Croeso i Wefan Ailddilysu Cymru
Mae'r wefan hon yn amlinellu'r prosesau sydd ar waith ar gyfer dull cyson o ailddilysu ac arfarnu pob meddyg yng Nghymru. Darperir y wefan ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae wedi'i datblygu a'i chefnogi gan yr Uned Gymorth Ailddilysu o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Gobeithio y bydd yn adnodd defnyddiol i chi ac y bydd, ar y cyd â gwefan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi'r broses o arfarnu ac ailddilysu yng Nghymru ar gyfer ein rhanddeiliaid gan gynnwys meddygon, Arfarnwyr, Byrddau Iechyd a chleifion.
Dr Christopher Price, Pennaeth yr Uned Gymorth Ailddilysu.