysu. Yn ystod cylch 5 mlynedd ailddilysu arferol bydd gennych isafswm o 3 Arfarnwr gwahanol. 

Mae pob un or Arfarnwyr yn unigolion gwahanol, felly maen bosibl y bydd y gwaith trefnu, paratoi a chynnal cyfarfodydd ychydig yn wahanol. Fodd bynnag, maer elfennau canlynol yn allweddol: 

  1. Paratoin drylwyr cyn y cyfarfod arfarnu a meddu ar wybodaeth gadarn am ffolder y sawl syn cael ei arfarnu   
  2. Gweithredun gyflym ac yn ddibynadwy (naill ai drwy e-bost neu dros y ffônwrth gysylltu âr sawl syn cael ei arfarnu cyn ac ar ôl y cyfarfod yn unol âr gofyn  
  3. Sicrhau bod y sawl syn cael ei arfarnu yn teimlon gyfforddus yn ystod y cyfarfod arfarnu trwy gynnal sgwrs gefnogol a nodi pethau sydd wedi mynd yn dda yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ir meddyg ar sail y wybodaeth a ddarparwyd 
  4. Darparu strwythur ar gyfer y cyfarfod, gan sicrhau bod modd ir sawl syn cael ei arfarnu fynegi elfennau syn bwysig iddo. Weithiau mae materion llesiant yn bwysicach nag elfennau eraill, ac maen bosibl y bydd newid strwythurol yn yr amgylchedd gwaith ac y bydd angen trafod a dilysu unrhyw wybodaeth ategol a gyflwynir.   
  5. Nodi cyfyngiadau i ddatblygiad y sawl syn cael ei arfarnu (hyd yn oed os nad ywr sawl syn cael ei arfarnu yn eu nodin benodol) 
  6. Hwyluso a herior sawl syn cael ei arfarnu i feddwl yn fanylach am yr hyn y mae wedii nodi fel gwybodaeth ategol  
  7. Ceisio galluogi a hwylusor meddyg i nodi meysydd posibl y mae angen iddo eu datblygu – au defnyddio i gytuno ar eitem i’r CDP 
  8. Atgoffa meddygon bod angen iddynt gynnwys holl feysydd eu hymarfer  
  9. Meddu ar ddigon o wybodaeth i allu atgyfeirior meddyg i ffynonellau cymorth neu arweiniad amrywiol os oes angen  
  10. Ysgrifennu crynodeb proffesiynol a chywir or cyfarfod arfarnu yn unol ag amserlen resymol   
  11. Gwybod am holl elfennaur broses arfarnu ac ailddilysu a gallu ateb unrhyw gwestiynau gan y sawl syn cael ei arfarnu neu ddod o hyd ir ateb a chysylltu ag ef wedyn 

 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences